Laila Shawa

Oddi ar Wicipedia
Laila Shawa
Ganwyd4 Ebrill 1940 Edit this on Wikidata
Dinas Gaza Edit this on Wikidata
Bu farw24 Hydref 2022 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Palesteina Palesteina
Alma mater
  • Leonardo da Vinci Art Institute
  • Academi'r Celfyddydau Cain Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, arlunydd Edit this on Wikidata
Blodeuodd2020 Edit this on Wikidata
Arddullcelf gyfoes, celf ffeministaidd Edit this on Wikidata
TadRashad al-Shawa Edit this on Wikidata

Arlunydd Palesteinaidd yw Laila Shawa (Arabeg: ليلى الشوا; ganwyd Gaza, 1940; m. 24 Hydref 2022).

Disgrifiwyd ei gwaith fel adlewyrchiad personol yn ymwneud â gwleidyddiaeth ei gwlad, gan dynnu sylw yn benodol at anghyfiawnderau ac erledigaeth ei phobl. Mae hi'n un o artistiaid amlycaf a mwyaf toreithiog y sîn celf gyfoes chwyldroadol Arabaidd.[1]

Fel Palesteiniad yn byw yn Llain Gaza dros gyfnod ei phlentyndod, mae'n ferch i Rashad al-Shawa, actifydd a maer Gaza 1971-82; meddylfryd chwyldroadol ei thad a'i hanogodd, pan oedd yn ifanc. Yn aml mae ei gwaith celf, sy'n cynnwys paentiadau, cerfluniau a gosodiadau, yn gweithio gyda ffotograffau sy'n sylfaen ar gyfer argraffu sgrin sidan. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn rhyngwladol ac yn cael ei arddangos mewn llawer o fannau cyhoeddus gan gynnwys Yr Amgueddfa Brydeinig a chasgliadau preifat.[2][3][4]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Laila Shawa yn Gaza ym 1940, wyth mlynedd cyn y Nakba Palestesteinaidd a sefydlu Gwladwriaeth Israel. Addysgwyd Shawa yn ysgol breswyl Sefydliad Celf Leonardo da Vinvi yn Cairo rhwng 1957 a 58, yna aeth i Academi y Celfyddydau Cain yn Rhufain rhwng 1958 a 64, tra hefyd yn astudio yn ystod yr hafau yn 'Ysgol y Gweledol' yn Salzburg, Awstria.[5]

Ym 1965, ar ôl gorffen ei haddysg, dychwelodd Laila Shawa i Gaza a chyfarwyddo dosbarthiadau celf a chrefft mewn sawl gwersyll ffoaduriaid. Yna parhaodd i ddysgu dosbarth celf am flwyddyn gyda rhaglen addysg UNESCO.[1] Symudodd i Beirut, Libanus ym 1967 am gyfanswm o naw mlynedd lle roedd yn arlunydd amser llawn. Ar ôl i Ryfel Cartref Libanus ddechrau, dychwelodd i Gaza a gyda chymorth ei thad a'i gŵr, sefydlodd Shawa Ganolfan Ddiwylliannol Rashad Shawa.[6] Yn anffodus, nid yw'r ganolfan yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer yr hyn a fwriadwyd, fel cysylltiad diwylliannol â Gaza trwy arddangosfeydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Elazzaoui, Hafsa (July 9, 2017). "Laila Shawa: Mother of Arabic Revolution Art". MVSLIM. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-27. Cyrchwyd March 17, 2018.
  2. Contemporary Art in The Middle East, ArtWorld, Black Dog Publishing, London, UK, 2009.
  3. The October Gallery: Laila Shawa. October Gallery. Accessed Nov 2010)
  4. Laila Shawa, Works 1965- 1994 AI-Hani Books, 1994
  5. "Laila Shawa, Gaza: Palestine". The Recessionists. 2009. Cyrchwyd April 5, 2018.
  6. LeMoon, Kim. "Laila Shawa". Signs Journal. Cyrchwyd April 5, 2018.