Neidio i'r cynnwys

Leverkusen

Oddi ar Wicipedia
Leverkusen
Mathdinas fawr, bwrdeistref trefol yr Almaen, ardal drefol Gogledd Rhine-Westphalia Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCarl Leverkus Edit this on Wikidata
Poblogaeth175,300 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1930 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethUwe Richrath Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirArdal Llywodraethol Cwlen Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd78.87 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr60 metr, 61 metr, 52 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCwlen, Mettmann, Burscheid, Ardal Rhein-Berg Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.0333°N 6.9833°E Edit this on Wikidata
Cod post51368–51381 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethUwe Richrath Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn nhalaith Gogledd Rhein a Westfalen yn yr Almaen yw Leverkusen (Almaeneg: [ˈleːvɐˌkuːzn̩]). Mae wedi'i leoli ar lan ddwyreiniol y Rhein. Mae'r ddinas yn rhan o Ranbarth Metropolitan Rhein-Ruhr, ac mae'n ffinio â dinas Cwlen yn y de a phrifddinas y dalaith Düsseldorf yn y gogledd.

Mae'r ddinas yn fwyaf adnabyddus am y cwmni fferyllol Bayer, sydd â'i bencadlys yno, a'i chlwb pêl-droed Bayer Leverkusen. Mae hefyd yn gartref i'r clwb pêl-fasged Bayer Giants Leverkusen.

Cafodd y ddinas ei hailenwi yn 1930 ar ôl fferyllydd lleol, Carl Leverkus (5 Tachwedd 1804 – 4 Chwefror 1889). [1]

Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd poblogaeth Leverkusen yn 175,300 (2015)[2].

Y sefydliad gwreiddiol o'r hyn a elwir heddiw yn Leverkusen oedd Wiesdorf, pentref ar lan y Rhein, pentref sy'n dyddio'n ôl i'r 12g.[3] Gyda'r pentrefi cyfagos bellach wedi'u hymgorffori, mae'r ardal hefyd yn cynnwys afonydd Wupper a Dhünn,[4] ac wedi dioddef llawer o lifogydd dros y blynyddoedd, yn enwedig yn 1571 a 1657, gyda llifogydd 1657 yn arwain at symud Wiesdorf i'r dwyrain o'r afon i'w leoliad presennol.[3]

Yn ystod Rhyfel Cwlen rhwng 1583 ac 1588, cafodd Leverkusen ei difrodi'n ulw gan ryfel. Roedd yr ardal gyfan yn wledig tan ddiwedd y 19g, pan sefydlwyd sawl diwydiant, a arweiniodd at sefydlu dinas Leverkusen, ac at iddi ddod yn un o ganolfannau pwysicaf diwydiant cemegol yr Almaen. Dinas cymharol newydd yw hi felly.

Ym 1975, ymunodd Opladen (sy'n cynnwys Quettingen a Lützenkirchen), Hitdorf a Bergisch Neukirchen â Leverkusen. Mae'r ddinas bresennol yn cynnwys hen bentrefi, a elwid yn wreiddiol yn Wiesdorf, Opladen, Schlebusch, Manfort, Bürrig, Hitdorf, Quettingen, Lützenkirchen, Steinbüchel, Rheindorf a Bergisch-Neukirchen.[5]

Ar 27 Gorffennaf 2021, lladdodd ffrwydrad ar safle Chempark yn y ddinas 7 o bobl ac anafwyd 31.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Dr. Leverkus has german roots". www.uni-wuerzburg.de (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-06-12.
  2. https://worldpopulationreview.com/cities/germany/leverkusen%7Ctitle=Leverkusen. dyddiad cyrchiad: 11 Mehefin 2025.
  3. 3.0 3.1 Braun, Detlef (2012). Leverkusen. Erfurt: Sutton. t. 17. ISBN 978-3866809703.
  4. Braun, Detlef (2012). Leverkusen. Erfurt: Sutton. t. 6. ISBN 978-3866809703.
  5. >Braun, Detlef (2012). Leverkusen. Erfurt: Sutton. t. 6. ISBN 978-3866809703.
  6. "Explosion in Chempark Leverkusen: Investigations initiated against three employees;". RND. RND/dpa. 19 October 2021. Cyrchwyd 13 November 2023.


Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.