Letsie III, brenin Lesotho

Oddi ar Wicipedia
Letsie III
King of Lesotho
7 Chwefror 1996 – presennol
31 Hydref 1997
RhagflaenyddBrenhines Mamohato (Rhaglaw)
Moshoeshoe II
Prime MinistersNodyn:List collapsed
12 November 1990 – 25 January 1995
Prime MinistersNodyn:List collapsed
Ganwyd (1963-07-17) 17 Gorffennaf 1963 (60 oed)
Ysbyty Scott, Morija, Basutoland (nawr Lesotho)
PriodAnna Motšoeneng (pr. 2000)
Plant
Detail
Princess Senate Seeiso
Princess Maseeiso
Prince Lerotholi Seeiso
Enw llawn
David Mohato Bereng Seeiso
TeuluMoshesh
TadMoshoeshoe II
MamMamohato
CrefyddCatholig

Letsie III (ganed David Mohato Bereng Seeiso; 17 Gorffennaf 1963) yw brenin cyfredol Lesotho yn neheudir Affrica. Fe olynnodd ei dad, Moshoeshoe II, pan erlydwyd hwnnw yn alltud yn 1990. Ail-orseddwyd ei dad am gyfnod byr yn 1995 ond bu farw mewn damwain car yn gynnar yn 1996, a daeth Letsie yn frenin unwaith eto. Fel brenin cyfansoddiadol mae'r rhan fwyaf o ddylestwyddau'r Brenin Letsie yn seremonïol.[1]

Yn 2000, datganodd fod y clefyd HIV/AIDS yn y wlad yn argyfwng naturiol gan sbarduno ymateb cenedlaethol a rhyngwladol i'r epidemig.[2]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Addysgwyd ef yn Lloegr yn Ngholeg Ampleforth.[3] Oddi yno, aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Genedlaethol Lesotho lle graddiodd mewn Bagloriaeth yn y Celfyddydau yn y Gyfraith. Aeth ymlaen wedi i astudio ym Mhrifysgol Bryste (Diploma mewn Astudiaethau Cyfraith Loegr, 1986), Coleg Wolfson, Caergrawnt (Astudiaethau Datblygu, 1989), ac yna coleg amaethyddol Wye College, Swydd Caint (Economeg Amaethyddol). Gorffennodd ei astudiaethau yn 1989, gan ddychwelyd i Lesotho.[4]

Urddwyd ef fel Prif Bennaeth Matsieng yn ardal Maseru ar 16 Rhagfyr 1089.

Coronwyd ef ar 31 Hydref 1997 yn Stadiwm Setsoto. Bu Tywysog Siarl o Loegr yn y seremoni.[5]

Ar 1 Rhagfyr 2016, yn Rhufain, apwyntiwyd y Brenin Letsie III 'Lysgennad Ewyllus Da Corff Bwyd ac Amaethyddiaeth (Food and Agriculture Organization)ar gyfer Maeth gan Brif Weithredwr y Corff, José Graziano da Silva.[6]

Priodas a Phlant[golygu | golygu cod]

Priododd y Brenin Letsie yn 2000 ag Anna Karabo Motšoeneng, merch o dras gyffredin ac nid brenhinol, oedd yn astudio yr un pryd ag ef ym Mhrifysgol Genedlaethol Lesotho. Ar briodi newidiodd eu henw i'r Frenhines 'Masenate Mohato Seeiso. Mae ganddynt fab a dwy ferch:

  • Tywysoges Senate Seeiso, ganed 7 Hydref 2001 yn Ysbyty Breifat Maseru
  • Tywysoges 'Maseeiso, ganed 20 Tachwedd 2004 yn Maseru
  • Tywysog Lerotholi David Mohato Bereng Seeiso, ganed 18 Ebrill 2007 yn Maseru

Noddwr[golygu | golygu cod]

  • Noddwr Gwobr Tywysog Mohato (Khau ea Khosana Mohato)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Lesotho profile". BBC News. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2012.
  2. National AIDS Commission, Lesotho. COORDINATION FRAMEWORK FOR THE NATIONAL RESPONSE TO HIV AND AIDS. Publication. 2007. Accessed November 25, 2017. http://www.ilo.org/wcmsp5/groups/public/---ed_protect/---protrav/---ilo_aids/documents/legaldocument/wcms_126753.pdf.
  3. Soszynski, Henry. "LESOTHO". members.iinet.net.au. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mehefin 2017. Cyrchwyd 4 Mehefin 2017.
  4. "His Majesty King Letsie III". Embassy of the People's Republic of China in the Kingdom of Lesotho. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2012.
  5. País, Ediciones El (1 Tachwedd 1997). "LA CORONACIÓN DE LETSIE III". Cyrchwyd 4 Mehefin 2017.
  6. "FAO - Noticias: King Letsie III of Lesotho appointed FAO's newest Special Ambassador for Nutrition". www.fao.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Chwefror 2021. Cyrchwyd 4 Mehefin 2017.