Les-Fenthyg
| Enghraifft o: | Deddf Cyngres yr Unol Daleithiau, military project |
|---|---|
| Rhan o | Y berthynas rhwng UDA a'r DU |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0fhh1 |
| Quora | Lend-lease-1 |
Cynllun a sefydlwyd gan yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd y polisi Les-Fenthyg[1] (Saesneg: Lease-Lend) a alluogodd Lywodraeth yr Unol Daleithiau i ddarparu deunydd rhyfel ar gyfer gwledydd cyfeillgar heb ymyrryd yn uniongyrchol yn y gwrthdaro. Mewn cyfnod cyn i'r Unol Daleithiau ymuno â'r rhyfel, roedd hyn yn fodd o osgoi deddfau niwtraliaeth a ddeddfwyd yn y 1930au.
Daeth y Lend-Lease Act yr UDA i rym ar 11 Mawrth 1941,[2] a daeth i ben ar 20 Medi 1945. Galluogodd hyn gludo cyflenwadau gwerth cyfanswm o $50.1 biliwn i'r Cynghreiriaid. Roedd hyn yn cyfateb i 17% o gyfanswm gwariant rhyfel yr Unol Daleithiau. At ei gilydd, aeth $31.4 biliwn i'r Deyrnas Unedig, $11.3 biliwn i'r Undeb Sofietaidd, $3.2 biliwn i Ffrainc, $1.6 biliwn i Tsieina, a'r $2.6 biliwn sy'n weddill i aelodau eraill o'r Cynghreiriaid.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, s.v. "lease"
- ↑ "Lend-Lease Act (1941)", yn Milestone Documents, National Archives of the United States; adalwyd 25 Gorffennaf 2024