Lamech
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Tad Noa yn yr Hen Destament a'r Torah oedd Lamech (weithiau Lemech). Yn ôl un achres mae'n fab Methusael ac yn un o ddisgynyddion Cain, ond yn ôl achres arall mae'n fab i Fethusela o linach Seth; credir fod y dryswch yn codi o ddau draddodiad cynnar am darddiad y ddynolryw.
Ceir ei hanes yn Llyfr Genesis lle priodolir iddo "Cân y cledd". Mae'n dad i Noa yn ôl un o'r achresi (Gen 5:25-31) ond yn ôl yr achres arall (Gen 4:18-14) roedd yn dad i Isbal, Iwbal Twbal-Cain a Naama.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Thomas Rees ac eraill (gol.), Geiriadur Beiblaidd (Wrecsam, 1926), Cyfrol II, d.g. Lamech.