Leopold I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Oddi ar Wicipedia
Leopold I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ganwyd9 Mehefin 1640 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mai 1705 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Glân Rhufeinig, brenin Hwngari Edit this on Wikidata
Mudiadcerddoriaeth faróc Edit this on Wikidata
PriodClaudia Felicitas of Austria, Eleonor Magdalene o Neuburg, Margaret Theresa o Sbaen Edit this on Wikidata
PlantJoseff I, Archduke Leopold Joseph of Austria, Siarl VI, Ferdinand Wenzel von Habsburg, Johann Leopold von Habsburg, Maria Anna von Habsburg, Anna Marie von Habsburg, Maria Josefa von Habsburg, Christine von Habsburg, Archduchess Maria Josepha of Austria, Marie Margarete von Habsburg Edit this on Wikidata
LlinachHabsburg Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Cnu Aur Edit this on Wikidata
llofnod

Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg oedd Leopold I (9 Mehefin 16405 Mai 1705) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1658 i 1705, yn Frenin Hwngari o 1655 i 1705, yn Frenin Bohemia o 1656 i 1705, ac yn Archddug Awstria o 1657 i 1705.

Ganed yn Fienna yn fab i'r Ymerawdwr Ferdinand III a'i wraig Maria Anna, merch Felipe III, brenin Sbaen. Roedd ganddo frawd hŷn, Ferdinand, a felly disgwylid i Leopold gael ei hyfforddi ar gyfer yr eglwys yn hytrach na'r orsedd. Myfyriwr galluog oedd Leopold, a dysgodd yr ieithoedd Lladin, Eidaleg, a Sbaeneg yn rhugl. Ffynnodd Leopold hefyd yn llenyddiaeth, hanes ac hynafiaetheg, gwyddorau natur a seryddiaeth, a cherddoriaeth. Ei athro blaenllaw oedd Johann Ferdinand von Porcia, a ddyrchafwyd yn ddiweddarach gan Leopold yn arglwydd uchel ddistain. Er gwaethaf ei fedrusrwydd ieithyddol, nid oedd Leopold yn hoff o'r Ffrangeg, ac yn ddiweddarach fe waharddai'r iaith honno o'i lys ymerodrol. Ers ei ieuenctid, Catholig duwiol ydoedd, a thrwy gydol ei oes nid oedd yn barod i gyfaddawdu ar faterion enwadol.[1]

Bu farw ei frawd Ferdinand yn sydyn o'r frech wen ar 9 Gorffennaf 1654, a Leopold bellach oedd yn etifedd i diroedd y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Fe'i coronwyd yn Frenin Hwngari ym 1655 a Brenin Bohemia ym 1656. Bu farw'r Ymerawdwr Ferdinand III ym 1657, ac wedi cyfnod o ddadlau dros yr olyniaeth yn erbyn y Ffrancod, etholwyd Leopold yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig a fe'i coronwyd yn haf 1658 yn 18 oed. Priododd Leopold â Margarita Teresa, merch Felipe IV, brenin Sbaen, a chawsant un plentyn yn unig, y Dywysoges Maria Antonia. Bu farw Margarita yn 1673, ac am fod Leopold hefyd yn wael roedd nifer yn disgwyl i frenhinllin Awstriaidd y Hapsbwrgiaid i ddod i ben. Fodd bynnag, gwellhaodd ei iechyd a phriododd â Claudia Felicitas, o gyff Tyrolaidd y Hapsbwrgiaid, ym 1673 ond bu farw'r honno o'r ddarfodedigaeth ym 1676. Priododd Leopold am y tro olaf, â Eleonore Magdalene Therese, ym 1676. Cawsant 10 o blant, gan gynnwys yr ymerodron Joseff I a Siarl VI.[1]

Aeth Leopold ati i amddiffyn ei diriogaethau rhag ymosodiadau'r Ymerodraeth Otomanaidd. Bu gwarchae ar Fienna ym 1683, yn nechrau'r hyn a elwir y Rhyfel Tyrcaidd Mawr, a ffoes Leopold a'i lys i Passau. Gyrrwyd yr Otomaniaid yn ôl, gyda chymorth Cymanwlad Gwlad Pwyl a Lithwania, ac yn y 1690au cafwyd sawl buddugoliaeth dan arweiniad y cadfridog Eugène, Tywysog Safwy. Bu lluoedd Cristnogol y Gynghrair Sanctaidd yn drech na'r Otomaniaid erbyn diwedd y ganrif, ac yn ôl telerau Cytundeb Karlowitz (1699) rhoddwyd y rhan fwyaf o Hwngari yn ogystal â thiriogaethau eraill i'r Hapsbwrgiaid. Er i'r Hwngariaid gael eu rhyddhau rhag tra-arglwyddiaeth Fwslimaidd, nid oedd pendefigion Calfinaidd Hwngari yn fodlon i lywodraeth Hapsbwrgaidd Gatholig ymledu'r Gwrth-Ddiwygiad yn eu gwlad. Ymatebodd Leopold yn llym yn erbyn bygythiadau i'w rym yn Hwngari, a dienyddiwyd tri uchelwr a oedd yn cynllwynio yn ei erbyn.[1]

Ymgynghreiriodd Leopold â Gweriniaeth yr Iseldiroedd a Theyrnas Lloegr yn erbyn Teyrnas Ffrainc yn y Rhyfel Naw Mlynedd (1688–97), ond methiant yn y pen draw oedd hwnnw i Leopold. Bu'n rhaid i'r Ymerodraeth Lân Rufeinig ildio Alsás, gan gynnwys dinas Strasbwrg, i'r Ffrancod, colled a fu'n taflu anfri ar wladweinyddiaeth Leopold. Bu ymgyrchoedd milwrol Leopold yn dibynnu yn bennaf am arian oddi wrth diroedd etifeddol y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd, ac am y rhan fwyaf o'i deyrnasiad cafodd y trysorlys ei gamweinyddu gan Ganghellor y Llys, Philipp Ludwig Wenzel von Sinzendorf, a gweinidogion analluog eraill. Bu farw Leopold yn Fienna yn 64 oed, yng nghanol Rhyfel Olyniaeth Sbaen (1701–14), a fe'i olynwyd gan ei fab hynaf, Joseff.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Leopold I (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ebrill 2020.