Lamech (tad Noa)
Gwedd
| Lamech | |
|---|---|
| Ganwyd | 2887 CC, 3135 (yn y Calendr Iwliaidd) CC Mesopotamia |
| Bu farw | 2358 (yn y Calendr Iwliaidd) CC |
| Tad | Methwsela |
| Mam | Edna |
| Priod | Bat-Enosh |
| Plant | Noa |
Tad Noa yn yr Hen Destament a'r Torah oedd Lamech (weithiau Lemech). Yn ôl un achres mae'n fab Methusael ac yn un o ddisgynyddion Cain, ond yn ôl achres arall mae'n fab i Fethusela o linach Seth; credir fod y dryswch yn codi o ddau draddodiad cynnar am darddiad y ddynolryw.
Ceir ei hanes yn Llyfr Genesis lle priodolir iddo "Cân y cledd". Mae'n dad i Noa yn ôl un o'r achresi (Gen 5:25-31) ond yn ôl yr achres arall (Gen 4:18-14) roedd yn dad i Isbal, Iwbal Twbal-Cain a Naama.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Thomas Rees ac eraill (gol.), Geiriadur Beiblaidd (Wrecsam, 1926), Cyfrol II, d.g. Lamech.