Liam Ó Flaitheartaigh

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Liam Ó Flaitheartaigh
Liam O'Flaherty.jpeg
Ganwyd 28 Awst 1896 Edit this on Wikidata
Inis Mór Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Medi 1984, 7 Gorffennaf 1984 Edit this on Wikidata (88 oed)
Dulyn Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Dulyn
Galwedigaeth sgriptiwr, awdur, nofelydd, dramodydd Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Goffa James Tait Black Edit this on Wikidata

Llenor Gwyddelig, yn ysgrifennu mewn Saesneg a Gwyddeleg, oedd Liam Ó Flaitheartaigh neu Liam O'Flaherty (28 Awst 18967 Medi 1984). Ystyrir ef yn un o nofelwyr ac awdur storïau byrion pwysicaf yr Adfywiad Gwyddelig.

Ganed ef ym mhentref Gort na gCapall ar ynys Inis Mór yn Ynysoedd Arann. Fel y rhan fwyaf o boblogaeth yr ynys, roedd y teulu yn Wyddeleg ei iaith, ond nid oedd ei deulu yn gefnogol i'r iaith. Yn 1908 ymadawodd i fynd i nifer o golegau, yn cynnwys Prifysgol Dulyn. Ymddengys ei fod wedi bwriadu mynd yn offeiriad, ond yn 1917 ymunodd a'r Fyddin Brydeinig a bu'n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wedi'r rhyfel, symudodd i'r Unol Daleithiau, lle bu'n byw yn Hollywood am gyfnod. Roedd y cyfarwyddwr ffilmiau John Ford yn gefnder iddo, ac yn ddiweddarach gwnaeth ffilm o nofel Ó Flaitheartaigh, The Informer.

Cyhoeddodd Ó Flaitheartaigh ei nofel gyntaf, Thy Neighbour's Wife, yn 1924. Ystyrir Dúil, a gyhoeddodd tua diwedd ei oes, yn un o lyfrau gorau yr iaith Wyddeleg yn yr 20g.