Lannuon
Jump to navigation
Jump to search
Cymuned a thref ar arfordir gogleddol Llydaw yw Lannuon (Ffrangeg: Lannion). Saif yn département Aodoù-an-Arvor (Côtes-d'Armor) a région Bretagne. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 19,459.
Ffurfiwyd y gymuned presennol yn 1961, pan unwyd communes Lannion, Brélévenez, Buhulien, Loguivy-lès-Lannion a Servel. Saif y dref ger aber afon Léguer. Derbyniodd cyngor y dref y siarter ieithyddol Ya d'ar brezhoneg yn 2006, ac yn 2008 roedd 12.2% o'r disgyblion ysgol gynradd yn derbyn addysg ddwyieithog.