Neidio i'r cynnwys

Llên Paragwái

Oddi ar Wicipedia
Llên Paragwái
Detholiad o lyfrau o Baragwái yn yr iaith Guaraní.
Enghraifft o:agweddau o ardal ddaearyddol, is-set o lenyddiaeth Edit this on Wikidata
GwladwriaethParagwái Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Priod nodwedd llenyddiaeth genedlaethol Paragwái yw ei dwyieithrwydd: mae rhyw 70% o'r boblogaeth yn medru Sbaeneg a Guaraní, dwy iaith swyddogol y wlad, a thrwch y gweddill yn rhugl mewn un o'r ddwy. O ganlyniad dau draddodiad llenyddol cywerth sydd wedi datblygu ym Mharagwái, sefyllfa unigryw o gymharu â'r nifer fwyaf o wledydd eraill De America ac America Ladin. Mae 5% o'r boblogaeth yn siarad iaith frodorol neu iaith Ewropeaidd arall, ac ysgrifennir rhywfaint yn yr ieithoedd hynny. Ymhlith y llenorion nodedig o Baragwái mae Josefina Pla, Gabriel Casaccia, Elvio Romero, Rubén Bareiro Saguier, ac Augusto Roa Bastos.

Cychwynnodd llên ysgrifenedig ym Mharagwái gyda gwladychwyr o Sbaen yn ystod yr oes drefedigaethol, pan oedd y diriogaeth yn rhan o Raglywiaeth Periw ac yna Rhaglywiaeth Río de la Plata. Datblygodd llenyddiaeth Sbaeneg ymhellach yn sgil annibyniaeth ym 1811, er yr oedd yn araf o gymharu â chenhedloedd eraill De America oherwydd y nifer uchel o siaradwyr Guaraní uniaith. Yn niwedd y 19g canolbwyntiodd llenorion ar brifiant y wlad a datblygiad ei hunaniaeth genedlaethol, ac felly hanes oedd prif bwnc llenyddiaeth ffeithiol a ffuglen ill dau, yn aml trwy fframwaith Rhamantiaeth.[1] Ysgogwyd realaeth yn llên Paragwái gan Ryfel y Chaco (1932–35), mewn gweithiau megis El guajhú (1938) gan Gabriel Casaccia a Cruces de quebracho (1934) gan Arnaldo Valdovinos.

Ers y 19g, mae nifer o ysgolheigion a beirniaid wedi diystyru llên Paragwái, a'i bywyd celfyddydol yn gyffredinol, gan ailadrodd ystrydebau am ddiffeithwch diwylliannol a methiant "Cynnydd" yn y wlad. Yn hanesyddol, bernir cynnyrch ysgrifenedig Sbaeneg Paragwái yn anffafriol o gymharu â gwledydd eraill y Côn Deheuolyr Ariannin, Tsile, ac Wrwgwái. Rhoddir y bai am anaeddfedrwydd ar hanes gwaedlyd a gormesol y wlad, yn enwedig dinistr Rhyfel y Gynghrair Driphlyg (1864–70) a sawl unbennaeth filwrol. Ceir hefyd elfen o ethnoganoledd Sbaen-Americanaidd a goruchafiaeth fodernaidd wrth ladd ar gymdeithas a diwylliant y Paragwaiaid, cenedl festiso sy'n hynod o wledig, ac yn llai economaidd ddatblygedig na'i chymdogion. Er gwaethaf yr hen ystrydebau, a'r rhwystrau hanesyddol sydd yn sicr wedi amharu ar dwf y celfyddydau, mae llên Paragwái mewn gwirionedd yn gorff amryfath a chyfoethog, ac mae hanes cythryblus y wlad wedi ysbrydoli gweithiau gwychaf ei llenorion.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Teresa Méndez-Faith a Mike Gonzalez, "Paraguay" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature, 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), tt. 415–16.
  2. Teresa Méndez-Faith a Tracy K. Lewis, "Paraguay" yn Encyclopedia of Latin American Literature, golygwyd gan Verity Smith (Chicago: Fitzroy Dearborn, 1997), tt. 1141–51.