Lairig Ghru
Gwedd
| Math | bwlch |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Cairngorms |
| Gwlad | |
| Gerllaw | Allt na Lairig Ghru |
| Cyfesurynnau | 57.0908°N 3.6939°W |
![]() | |
Bwlch ym mynyddoedd y Cairngorms yn yr Alban yw'r Lairig Ghru. O'r de, gellir cyrraedd y bwlch o Braemar trwy Glen Lui, ag o Blair Atholl trwy Glen Tilt. O'r gogledd, gellir cyrraedd ato trwy Glen More ac o Aviemore.
Yn hanesyddol, bu'n lwybr pwysig trwy'r mynyddoedd a ddefnyddid gan y porthmyn ac eraill. Erbyn hyn, mae'n gyrchfan boblogaidd i gerddwyr. Mae tua 43 km o hyd o Aviemore i Braemar.

