Lewis Davies (Lewis Davies y Cymer)
Erthygl yw hon am Lewis Davies y Cymer (1863-1951). Ni ddyilr ei ddrysu â'i gyfoeswr Lewis Davies o Ynysowen (1866-1953), sef Lewis Glyn Cynon.
| Lewis Davies | |
|---|---|
| Ganwyd | 18 Mai 1863 Hirwaun |
| Bu farw | 18 Mai 1951 Cymru |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | awdur plant |
Awdur llyfrau Cymraeg i blant o Forgannwg oedd Lewis Davies (18 Mai 1863 – 18 Mai 1951), a elwir fel arfer yn 'Lewis Davies y Cymer'.[1]
Bywyd a gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Ganed Lewis Davies ar yr Hirwaun, ger Aberdâr yn 1863. Roedd yn athro ysgol yn Y Cymer am ran haelaeth ei yrfa ond dechreuodd fel gwas fferm a gweithiodd am gyfnod yng ngwaith haearn Crawshay yn yr Hirwaun hefyd.
Ysgrifennodd bedair nofel i blant. Lleolir y nofelau antur hyn yn ardal lofaol De Cymru ac fe'u nodweddir gan y darlun cofiadwy a geir ynddynt o fywyd y glowyr yno ar droad y 19g. Defnyddia'r awdur dafodiaith y Cymoedd ac mae hynny'n ychwanegu at ddiddordeb ei waith. Ef yw awdur Bargodion Hanes hefyd, cyfrol o straeon rhamantaidd am ddigwyddiadau yn hanes Cymru.
Ei fab, Gwyn Lewis Davies ('Ap Lewsyn')', oedd croeseiriwr Y Dinesydd am 17 mlynedd, hyd 1997. Mae rhai o bapurau Gwyn Lewis Davies a'i dad yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau Llyfrgell Prifysgol Caerdydd.
Roedd yn gystadleuwr rheolaidd yn yr Eisteddfod, fel traethodwr, bardd, nofelydd a storiwr ymysg eraill;[2] ond ychydig o werth sydd i'w waith ym marn Alan Llwyd:
Mae record eisteddfodol Lewis Davies yn ennyn edmygedd a thosturi ar yr un pryd: toreth heb ragoriaeth, swmp heb gamp. Mae'n ein gadael yn y diwedd â darlun o hen wr hanner dall a llesg yn ymlafino yn ei unigrwydd i lunio nofelau na fyddai neb byth yn debygol o'u darllen; ymdrech wrol ond ymdrech hollol ofer.[3]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Noder: Gweithiau a gyheoddwyd ar ffurf llyfrau yn unig a restrir yma; ymhlith y gweithiau a gyfansoddodd ar gyfer cystadlaethau'r Eisteddfod mae nifer fawr eto o nofelau.
Nofelau i'r Ifanc
[golygu | golygu cod]- Lewsyn yr Heliwr (1922)
- Daff Owen (1924)
- Wat Emwnt (1928)
- Y Geilwad Bach (1929)
Straeon
[golygu | golygu cod]- Bargodion Hanes (1924)
- Ystorïau Siluria
Ffeithiol
[golygu | golygu cod]Cambridge County Geographies-Radnoshire
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ DAVIES, LEWIS (1863 - 1951). Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2013.
- ↑ Llwyd, Alan (2006) Y Gaer Fechan Olaf, Cyhoeddiadau Barddas. t.40
- ↑ Llwyd, Alan (2006) Y Gaer Fechan Olaf, Cyhoeddiadau Barddas. t.41
Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- Mairwen a Gwynn Jones, 'Lewis Davies (Y Cymmer)', Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983), tt. 129-31.