Neidio i'r cynnwys

Lionel Jospin

Oddi ar Wicipedia
Lionel Jospin
Lionel Jospin ym 1996.
GanwydLionel Robert Jospin Edit this on Wikidata
12 Gorffennaf 1937 Edit this on Wikidata
Meudon Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mawrth 2026 Edit this on Wikidata
15fed arrondissement Paris Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, academydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Ffrainc, Aelod Senedd Ewrop, member of the Consitutional council Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolY Blaid Sosialaidd Edit this on Wikidata
TadRobert Jospin Edit this on Wikidata
MamMireille Jospin Edit this on Wikidata
PriodÉlisabeth Dannenmuller, Sylviane Agacinski Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes y Lleng Anrhydedd, Uwch Groes Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Cadlywydd Urdd Ffrengig Palmwydd Academig, Swyddog o Urdd Genedlaethol Quebec, Grand Cross of the Order of Liberty, Croes Fawr Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Urdd Bethlehem, Uwch Groes Urdd Wissam El Alaouite, Uwch Groes Urdd Teilyngdod Hwngari Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd o Ffrainc oedd Lionel Robert Jospin (12 Gorffennaf 193722 Mawrth 2026) a wasanaethodd yn Brif Weinidog Ffrainc o 1997 i 2002.

Ganed ef i deulu Protestannaidd ym Meudon, yn département Seine (bellach Hauts-de-Seine), i dde-orllewin Paris. Athro ac aelod o Adran Ffrengig y Gweithwyr Rhyngwladol (SFIO) oedd ei dad, Robert Jospin, a bydwraig oedd ei fam Mireille Jospin (Dandieu). Astudiodd Lionel yn y Lycée Janson-de-Sailly a'r Institut d'études politiques (IEP) ym Mharis. Methodd ei gais cyntaf yn yr arholiad mynediad i'r École nationale d'administration (ENA). Wedi iddo gyflawni ei wasanaeth milwrol, ailgeisiodd ym 1961 a chafodd ei dderbyn i'r ENA.[1]

Yn y 1960au, dan y ffugenw Michel, ymunodd Jospin â'r Organisation communiste internationaliste (OCI), grŵp Trotscïaidd a oedd yn gysylltiedig â'r Bedwaredd Gymdeithas Ryngwladol.[1] Yn sgil terfysg Paris ym Mai 1968, ymaelododd Jospin â'r Blaid Sosialaidd, a threuliodd y 1970au yn addysgu economeg ym Mhrifysgol Dechnegol Paris-Sceaux, rhan o Université Paris-Sud. Yn y cyfnod hwn, esgynnodd drwy rengoedd y blaid, a gwasanaethodd yn gynghorwr dinesig ym Mharis o 1977 i 1986. Cynorthwyodd yn yr ymgyrch i ethol François Mitterrand yn arlywydd ym 1981, ac olynwyd Mitterrand gan Jospin yn swydd prif ysgrifennydd y Sosialwyr. Gwasanaethodd Jospin yn ddirprwy dros Baris yn y Cynulliad Cenedlaethol o 1981 i 1986, a thros Haute-Garonne o 1986 i 1993. Cafodd ei ethol hefyd i Senedd Ewrop ar gyfer tymor 1984–88.

Wedi ailetholiad Mitterrand ym 1988, penodwyd Jospin yn wenidog addysg, ac ildiodd prif ysgrifenyddiaeth y blaid i Pierre Mauroy. Gwasanaethodd yn y cabinet nes 1992. Collodd ei sedd yn y Cynulliad Cenedlaethol ym 1993, ac am adeg byddai'n ystyried rhoi'r gorau i wleidyddiaeth. Fodd bynnag, penderfynodd ddychwelyd i'r gystadlaeaeth gan anelu at swydd uchaf y wlad, gan sicrhau enwebiad ei blaid ar gyfer yr etholiad arlywyddol ym 1995. Er iddo ddod yn gyntaf yn y rownd gyntaf, gyda 23% o'r bleidlais, collodd yn yr ail rownd yn erbyn Jacques Chirac, sefydlydd y Rassemblement pour la République (RPR).

Ym 1997, ymgyrchodd Jospin unwaith eto am sedd Haute-Garonne yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac arweiniodd clymblaid adain-chwith (Gauche plurielle) yn etholiadau'r ddeddfwrfa. Enillodd pleidiau'r chwith fwyafrif yn y Cynulliad Cenedlaethol, a phenodwyd Jospin felly yn bennaeth ar lywodraeth a oedd yn wrthblaid i'r Arlywydd Chirac, esiampl o cohabitation yng ngwleidyddiaeth Ffrainc. Cyflwynodd ei lywodraeth sawl diwygiad, gan gynnwys yr wythnos waith 35-awr, gofal iechyd i bawb, a phartneriaethau sifil, ac yn 2002 mabwysiadodd Ffrainc yr ewro.

Yn Chwefror 2002, cyhoeddodd Jospin y byddai'n ailgeisio am yr arlywyddiaeth. Yn ôl yr arolygon barn, byddai Jospin a Chirac unwaith eto yn wynebu ei gilydd yn yr ail rownd. Fodd bynnag, methodd Jospin uno'r adain chwith fel y gwnaeth ym 1997, a chafodd ei guro i'r ail le gan Jean-Marie Le Pen, arweinydd y Front National, yn y rownd gyntaf ar 21 Ebrill. Y noson honno, cyhoeddodd y byddai'n ymddeol o fyd gwleidyddiaeth.[2] Unodd y pleidiau eraill yn erbyn Le Pen, ac ailetholwyd Chirac ar 5 Mai, a thrannoeth ymddiswyddodd Jospin o'r llywodraeth.

Priododd Jospin ddwywaith: cafodd un mab ac un ferch gydag Élisabeth Dannenmüller, cyn priodi'r athronydd Sylviane Agacinski ym 1994. Bu farw ym Mharis yn 2026 yn 88 oed.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Kim Willsher, "Lionel Jospin obituary", The Guardian (23 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Mawrth 2026.
  2. "Llwyddiant Le Pen yn ysgwyd Ffrainc", BBC Cymru'r Byd (22 Ebrill 2002). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Mawrth 2026.