Le Dieu Du Carnage (Llanast!)
| Enghraifft o: | drama lwyfan |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 2006 |
| Awdur | Yasmina Reza a chyfieithiad Gareth Miles |
| Gwlad | Ffrainc |
| Iaith | Ffrangeg |
| Genre | chamber play |
| Lleoliad y perff. 1af | Schauspielhaus Zürich |
| Dyddiad y perff. 1af | 2 Rhagfyr 2006 |
| Dynodwyr | |
Drama lwyfan Ffrangeg gan Yasmina Reza yw Le Dieu du carnage a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Gareth Miles o dan yr enw Llanast!. Christopher Hampton oedd y cyfieithydd i'r Saesneg, a alwodd y ddrama yn God of Carnage. Cyhoeddwyd y ddrama yn Ffrangeg yn 2008. Aeth Theatr Bara Caws ati i lwyfannu'r cyfieithiad Cymraeg ddwywaith - ar gychwyn ac ar ddiwedd tymor Betsan Llwyd fel Cyfarwyddydd Artistig y cwmni, yn 2013 ac eilwaith yn 2025.[1] Mae cynyrchiadau Saesneg o'r ddrama yn West End Llundain a Broadway wedi denu enwau mawr megis Ralph Fiennes, Tamsin Grieg, Ken Stott, Jeff Danies, Hope Davis a James Gandolfini, a'r addasiad ffilm Christoph Waltz, Kate Winslet, John C. Reilly a Jodie Foster.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]| Cymeriadau gwreiddiol
Yasmina Reza |
Cymeriadau
Gareth Miles |
Cymeriadau
Christopher Hampton |
|---|---|---|
| Alain Reille | Alun Riley | Alan |
| Annette Reille | Annette Riley | Annette |
| Michel Houllié | Meic Huws | Michael |
| Véronique Houllié | Marged Huws | Veronica |
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae'r ddrama'n ymwneud â dau bâr o rieni; mae mab un cwpl wedi anafu mab y cwpl arall mewn parc cyhoeddus. Mae'r rhieni'n cwrdd i drafod y mater mewn modd gwaraidd. Fodd bynnag, wrth i'r noson fynd yn ei blaen, mae'r rhieni'n mynd yn fwyfwy plentynnaidd ac mae'r cyfarfod yn troi'n anhrefn.
Addasiad Cymraeg
[golygu | golygu cod]Yn Rhaglen cynhyrchiad Theatr Bara Caws o'r ddrama yn 2025, noda gweddw Gareth Miles, [Gina] "Mae'n debyg mai tua 2011 neu 2012 oedd hi pan aeth Gareth a finna i'r Chapter yng Nghaedydd" i weld addasiad ffilm o'r ddrama. "Roedd o wrth ei fodd efo'r stori a'r cymeriadau", ychwanegodd, "oedd yn ei atgoffa o ddramâu Molière, yn dychanu a dal drych o flaen y gymdeithas, yn enwedig cymdeithas ddosbarth canol". Cyfieithiodd y ddrama o'r Ffrangeg gwreiddiol.[2]
Yn 2013, disgrifiodd Gareth y ddrama fel "comedi [c]ythryblus" a nododd "Gwelwn beirianwaith anorfod y ddrama a miniogrwydd y ddialog yn blingo eu gwarineb [y rhieni] oddi amdanynt ac yn eu dadfeilio".[2]
"Heb i'r awdur bregethu na phropaganeiddio caiff [...] delfrydiaeth elusennol, hunan-gyfiawn y dosbarth canol beltan hegar bob un".[2]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama gyntaf yn Yr Almaen ar 2 Rhagfyr, 2006 yn y Schauspielhaus Zürich [3] gyda Dörte Lyssewski fel Véronique Houillé, Tilo Nest fel Michel Houillé, Corinna Kirchhoff fel Annette Reille a Michael Maertens fel Alain Reille. Cyfarwyddwyd y ddrama gan Jürgen Gosch.
Cynhyrchwyd y ddrama yn Ffrangeg am y tro cyntaf ar 25 Ionawr 2008, yn y Théâtre Antoine ym Mharis.[4] Yr actorion oedd Isabelle Huppert fel Véronique Houllié, André Marcon fel Michel Houllié, Valérie Bonneton fel Annette Reille ac Éric Elmosnino fel Alain Reille. Y cyfarwyddwr oedd y dramodydd ei hun, Yasmina Reza.[4]
Cyflwynwyd cyfieithiad Saesneg Christopher Hampton o'r ddrama am y tro cyntaf yn Theatr Gielgud, Llundain ar 25 Mawrth 2008.[5] Cafodd y cynhyrchiad glod mawr, gan dderbyn Gwobr Olivier am y Ddrama Newydd Orau'r flwyddyn.
Llwyfannwyd y ddrama yn Gymraeg am y tro cyntaf gan Theatr Bara Caws yn 2013, ar gychwyn cyfnod Betsan Llwyd fel cyfarwyddydd artistig y Cwmni, gyda Betsan ei hun yn cyfarwyddo; cynllun set Emyr Morris-Jones; cyfarwyddo symud Cêt Haf; gwisgoedd Lois Prys; goleuo Carwyn Williams; sain Berwyn Morris-Jones; cast:
- Alun - Carwyn Jones
- Annette - Gwenllian Higginson
- Marged - Manon Wilkinson
- Meic - Siôn Emyr
Ail-lwyfannwyd y ddrama a'r cynhyrchiad yn 2014 ac eto yn 2025 fel cynhyrchiad olaf Betsan Llwyd gyda Theatr Bara Caws.
Addasiadau ffilm
[golygu | golygu cod]Cafwyd addasiad ffilm yn Saesneg gan Roman Polanski yn 2011 a'i galw yn Carnage. Ffilmiwyd ym Mharis oherwydd euogfarn droseddol Polanski yn yr Unol Daleithiau. Jodie Foster a John C. Reilly sy'n chwarae Penelope a Michael a Christoph Waltz a Kate Winslet sy'n chwarae Alan a Nancy.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Llanast! | Theatr Bara Caws". www.theatrbaracaws.co.uk. Cyrchwyd 2025-10-23.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Rhaglen Llanast!. Theatr Bara Caws. 2013.
- ↑ Ng, David (19 December 2011). "'Carnage' writer Yasmina Reza discusses her life in the theater". Los Angeles Times. Retrieved 3 Chwefror 2024.
- ↑ 4.0 4.1 Clapp, Susannah (30 Mawrth 2008). "Are you sitting uncomfortably?". The Observer. ISSN 0029-7712. Retrieved 3 Chwefror 2024.
- ↑ Paddock, Terri (2 May 2008). "London's The God of Carnage Closes June 14; Aims for Broadway in 2009". TheaterMania.com. Archived from the original on 17 October 2008.