Llên Lloegr yn y 19eg ganrif

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llên Lloegr yn y 19g)

Cychwynnodd llên Lloegr yn y 19eg ganrif fel ymestyniad o'r Rhamantiaeth a ddygwyd i'r amlwg yn niwedd y ganrif gynt. Bu'r nofel yn hynod o boblogaidd, o gyfnod y Rhaglywiaeth (1811–20) hyd at ddiwedd y ganrif. Yn ystod oes Fictoria (1837–1901), wynebodd crefydd yn Lloegr amheuaeth ac ansicrwydd oherwydd y darganfyddiadau gwyddonol a berodd i Gristnogion gwestiynau eu ffydd. Cafwyd trawsnewidiadau cymdeithasol enfawr o ganlyniad i ddiwydiannaeth, cynnydd technolegol, trefoli, a thwf yr Ymerodraeth Brydeinig, ac adlewyrchir yr amryw ymatebion i'r newidiadau hyn yn llenyddiaeth y cyfnod.

Rhamantiaeth (1798–1820au)[golygu | golygu cod]

Ar ddechrau'r 19g bu barddoniaeth Lloegr yn nwylo'r genhedlaeth gyntaf o Ramantwyr, William Wordsworth (1770–1850) a Samuel Taylor Coleridge (1772–1834), a gychwynasant y mudiad hwn gyda'u casgliad Lyrical Ballads (1798). Yn ei raglith i'r ail argraffiad o Lyrical Ballads (1800), sydd yn gyffelyb i faniffesto ar gyfer y mudiad, gosoda Wordsworth ei farn y dylai barddoniaeth symud oddi ar ei gorffennol newydd-glasurol tuag at ddyfodol sy'n canolbwyntio ar fywyd cyffredin, ac yn mynegi teimladau yn rymus drwy gyfrwng iaith y werin. Cyfansoddodd Wordsworth delynegion byrion, awdlau myfyriol er enghraifft "Tintern Abbey" ac "Intimations of Immortality", a cherddi hirion megis ei waith hunangofiannol "The Prelude" (cyflawnwyd yn 1805, cyhoeddwyd wedi ei farwolaeth). Ysgrifennodd Coleridge hefyd farddoniaeth o natur fyfyriol, ond fe nodir yn bennaf am ei gerddi traethiadol ac iddynt naws oruwchnaturiol, yn enwedig "The Rime of the Ancient Mariner" a "Kubla Khan". Yn ystod yr oes Ramantaidd, canolbwyntia beirdd Lloegr yn fwyfwy ar natur, meddwl ac emosiwn yr unigolyn, a diwylliannau cyntefig ac estron yn hytrach na'r gymdeithas gyfarwydd ac effeithiau cynnar moderneiddio. Gogwydd at yr adain chwith oedd gan Ramantiaeth, a chofleidiodd genedlaetholdeb a chynhyrfiad y gwrthryfel a'r chwyldro. Tynna'r beirdd Rhamantaidd ar egwyddorion a gwireddau sylfaenol, megis serch, harddwch, ac iawnder, y tu allan i ffiniau bywyd pob dydd.

Portread Dwyreinaidd o'r Arglwydd Byron.

Mewn byr o amser ymddangosodd yr ail genhedlaeth o'r beirdd Rhamantaidd, a'r tri enwocaf oedd yr Arglwydd Byron (1788–1824), Percy Shelley (1792–1822), a John Keats (1795–1821). Roedd Byron yn fardd hynod o boblogaidd yn ei oes ei hun, ac yn adnabyddus yn ogystal am ei hoffter o ferched (a bechgyn) ac am ei ran ym mrwydr y Groegiaid am annibyniaeth. Fe nodir am ei gerddi traethiadol, dychanol megis "Childe Harold's Pilgrimage" (1812–18) a "Don Juan" (1819–24) ac am greu'r "arwr Byronaidd", cymeriad cythryblus, iselfoes, a dwfn, cyfuniad sydd i raddau helaeth yn adlewyrchu personoliaeth Byron ei hunan. Tynna gwaith Shelley ar athroniaeth a delfrydau meddylgar, yn enwedig ynglŷn â grym serch a'i allu i drawsnewid. Fe gyfansoddodd delynegion a cherddi lled-wleidyddol megis "Ode to the West Wind", ac yn ei orchestwaith, y ddrama fydryddol Prometheus Unbound (1820), mynegir ei gred i'r ddynolryw allu gorchfygu'r drwg sydd yn cyfyngu arnom. Ymdrecha barddoniaeth Keats i gyfleu profiadau synhwyrus ac emosiynol, ac ystyrir ei gerddi ymhlith gweithiau harddaf a thristaf llên Lloegr. Yn "Ode on a Grecian Urn", ceir llinell sy'n nodweddiadol o'r meddylfryd Rhamantaidd: "Beauty is truth, truth beauty". Ymhlith telynegwyr eraill yr oes oedd Robert Southey (1774–1843), Walter Savage Landor (1775–1864), a Leigh Hunt (1784–1859).

Cyfnod y Rhaglywiaeth (1811–20)[golygu | golygu cod]

Prif nofelydd cyfnod y Rhaglywiaeth oedd Jane Austen (1775–1817), a gyhoeddodd bedair nofel yn ystod ei hoes (Sense and Sensibility, 1811; Pride and Prejudice, 1813; Mansfield Park, 1814; Emma, 1815) a dwy arall wedi ei marwolaeth (Northanger Abbey a Persuasion, 1817). Ysgrifennai mewn arddull realaidd a chaiff ei hystyried yn sylwebydd cymdeithasol sylwgar a feddai ar iaith anuniongyrchol a oedd yn llawn eironi. O'r herwydd, hyhi yw un o'r awduron mwyaf poblogaidd yn llenyddiaeth Saesneg.

Oes Gynnar Fictoria (tua 1837–50)[golygu | golygu cod]

Gwaith unigryw sydd yn nodi dechrau llenyddiaeth Fictoraidd yw Sartor Resartus (1833–34 yn gyfres yng nghylchgrawn Fraser's; 1836 ar ffurf llyfr), nofel athronyddol gan yr Albanwr Thomas Carlyle (1795–1881) sydd yn dadlau dros ysbrydolrwydd newydd ar gyfer oes fecanyddol. Defnyddia'r awdur digrifwch ac hyblygrwydd generig wrth fynd i'r afael â chwestiynau gwleidyddol a chymdeithasol, elfennau nodweddiadol o lenyddiaeth oes Fictoria. Cafodd Carlyle ddylanwad mawr ar ryddiaith ffeithiol Saesneg o sawl math. Mynega ei athroniaeth, cyfuniad o'r anian Rhamantaidd a throsgynoliaeth Almaenig, a'i wrthwynebiad i empiriaeth a defnyddiolaeth yn ei ysgrifau, megis ei gasgliad o ddarlithoedd On Heroes, Hero-Worship, and the Heroic in History (1841), a'i fywgraffiadau o ffigurau arwrol gan gynnwys Oliver Cromwell a Ffredrig Fawr. Mae ei hanes enwog o'r Chwyldro Ffrengig (1837) a'i gymhariaeth o'r Oesoedd Canol a'r 19g, Past and Present (1843), yn plethu astudiaethau hanesyddol â beirniadaeth gymdeithasol o'i oes ei hun. Enillodd ei enw fel proffwyd Fictoraidd yn ei bamffledi gwleidyddol cwerylgar, yn groes i economeg laissez-faire a moeseg y defnyddiolwyr, er enghraifft ei draethawd ar bwnc Siartiaeth (1839). Cynhaliodd Carlyle a'i wraig Jane salon yn eu cartref yn Llundain, ac ar anterth ei yrfa rhoddwyd iddo'r enw "Doethwr Chelsea".

Prif feirniad celf y cyfnod oedd John Ruskin (1819–1900), a ddaeth i'r amlwg gyda'i astudiaethau Modern Painters (pum cyfrol, 1843–60). Mae The Stones of Venice (tair cyfrol, 1851–53) yn dynwared, ar bwnc pensaernïaeth yn hytrach na gwleidyddiaeth, gwerthfawrogiad Carlyle o'r Oesoedd Canol. Ym mywyd crefyddol Lloegr, hyrwyddwyd Anglo-Gatholigiaeth gan John Henry Newman (1801–90), prif ladmerydd Mudiad Rhydychen, yn ei ysgrifau Tracts for the Times (1833–41).

Blynyddoedd mwyaf cynhyrchiol y ganrif yn nhermau'r nofel oedd y 1840au. Yn ystod y degawd hwn, cyhoeddwyd Vanity Fair gan William Makepeace Thackeray (1811–63), Mary Barton gan Elizabeth Gaskell (1810–65), Agnes Grey a The Tenant of Wildfell Hall gan Anne Brontë (1820–49), Jane Eyre gan Charlotte Brontë (1816–55), Wuthering Heights gan Emily Brontë (1818–48), a Dombey and Son a David Copperfield gan Charles Dickens (1812–70).

Oes Ganol Fictoria (tua 1850–80)[golygu | golygu cod]

Alfred, yr Arglwydd Tennyson.

Mynegir pryder am fateroliaeth a "Chynnydd" yng ngwaith cynnar Alfred, yr Arglwydd Tennyson (1809–92), ac yn ei alargan "In Memoriam A. H. H." (1850) fe gofleidiai ffydd mewn ymateb i'w iselder o ganlyniad i farwolaeth ei gyfaill annwyl. Canfyddo Tennyson hefyd gysur ac addewid yn hanes traddodiadol Lloegr, sydd yn bwnc ei arwrgerdd "Idylls of the King" (1859–62). Themâu hollbresennol ym marddoniaeth Robert Browning (1812–89) a Matthew Arnold (1822–88) yw ffydd ac amheuaeth. Er i ambell feirniad ddehongli sicrwydd crefyddol yn treiddio gwaith Browning, fe nodir hefyd gan ddyfnder seicolegol ac ymwybyddiaeth o lygredigaeth ddynol. Mewn cyferbyniad â Browning, Arnold ydy'r bardd sy'n cynrychioli gorau amheuaeth ac ymddieithriad Oes Fictoria, yn enwedig yn ei gerdd hiraethus "Dover Beach".

Ym 1848 sefydlwyd y Frawdoliaeth Gyn-Raffaëlaidd, mudiad o arlunwyr a llenorion a efelychasant arddulliau cyntefig. Arweinydd y beirdd Cyn-Raffaëlaidd oedd Dante Gabriel Rossetti (1828–82), a ddefnyddia iaith liwgar a mesur llyfn. Nodir telynegion ei chwaer Christina Rossetti (1830–94) gan deimladrwydd crefyddol iawn. Roedd Algernon Charles Swinburne (1837–1909) yn un o'r Cyn-Raffaëliaid yn gynnar yn ei yrfa, ac yn ddiweddarach fe arbrofai â mesur a sain ei farddoniaeth.

Er i Tennyson a beirdd Fictoraidd cynnar eraill ysgrifennu yn arddull lefn, soniarus y traddodiad Seisnig, bu to newydd o lenorion yn arbrofi gyda dulliau a mesurau newydd. Defnyddir iaith lafar a rhythmau anrheolaidd gan Browning, ac mae'r rhain yn amlwg yn ei ymsonau dramatig megis "My Last Duchess". Roedd ei wraig, Elizabeth Barrett Browning (1806–61), yn cyfansoddi sonedau serch, cyfrwng a feistrolwyd hefyd gan George Meredith (1828–1909). Roedd cyfieithiad Edward FitzGerald (1809–83) o'r Rubaiyat (1857–59), cerddi Perseg o'r 12g gan Omar Khayyam, yn hynod o boblogaidd. Ym marddoniaeth Arthur Hugh Clough (1819–61), mynegir sgeptigiaeth grefyddol yn debyg i'w gyfoeswr Matthew Arnold, a hynny mewn modd eironig braidd.

Oes Ddiweddar Fictoria (tua 1880–1901)[golygu | golygu cod]

Rudyard Kipling

Yn oes ddiweddar Fictoria datblygodd sawl tuedd annibynnol ym marddoniaeth Saesneg Lloegr. Yn niwedd ei yrfa, trodd y nofelydd Thomas Hardy (1840–1928) at gyfansoddi telynegion gyda'r un weledigaeth drist a thrugarog sy'n lliwio'i ryddiaith. Mynegir pesimistiaeth Ramantaidd, hiraethus mewn arddull syml a chynnil gan A. E. Housman (1859–1936) yn ei gyfrol A Shropshire Lad (1896). Dan ddylanwad llenorion Ffrainc, daeth y "dirywiaethwyr" i fri yn Lloegr, a'r blaenaf ohonynt oedd Ernest Dowson (1867–1900) a'r Gwyddel Oscar Wilde (1854–1900) a drigasant yn Llundain. Nod y llên ddirywiaethol oedd i ddyrchafu celf uwchben natur, ac i arddel "celfyddyd er mwyn celfyddyd" ar draul confesiynau Fictoraidd. Barddoniaeth soniarus, swyn-ganiadol a gyfansoddodd Dowson, sy'n ymdrin â cholled a thorcalon a diflastod ar fywyd. Gosododd Wilde waith y Cyn-Raffaëliaid yn fodel i'w gerddi, yn eu plith "De Profundis" a "The Ballad of Reading Gaol". Bardd unigryw oedd yr Eingl-Indiad Rudyard Kipling (1865–1936), yr unigolyn ieuangaf i ennill Gwobr Lenyddol Nobel a hynny ym 1907. Sonir ei gerddi am brofiadau'r milwr yn yr Ymerodraeth Brydeinig yn aml, ac mae "If—" a gyhoeddwyd yn y gyfrol Barrack Room Ballads and Other Verses (1892) yn hynod o boblogaidd hyd heddiw.

Un o feirdd gwychaf a mwyaf dylanwadol Lloegr a flodeuodd yn niwedd y 19g oedd yr offeiriad o Iesuwr Gerard Manley Hopkins (1844–89), er na chyhoeddwyd ei waith nes 1918, pedair blynedd ar hugain wedi ei farwolaeth, ac weithiau na chaiff ei ystyried yn fardd Fictoraidd o'r herwydd. Bardd hynod o wreiddiol oedd Hopkins, ac un o'r llenorion crefyddol gorau yn holl hanes Lloegr. Fe ddatblygodd fesur afreolaidd, sprung rhythm, sy'n defnyddio corfannau o amryw sillafau i adlewyrchu aceniadau rhyddiaith. Roedd yn hoff iawn o gyflythrennu a geirwedd fanwl yn ei gerddi.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]