Lewcemia lymffoblastig aciwt

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lewcemia lymffoblastig aciwt
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol Clefyd Edit this on Wikidata
Math Lewcemia lymffoblastig edit this on wikidata
Symptomau Y dwymyn, gwendid, Blinder meddwl, colli pwysau, anorecsia, bone pain, abdominal pain, dyspnoea Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Thesawrws NCI C3167 edit this on wikidata
Freebase /M/03fqwr edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF 45030 edit this on wikidata
OMIM 247640, 613065, 613067 edit this on wikidata
UMLS CUI C0023449 edit this on wikidata
Arall
Commons page Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Lewcemia lymffoblastig aciwt (lewcemia ALL) yw math o gancr ar y llinell lymffoid o gelloedd gwaed, ac yn nodweddiadol, gwelir datblygiad eang o lymffosytau anaeddfed.[1] Gall symptomau gynnwys blinder, croen gwelw, twymyn, gwaedu hawdd a chleisio, chwyddo yn y lymff, neu boen yn yr esgyrn. Fel lewcemia aciwt, mae ALL yn tyfu'n gyflym ac yn gyflwr angheuol os na chaiff ei drin mewn cyfnod o wythnosau neu fisoedd.

Ni ellir esbonio'r rhan fwyaf o achosion. Gall ffactorau risg genetig gynnwys syndrom Down, syndrom Li-Fraumeni, neu fath 1 o neurofibromatosis. Ymhlith y ffactorau risg amgylcheddol y mae datguddiad i ymbelydredd sylweddol neu driniaeth gemotherapi blaenorol. Nid yw'r dystiolaeth ynghylch meysydd electromagnetig a phlaladdwyr yn eglur.[2] Rhagdybia rhai y gallai ymatebiad imiwnedd anarferol i haint gyffredin achosi'r cyflwr. Mae mecanwaith sylfaenol yr afiechyd yn cynnwys newidiadau genetig lluosog sy'n arwain at ymraniad celloedd cyflym. Ymyrra'r lymffocytau anaeddfed gormodol ym mêr yr esgyrn ar y broses o gynhyrchu celloedd gwaed coch, celloedd gwaed gwyn a phlatennau. Fel arfer, mae diagnosis yn seiliedig ar brofion gwaed ac archwiliadau ynghylch mêr yr esgyrn.

Fel rheol, trinnir ALL i ddechrau gyda rhaglen cemotherapi er mwyn arafu'r cyflwr. Yna dylinir rhaglen cemotherapi pellach, a hynny dros gyfnod o flynyddoedd. Gall triniaethau ychwanegol gynnwys cemotherapi intrathecal neu therapi ymbelydredd os lledaena i'r ymennydd. Gellir defnyddio trawsblaniad celloedd bonyn os dychwela'r cyflwr wedi'r triniaethau nodweddiadol. Mae triniaethau ychwanegol fel imiwnotherapi yn cael eu hastudio.

Effeithiodd ALL 876,000 o unigoliol yn fyd-eang yn 2015 a chofrestrwyd oddeutu 111,000 o farwolaethau.[3] Mae'r cyflwr yn fwyaf cyffredin ymysg plant, yn enwedig rhwng 2 a 5 oed. Yn yr Unol Daleithiau dyma'r cyflwr cancr sy'n achosi'r fwyaf o farwolaethau ymysg plant. Caiff ALL ei gydnabod fel y cyflwr cancr cyntaf i'w wella. Cynyddodd y canran goroesi ymysg plant o dan 10% yn y 1960au i 90% yn 2015. Mae cyfraddau goroesi yn parhau i fod yn is i fabanod (50%) ac oedolion (35%).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]