Neidio i'r cynnwys

Lawh Wa Qalam

Oddi ar Wicipedia
Lawh Wa Qalam
Mathamgueddfa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirEducation City Edit this on Wikidata
GwladCatar Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau25.3094°N 51.4317°E Edit this on Wikidata
Map

Amgueddfa gelf wedi'i lleoli yn Education City, ger Doha, Catar, yw Lawh Wa Qalam (Arabeg: لوح وقلم, "Pen a Phapur"). Dyluniwyd yr adeilad, sy'n orchuddio ardal o dros 3,000 metr sgwâr, gan Martand Khosla, pensaer o India. Fe'i hagorwyd ar 28 Tachwedd 2025.[1] Mae'n ymroddedig i fywyd a gwaith M. F. Husain. Ymsefydlodd Husain, arlunydd o India, yng Nghatar yn 2006 ar ôl adwaith negyddol gan genedlaetholwyr Hindŵaidd oherwydd ei darluniau noeth o dduwiesau Hindŵaidd.[2] Bu'n byw yng Nghatar hyd ei farwolaeth yn 2011. Mae'r amgueddfa'n gartref i fwy na 150 o weithiau a grëwyd gan Husain yn ystod ei amser yng Nghatar, gan gynnwys paentiadau, tapestrïau a ffotograffau.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "MF Husain: New Doha museum Lawh Wa Qalam celebrates Indian art legend". www.bbc.com (yn Saesneg). 2025-12-07. Cyrchwyd 2026-01-23.
  2. Khalid, Saif. "MF Husain was forced into exile; now his work finds permanent home in Qatar". Al Jazeera (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-01-23.
  3. Alexander, Deepa (2025-11-28). "Qatar Foundation opens Lawh Wa Qalam: MF Husain Museum, world's largest on the famous artist". The Hindu (yn Saesneg). ISSN 0971-751X. Cyrchwyd 2026-01-23.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]