Leges Wallicae

Oddi ar Wicipedia
Leges Wallicae

Golygiad arloesol gan yr ysgolhaig William Wotton o destunau Cyfraith Hywel yw Leges Wallicae, a gyhoeddwyd yn Llundain yn 1730. Mae'n cynnwys testunau golygiedig cyfochrog o Gyfraith Hywel, yn Gymraeg a Lladin.

Wynebddalen Leges Wallicae

Enw llawn y gyfrol yw:

Cyfreithjeu | Hywel Dda | ac eraill | seu | Leges Wallicae | Ecclesiasticae & Civiles | Hoeli Boni | et | Aliorum Walliae Principum

Mae'n gyfrol fawr o faint folio sy'n cynnwys rhagymadrodd hir, y testunau cyfochrog eu hunain, gloseg, nodiadau, a mynegai. Ar wahân i'r testun Cymraeg o'r cyfreithiau, Lladin, iaith dysg ryngwladol y cyfnod, yw iaith y llyfr.

Wotton a'i gymrawd Moses Williams oedd y cyntaf i geisio paratoi testun cyfansawdd o'r cyfreithiau Cymreig hynafol trwy gymharu gwahanol fersiynau Lladin a Chymraeg. O ran methodoleg mae'n waith sydd o flaen ei oes hefyd, am ei bod yn cynnig dadansoddiad ysgolheigaidd o hanes ac ieithwedd y cyfreithiau ac yn cynnwys aparatws testunol (nodiadau a mynegai a.y.y.b.) safonol.

Hanes y gwaith[golygu | golygu cod]

Yn y flwyddyn 1714 bu rhaid i Wotton roi heibio ei reithioraeth ym Milton Keynes er mwyn osgoi ei gredydwyr, ac aeth i fyw am saith mlynedd yng Nghaerfyrddin dan yr enw ffug Dr William Edwards. Yn y dref honno ymroddodd i astudio'r iaith Gymraeg. Yn ystod y cyfnod ffrwythlon hwnnw golygodd destun cyfochrog dwyieithog pwysig o'r testunau cyfreithiol Lladin a Chymraeg a elwir yn Gyfraith Hywel. Noddwr y gwaith hwnnw oedd ei gyfaill yr Archesgob William Wake. Cafodd y gwaith ei gwblhau wedi marwolaeth Wotton gan ei gydweithiwr, yr ysgolhaig Moses Williams. Fe'i cyhoeddwyd yn 1730 gan William Clarke, mab-yng-nghyfraith Wotton, yn argraffiad ffolio mawr dan y teitl Leges Wallicae. Erys yn waith eithaf safonol hyd heddiw ond yn ei gyfnod roedd yn waith arloesol iawn.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • David Stoker, 'William Wotton's exile and redemption: an account of the genesis and publication of Leges Wallicae', Y Llyfr yng Nghymru/Welsh Book Studies 7 (2006), tt. 7-106.