Lama Abu-Odeh

Oddi ar Wicipedia
Lama Abu-Odeh
Ganwyd1962 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Palesteina Palesteina
Alma mater
  • Prifysgol Efrog
  • Coleg y Gyfraith, Harvard
  • Prifysgol yr Iorddonen Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Athro prifysgol ac awdur Palesteinaidd yw Lama Abu-Odeh (Arabeg: لمى أبو عودة‎, ganwyd 1962) sy'n dysgu yng Nghanolfan y Gyfraith, Prifysgol Georgetown. Mae hi wedi ysgrifennu'n helaeth ar gyfraith Islamaidd, ffeministiaeth, a chyfraith teulu.

Ganed Abu-Odeh yn Aman, Gwlad Iorddonen ym 1962, yn ferch i Adnan Abu-Odeh, cyn-seneddwr yn Nhŷ Seneddol yr Iorddonen a llysgennad.[1]

Enillodd Lama Abu-Odeh ei LL. B. o Brifysgol Jordan, ei LL. M. o Brifysgol Bryste, Lloegr, ei MA o Brifysgol Efrog, Lloegr, a'i doethuriaeth SJD o Brifysgol Harvard.

Dysgodd yn Ysgol y Gyfraith Stanford a gweithiodd i adran Dwyrain Canol / Gogledd Affrica o Fanc y Byd.

Ysgrifennodd Abu-Odeh lawer ar y gwrthdaro rhwng Israel a Phalestina gan leisio'i chefnogaeth i ddatrysiad un wladwriaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-29. Cyrchwyd 2009-07-12.CS1 maint: archived copy as title (link)