Liam Óg Ó hAnnaidh
Liam Óg Ó hAnnaidh | |
---|---|
![]() Kneecap yn Rhagfyr 2024, gyda Liam ar y dde. | |
Ffugenw | Mo Chara ![]() |
Ganwyd | Liam O’ Hanna ![]() 16 Hydref 1997 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | cerddor, rapiwr, actor ![]() |
Mae Liam Óg Ó hAnnaidh (ganwyd 16 Hydref 1997), sy'n adnabyddus wrth ei enw llwyfan Mo Chara, yn rapiwr, yn actor ac yn ymgyrchydd dros yr Wyddeleg ac yn enedigol o Belffast, Gogledd Iwerddon. Mae'n un o sefydlwyr y grŵp hip hop Kneecap ac yn aelod o'r grŵp. Maent yn rapio yn yr Wyddeleg a'r Saesneg ac mae'n adnabyddus am ei eiriau pryfoclyd, a'i am ei ymgyrchu gwleidyddol, a'i gefnogaeth i'r iaith Wyddeleg.[1] [2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cyd-sefydlodd Ó hAnnaidh y grŵp Kneecap yn 2017 gyda Naoise Ó Cairealláin (Móglaí Bap) a JJ Ó Dochartaigh (DJ Próvaí). Daeth y grŵp i sylw'r cyfryngau rhyngwladol yn gyflym, yn dilyn eu perfformiadau egnïol, eu geiriau dychanol a gwleidyddol ac am iddynt gofleidio diwylliant ieuenctid Gweriniaethol Iwerddon a dosbarth gweithiol Belfast. Rhyddhawyd eu sengl gyntaf "CEARTA" yn 2017, ac yna'r albwm 3CAG (2018) a Fine Art (2024); derbyniodd y ddwy albwm yma glod gan y beirniaid.
Mae cerddoriaeth Kneecap yn mynd i'r afael â themâu fel hawliau'r iaith Wyddeleg, gwrth-wladychiaeth, dosbarth, ac etifeddiaeth yr Helyntion, gan ddefnyddio hiwmor ac eironi yn aml. Mae'r grŵp hefyd yn ddi-flewyn-ar-dafod yn erbyn Seioniaeth Israel ac mae wedi bod yng nghanol dadleuon cyhoeddus ynghylch rhyddid barn a mynegiant gwleidyddol yn Iwerddon a'r DU.[3]
Serennodd Ó hAnnaidh fel fersiwn ffuglennol ohono'i hun yn y ffilm Kneecap (2024), drama-gomedi a gyfarwyddwyd gan Rich Peppiatt sy'n darlunio ffurfio, datblygu a chynnydd y grŵ o fewn cyd-destun diwylliannol a gwleidyddol y Belfast gyfoes. Enillodd y ffilm, sydd hefyd yn cynnwys Michael Fassbender, sawl gwobr a chafodd ei chanmol am ei dilysrwydd, ei hiwmor a'i sylwebaeth gymdeithasol.
Actifyddiaeth wleidyddol a beirniadaeth gan Saeson
[golygu | golygu cod]Mae Ó hAnnaidh a Kneecap yn adnabyddus am eu hymgyrchu dros yr iaith Wyddeleg yn ogystal â'u beirniadaeth o bolisïau llywodraeth Lloegr yng Ngogledd Iwerddon.[3]
Caiff ei adnabod hefyd am ei gefnogaeth ddi-flewyn-ar-dafod i genedlaetholdeb Palesteinaidd a hawliau'r Palesteinaidd a rhan y Deyrnas Unedig yn yr hyn y mae'n ei ystyried yn hil-laddiad y Palesteiniaid. Ym Mai 2025, cyhuddwyd Ó hAnnaidh yn y DU o drosedd yn gysylltiedig â therfysgaeth a honnir iddo arddangos baner Hezbollah mewn cyngerdd, cyhuddiad a ddisgrifiodd ef a'r grŵp fel "plismona gwleidyddol" ac ymgais i dawelu rhyddid barn.[3][4][5][6]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Magwyd Ó hAnnaidh yng Ngorllewin Belfast, ardal eitha Gwyddeleg ei hiaith a hanes o weithredu'n wleidyddol. Mae'n rhugl yn yr Wyddeleg ac fe'i hystyrir yn ffigwr amlwg yn y sîn gerddoriaeth Wyddeleg gyfoes.[7]
Gwobrau
[golygu | golygu cod]- Gwobr Academi Ffilm a Theledu Iwerddon (IFTA) am y Cyfarwyddwr Gorau ( Kneecap, 2024; wedi'i rhannu gyda'r cast a'r criw) [3]
- Gwobr BAFTA am Gneecap (2024; fel aelod o'r cast)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Kneecap: Terror charge is 'carnival of distraction' and 'political policing'". Irish Examiner. 2025-05-22. Cyrchwyd 2025-05-22.
- ↑ "Acting the Maggot – Critic's Notebook". Critics Notebook. 2024-02-01. Cyrchwyd 2025-05-22.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 "Kneecap: Terror charge is 'carnival of distraction' and 'political policing'". Irish Examiner. 2025-05-22. Cyrchwyd 2025-05-22. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw "irishexaminer" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ "Kneecap apologise to families of murdered MPs over 'dead Tory' comments". The Guardian. 29 April 2025.
- ↑ "UK police charge Kneecap's 'Mo Chara' with terrorism offence". RTÉ. 21 May 2025.
- ↑ "Kneecap member charged with terror offence". BBC News (yn Saesneg). 2025-05-21. Cyrchwyd 2025-05-21.
- ↑ "Acting the Maggot – Critic's Notebook". Critics Notebook. 2024-02-01. Cyrchwyd 2025-05-22.