Llên Bolifia

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Yn wahanol i draddodiadau llenyddol yng ngwledydd eraill De America, mae llên Bolifia yn ymwneud yn bennaf â phobloedd frodorol y wlad. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod mwyafrif bron o boblogaeth y wlad o dras frodorol ac yn siarad Aymara, Quechua, neu ieithoedd brodorol eraill. Llên lafar gryf oedd gan y brodorion, a drosglwyddid chwedlau a straeon gwerin o genhedlaeth i genhedlaeth. Datblygodd diwylliant llythrennog y gymuned Sbaeneg yn araf o gymharu â chyn-drefedigaethau eraill Ymerodraeth Sbaen, a rhoddir y bai gan amlaf ar ddaearyddiaeth fynyddig, wledig, a thirgaeedig y wlad am hynny.[1]

Yn niwedd y 19g bu ambell un yn cynhyrchu rhyddiaith a barddoniaeth yn y Sbaeneg, a fel rheol yn adlewyrchu ffasiynau llên America Ladin gyfan yn hytrach na mynegi traddodiad sydd yn unigryw i Folifia. Er enghraifft, ysgrifennodd Ricardo Jaimes Freyre (1868–1933), a aned ym Mheriw, gerddi rhydd a gafwyd dylanwad pwysig ar ddechrau'r mudiad modernista. Bolifia, Periw, ac Ecwador oedd y tair gwlad a arloesai mudiad llenyddol indigenismo yn nechrau'r 20g. Y gwaith pwysicaf gan awdur o Folifia yn genre'r nofel indigenista ydy Raza de Bronce (1916) gan Alcides Arguedas (1879–1946). Fodd bynnag, mae astudiaeth ethnograffig gynt gan Arguedas, Pueblo enfermo (1909), yn bortread tra-gwahanol o fywydau'r brodorion ac yn lladd arnynt am wyro oddi ar ddelfryd eu cyndeidiau. Adleisir teimladau tebyg gan yr hanesydd a bardd Franz Tamayo (1879–1956), sydd yn mynegi agweddau hiliol a thadol yn ei waith. Yn ddiweddarach ysgrifennwyd esiamplau mwy realaidd a chydymdeimladol o brofiadau'r brodorion, megis Surumi (1943) ac Yanakuna (1952) gan Jesús Lara (1898–1980).[1]

Pwnc pwysig yn hanes Bolifia, ac felly yn hanesyddiaeth, hunangofiannau a ffuglen hanesyddol y wlad, ydy Rhyfel y Chaco (1932–35). Ymladdwyd y rhyfel gwaedlyd hwnnw rhwng Bolifia a Pharagwâi dros diriogaeth ogleddol Gran Chaco, a'r Paragwaiaid oedd yn drech. Mae'r gwrthdaro yn gefndir i'r nofelau Aluvión de fuego (1935) gan Oscar Cerruto (1912–81) a Sangre de mestizos (1936) gan Augusto Céspedes (1904–97). Gohebydd yn y rhyfel oedd Céspedes, a chesglir ei newyddiaduraeth o'r cyfnod hwnnw yn y gyfrol Crónicas heroicas de una guerra estúpida (1975). Yn hanner cyntaf yr 20g ysgrifennwyd sawl gwaith ffuglen yn ymwneud â phrofiadau'r mwyngloddwyr tun a'u cymunedau. Dyma sail i'r nofel ffeithiol El metal del diablo (1946) gan Céspedes, y nofelau En las tierras de Potosí (1911) gan Jaime Mendoza Gonzáles (1874–1939) a Los eternos vagabundos gan Roberto Leitón (1903–99), y casgliad o straeon byrion El paraje del tío y otros relatos mineros (1979) gan René Poppe, a'r testimonio Si me permiten hablar (1977) gan Domitila Barrios de Chungara (1937–2012). Yn nghanol yr 20g ffynnai mudiadau chwyldroadol a chenedlaetholgar yn y wlad, syniadau a fynegir yn groyw yn ysgrifeniadau Carlos Medinaceli (1898–1949). Wedi Chwyldro 1952, arloesodd y sosialydd Marcelo Quiroga Santa Cruz (1931–80) dueddiadau athronyddol a dirfodol yn llên Bolifia, er enghraifft yn ei gampwaith Los deshabitados (1957). Mae Jaime Saénz (1921–86) yn nodedig am ei ffuglen ddychanol am fywyd y ddinas. Enillwyd Gwobr Casa de las Américas gan Renato Prada Oropeza (1937–2011) am ei nofel Los fundadores del alba (1969), sy'n ymwneud â chyfnod Che Guevara ym Molifia, a chan y bardd Pedro Shimose (ganwyd 1940) am ei gyfrol Quiero escribir, pero me sale espuma (1972).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Josefa Salmón, "Bolivia" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature, 1900–2003 golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), tt. 72–73.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Evelio Echeverría, La novela social de Bolivia (La Paz: Ed. Difusión, 1973).
  • René Poppe, Narrativa minera boliviana (La Paz: Eds Populares Camarlinghi, 1983).
  • Javier Sanjinés (gol.) Tendencias actuales en la literatura boliviana (Valencia: Instituto de Cine y Radio-Televisión, 1985).