Neidio i'r cynnwys

Lamine Yamal

Oddi ar Wicipedia
Lamine Yamal

Yamal yn 2025
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni (2007-07-13) 13 Gorffennaf 2007 (19 oed)
Man geniEsplugues de Llobregat, Sbaen
Taldra1.78 m
SafleAsgellwr dde
Y Clwb
Clwb presennolBarcelona
Rhif10
Gyrfa Ieuenctid
2012–2014La Torreta
2014–2023Barcelona
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2023Barcelona B1(0)
2023–Barcelona101(30)
Tîm Cenedlaethol
2021Sbaen dan 156(3)
2022Sbaen dan 164(1)
2022–2023Sbaen dan 1710(8)
2022Sbaen dan 191(0)
2023–Sbaen27(7)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 23 Mehefin 2026.

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 23 Mehefin 2026

Mae Lamine Yamal Nasraoui Ebana (ganwyd 13 Gorffennaf 2007) yn bêl-droediwr proffesiynol o Sbaen sy'n chwarae i glwb La Liga Barcelona ac i dîm pêl-droed cenedlaethol Sbaen.[1] Mae Yamal yn cael ei ystyried yn un o chwaraewyr gorau'r byd.

Yn 2024, ef oedd y person ieuengaf erioed i gael ei enwebu ar gyfer y Bêl Aur (pan oedd yn 17 oed). Yn 2025, daeth yn ail ar gyfer y Bêl Aur.[2]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Esplugues de Llobregat yn Catalwnia. Mae ei dad o Moroco a'i fam o Gini Gyhydeddol.

Gyrfa ryngwladol

[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd i Sbaen am y tro cyntaf ar 8 Medi 2023, mewn gêm yn erbyn Georgia fel rhan o gemau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewros 2024. Sgoriodd Yamal ei gôl ryngwladol gyntaf yn yr un gêm a'i ymddangosiad cyntaf. Y canlyniad terfynol oedd 7-1.

Ar 7 Mehefin 2024, fe'i dewisiwyd i fod yn rhan o garfan Sbaen ar gyfer Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2024. Torrodd record am y chwaraewr ieuengaf i chwarae yn y bencampwriaeth pan wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Croatia.

Ar 21 Mehefin 2026, sgoriodd am y tro cyntaf yng Nghwpan y Byd yn erbyn Sawdi Arabia.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Lamine Yamal | 2025/2026 player page | Forward | FC Barcelona Official website". www.fcbarcelona.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Mehefin 2026.
  2. UEFA.com (9 Hydref 2025). "The official website for European football". UEFA.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Mehefin 2026.
  3. "Spain vs Saudi Arabia LIVE: Watch FIFA World Cup Group". BBC Sport (yn Saesneg). 21 Mehefin 2026. Cyrchwyd 23 Mehefin 2026.