Levi Stubbs

Oddi ar Wicipedia
Levi Stubbs
Ganwyd6 Mehefin 1936 Edit this on Wikidata
Detroit Edit this on Wikidata
Bu farw17 Hydref 2008 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Detroit Edit this on Wikidata
Label recordioMotown Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Pershing High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, canwr, actor, actor llais Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth yr enaid Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata

Canwr bariton Americanaidd oedd Levi Stubbles, a adnabyddid orau o dan ei enw llwyfan, Levi Stubbs (6 Mehefin 193617 Hydref 2008). Adnabyddid orau fel prif lais grŵp R&B Motown, The Four Tops

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Detroit yn 1936,[1] a dechreuodd ei yrfa canu proffesiynol gyda'i ffrindiau, Abdul "Duke" Fakir, Renaldo "Obie" Benson a Lawrence Payton, gan ffurfio grŵp canu The Four Aims yn 1954. Dyflwydd yn ddiweddarach, ar ôl arwyddo cytundeb gyda label Chess Records, newidiodd y grŵp eu enw i Four Tops - er mwyn osgoi drysu rhyngddynt a grŵp Ames Brothers a oedd yn boblogaidd ar y pryd.[1] Dechreuodd y grŵp fel act clwb-swper cyn arwyddo cytundeb gyda Motown Records yn 1963; erbyn diwedd y ddegawd, rodd gan y Four Tops dros ddwsin o hitiau i'w henw. Mae'r mwyaf poblogaidd yn cynnwys "Baby I Need Your Loving", "I Can't Help Myself (Sugar Pie, Honey Bunch)", "It's the Same Old Song", "Reach Out I'll Be There", "Standing in the Shadows of Love", "Bernadette", "Still Water (Love)", ac "Ain't No Woman (Like the One I've Got)".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Stars mourn Four Tops star Stubbs. BBC (28 Hydref 2008).


Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.