Lagonda (Aston Martin)

Oddi ar Wicipedia
Lagonda
Enghraifft o'r canlynolauto racing team, cynhyrchydd cerbydau, cwmni cyhoeddus, car brand Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1901 Edit this on Wikidata
PerchennogAston Martin Edit this on Wikidata
SylfaenyddWilbur Gunn Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadAston Martin Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolcwmni cyfyngedig cyhoeddus Edit this on Wikidata
PencadlysStaines-upon-Thames Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.astonmartinlagonda.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Fersiwn 2018 o'r Lagonda; car tryan, moethus

Math o gar trydan moethus a gaiff ei gynhyrchu yn 2021 gan Aston Martin yw'r Lagonda. Mae'r enw 'Lagonda' yn mynd nôl i 1909 (neu o bosib 1906) pan gychwynodd y canwr opera Wilbur Gunn gwmni ceir. Enwodd Gunn ei gwmni ar ôl afon a lifai drwy'r ardal lle'i maged yn Springfield, Ohio. Prynnwyd y cwmni gan Aston Martin yn 1947 ac ers hynny, rhyddhawyd sawl car o dan yr enw yma: yn 1995 hyd at 2008 a rhwng 2010 a 2013.[1][2]

Y car diweddaraf[golygu | golygu cod]

Vision concept yw'r car ar hyn o bryd (2018), hy car sydd wedi'i gynllunio ac sydd ar y gweill. Mae'r cynllun yn un sy'n cystadlu gyda chwmni Tesla, a does dim rhyfedd i sefydlydd Tesla, Elon Musk alw Aston Martin yn "a 110 year old start-up". Dywedir y bydd y car yn medru teithio am 400 milltir cyn fod yn rhaid gwefru'r batris, a'u gwefru yn ddi-wifr hyn heb weiren. Cynlluniwyd y tu mewn i'r car gan David Armstrong-Jones, mab y ffotograffydd Antony Armstrong-Jones.

Y ceir cynnar[golygu | golygu cod]

Yn 1907 lansiodd Wilbur Gunn ei gar cyntaf, y Torpedo, gyda nerth 20 marchnerth a 6-silindr, a ddefnyddiodd i ennill ras 'Moscow-Sant Petersburg' yn 1910. Yn dilyn y llwyddiant hwn cafwyd llawer o archebion o Rwsia - hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914.[3][4]

Fodd bynnag, aeth yr hwch drwy'r siop yn 1935 a phrynnwyd y cwmni gan Alan P. Good. Efallai mai uchafbwynt y cyfnod a ddilynodd yr ailbrynnu hwn oedd yn 1937 pan lansiwyd car 4480 cc gyda marchnerth o 180 bhp (130 kW) a allai gyflymu o 7 i 105 mya (11 i 169 km/h) yn y ger uchaf gan refio i 5000 rpm. Fe'i arddangoswyd yn Sioe Geir Efrog Newydd yn 1939 a gwerhwyd ef am $8,900 - y car drytaf ledled y byd, yn ei gyfnod.

Aston Martin[golygu | golygu cod]

Ym 1947 cafodd Lagonda ac Aston Martin eu prynnu gan David Brown (cwmni o Loegr a oedd yn arbenigo mewn tractors, cychod y rhannau o beiriannau) ac unwyd staff Lagonda gydag Aston Martin yn eu ffatri yn Feltham, Middlesex.

Yr atgyfodiad[golygu | golygu cod]

Ceisiwyd atgyfodi'r marque (y brand) sawl tro gan gynnwys:

  • Yn Sioe Modur Genefa 2009, dadorchuddiodd Aston Martin 4VD, SUV 4-sedd i goffáu 100 mlynedd ers car cyntaf Lagonda. Roedd gan y car beiriant V12 ac olwynion 22 modfedd.[5]
  • Bedyddiwyd un model o wneuthuriad Aston Martin gyda'r hen enw Rapide yn 2010, sef yr Aston Martin Rapide.
  • Yn 2014, cyhoeddodd Aston Martin y bydden nhw'n cynhyrchu nifer cyfyngedig o 200 salwn o'r enw'r Taraf am tua £1 miliwn yr uned, wedi'i bweru gan Tyrbo Dwbwl V12 a allai gynhyrchu 540 HP a 465 lb-tr o drorym (torque).
  • Yn 2018 cyhoeddwyd y bydden nhw'n cynhyrchu car trydan (gweler uchod).

Modelau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Math Injan Cynhyrchwyd
1906–13 20 3052 cc
1911–13 30 4578 cc
1913–21 11 1099 cc 6000 [6]
1920–23 11.9 1421 cc 6000 (
1923–26 12 and 12/24 1421 cc 6000
1925–33 14/60 1954 cc 1440[6]
1926–30 16/65 2389 250[6]
1928–34 3-litre 2931 cc 570[6]
1932–34 Lagonda 16/80 1991 cc 260[7]
1933–38 Rapier 1087 cc 470 + 45 gan Rapier Cars[8]
1935 M45 4467 cc 410 + 53 M45R Rapide[8]
1935 3.5-litre 3619 cc 65[8]
1936–37 LG45 4467 cc 278 + 25 Rapides[8]
1938–40 Lagonda LG6 4467 cc 85[8]
1938–40 Lagonda V12 4480 cc 189[8]
1948–53 2.6-Litre 2580 cc 510[9]
1953–58 Lagonda 3-Litr 2922 cc 270[9]
1961–64 Rapide 3995 cc 55[9]
1976–89 Aston Martin Lagonda 5340 cc ohc V8 645
2014– Taraf 5935 cc V12 200[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. G.N. Georgano, N. (2000). Beaulieu Encyclopedia of the Automobile. HMSO. ISBN 1-57958-293-1.
  2. "Nachtschicht im Schloss: A report on a concours d'elegance at Schloss Bensberg". Auto Motor u. Sport Heft 25 2010: 45. 18 Tachwedd 2010.
  3. "My kind of car: Lagonda 16/80 1932". Drive (Magazine of the British Automobile Association) 115: 66. February 1985.
  4. "British Tradition from an American". The World of Automobiles. 10. Columbia House. 1974. t. 1129.
  5. Lavrinc, Damon (4 Mawrth 2009). "Geneva 2009: Aston Martin revives Lagonda to questionable effect". Autoblog.com. Cyrchwyd 2010-12-25.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 Baldwin, N. (1994). A-Z of Cars of the 1920s. Bay View Books. ISBN 1-870979-53-2.
  7. G.N. Georgano, G. N. (1968). The Complete Encyclopaedia of Motor Cars. George Rainbird Limited.
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3 8.4 8.5 Sedgwick, M. (1989). A-Z of Cars of the 1930s. Devon, UK: Bay View Books. ISBN 1-870979-38-9.
  9. 9.0 9.1 9.2 Sedgwick, M. (1986). A-Z of Cars 1945–1970. Bay View Books. ISBN 1-870979-39-7.
  10. [1]