Neidio i'r cynnwys

Le Père

Oddi ar Wicipedia
Le Père
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurFlorian Zeller Edit this on Wikidata
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddiMedi 2012 Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afThéâtre Hébertot Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Drama lwyfan Ffrangeg gan y dramodydd Florian Zeller yw Le Père (Y Tad; The Father) a enillodd Wobr Molière iddo yn 2014 am y Ddrama Orau. Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf ym mis Medi 2012 yn Théâtre Hébertot, Paris, gyda Robert Hirsch (André) ac Isabelle Gélinas (Anne). Cyfieithwyd y ddrama i'r Saesneg gan Christopher Hampton ac i'r Gymraeg gan Geraint Løvgreen yn 2016 o dan yr enw Y Tad, mewn cystadleuaeth trosi drama yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Llwyfannwyd y ddrama yn Gymraeg gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2018.[1]

Ystyriwyd hi yn 2015 fel "y ddrama newydd fwyaf clodwiw yn y degawd diwethaf"[2] ac enillodd sawl gwobr ac enwebiad ym Mharis, Llundain ac Efrog Newydd. Addaswyd y ddrama lwyfan yn ffilm Ffrangeg o'r enw Floride (2015). Cyfarwyddodd a chyd-ysgrifennodd Zeller gyda Hampton, addasiad ffilm Saesneg yn 2020, gyda Anthony Hopkins ac Olivia Colman yn serennu. Enillodd Wobrau'r Academi am y Sgript Addasedig Orau a'r Actor Gorau (Hopkins).

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
Cymeriadau gwreiddiol Zeller Cymeriadau Hampton Cymeriadau Løvgreen
André Andre Arwyn
Anne Anne Ann
Pete
Laura
Dynes
Dyn

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Mae André, hen ŵr balch ar un adeg, yn dangos arwyddion cyntaf dirywiad meddyliol. Mae ei ferch Anne, sy'n ei gymryd i mewn i'w fflat lle mae'r ddrama'n digwydd, yn ceisio ei helpu a'i amddiffyn rhag y byd, ar ben ei hun. Ond mae datblygiad ei salwch yn mynd yn anochel. Yn flin ac yn drist, mae'n colli ei feddwl yn raddol, ac yn dychwelyd i'w blentyndod dryslyd.

Drwy grefft llwyfan, mae'r cynhyrchiad yn denu'r gynulleidfa i droeon a throadau meddwl ddryslyd: mae rôl yr actorion yn gyfnewidiol, felly hefyd y dodrefn o un olygfa i'r llall, ac mae'r ddeialog yn ailadrodd ei hun. Cawn ein denu i feddyliau'r tad, a dyna pam y ceir camddealltwriaethau a'r teimlad o fod yn gaeth rhwng gwirionedd a ffuglen, hunllef a realiti. Wrth i'r tad waethygu, mae'r lleoliad yn ehangu ac mae'r gofod yn gwagio, gan ei adael gyda'i unigedd ar drothwy ei ddiwedd.

"Pwnc amserol Y Tad yw effaith dementia ar y dioddefydd, ei deulu a'r rhai sy'n gofalu amdano o gariad, dyletswydd, neu am gyflog" yn ôl Gareth Miles.[1] "Mae'r ymdriniaeth yn ddisentiment, yn ddidostur ac ambell dro yn greulon o ddoniol. Myn y dramodydd ein bod yn edrych ar y byd drwy sbectol wyrdroëdig henaint gan rythu ar ddyfodol annioddefol," ychwanegodd.[1]

Trosiad Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Dewisiwyd y ddrama fel un o'r tair drama ar gyfer cystadleuaeth trosi i'r Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy 2016.[1] Dyfarnodd y beirniad, Gareth Miles waith "Eirlys" yn fuddugol gan ddisgrifio'r trosiad fel un "llyfn a difrycheulyd" ac yn "gyfraniad gwiw i'r theatr gyfoes".[1] Dadlenwyd mai Geraint Løvgreen oedd yr ennillydd.[1]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf ym mis Medi 2012 yn Théâtre Hébertot, Paris, gyda:

  • André - Robert Hirsch
  • Anne - Isabelle Gélinas

Cafodd y ddrama glod mawr gan y beirniaid wedi'r llwyfaniad Saesneg cyntaf fel The Father yn Stiwdio Ustinov yn Theatre Royal, Caerfaddon, yn 2014.[3] Llwyfannwyd y ddrama yn y West End yn Theatr Wyndham yn Hydref 2015 ac wedyn yn Theatr Duke of York yn 2016.[4]

  • Andre - Kenneth Cranham
  • Anne -
Clawr rhaglen Y Tad

Llwyfannwyd y trosiad Cymraeg gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2018 o dan gyfarwyddyd Arwel Gruffydd; cynllunydd Erin Maddocks; sain Dan Lawrence; goleuo Ceri James; cast:[5]

  • Arwyn - Dyfan Roberts
  • Ann - Catrin Mara
  • Pete - Dafydd Emyr
  • Laura - Mirain Fflur
  • Dynes - Fflur Medi Owen
  • Dyn - Rhodri Siôn

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 4 5 6 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 2016.
  2. "The Father, au théâtre de londres le Wyndham's Theatre !". Cyrchwyd 27 Mehefin 2026.
  3. Gardner, Lyn (2014-10-23). "The Father five-star review – a savagely honest study of dementia". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-06-23.
  4. "The Father, Starring Kenneth Cranham, Will Transfer to London's West End". Broadway.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-23.
  5. Rhaglen Y Tad. Theatr Genedlaethol Cymru. 2018.