Neidio i'r cynnwys

Labi Siffre

Oddi ar Wicipedia
Labi Siffre
Labi Siffre yn 2017
Ganwyd25 Mehefin 1945 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Label recordioPye Records, Bell Records, EMI Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • St Benedict's School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr caneuon, canwr, canwr-gyfansoddwr, bardd, blogiwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.so-strong.com/ Edit this on Wikidata

Canwr, cyfansoddwr caneuon a bardd o Loegr yw Claudius Afolabi "Labi" Siffre[1] ( /ˈlæ.bi sɪfri/ LAB-ee SIF-ree[2]; ganwyd 25 Mehefin 1945).[3]

Rhyddhaodd Siffre chwe albwm rhwng 1970 a 1975 a phedwar rhwng 1988 a 1998. Mae ei gyfansoddiadau'n cynnwys "It Must Be Love", a gyrhaeddodd Rhif 14 ar siart senglau'r DU ym 1971 (ryddhawyd fersiwn o'r gân yn yr 1980au gan y band Madness),[3] a "Crying Laughing Loving Lying". Un o'i ganeuon mwyaf enwog yw "(Something Inside) So Strong" — cân gwrth-apartheid a ysbrydolwyd gan raglen ddogfen deledu – a gyrhaeddodd Rhif 4 ar siart y DU. Enillodd y gân olaf Wobr Ivor Novello i Siffre am y Gân Orau yn Gerddorol ac yn Eiriol gan Academi Brydeinig Cyfansoddwyr Caneuon, Cyfansoddwyr ac Awduron, ac mae wedi cael ei defnyddio mewn ymgyrchoedd Amnesty International.

Mae wedi cyhoeddi traethodau, a'r ddrama lwyfan-a-theledu Deathwrite a thair cyfrol o farddoniaeth: Nigger, Blood on the Page, a Monument.[4] Yn 2022, dogfennwyd ei fywyd a'i waith yn y gyfres Imagine, o dan y teitl, Labi Siffre: This Is My Song.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Claudius Afolabi Siffre[1] yn Hammersmith, Llundain ym 1945, y pedwerydd o bum bachgen[5] i fam Brydeinig o dras gwyn Prydeinig ac Affro-Barbadiaidd a thad Prydeinig o Nigeria. Magwyd Siffre yn Bayswater a Hampstead ac fe'i haddysgwyd mewn ysgol ddyddiol annibynnol Gatholig, Ysgol Sant Benedict, yn Ealing, Gorllewin Llundain.[6]

Aeth Siffre ymlaen i astudio cerddoriaeth yn Ysgol Gerdd Eric Gilder yn Wardour Street, Soho, Llundain. Mae Siffre yn diolch i Gilder yn un o'i gerddi gyda'r teitl "education education education".[7]

Ar ôl gadael yr ysgol, gweithiodd Siffre fel gyrrwr tacsi a dosbarthwr nwyddau, cyn penderfynu canolbwyntio ar gerddoriaeth.[3]

Yn y 1960au, chwaraeodd Siffre y gitâr jazz yng nghlwb jazz Annie Ross yn Soho, Llundain, fel rhan o fand tŷ yn cynnwys organ Hammond, gitâr a drymiau.[8]

Rhyddhaodd chwe albwm rhwng 1970 a 1975. Yn gynnar yn y 1970au, daeth tri o'i senglau yn boblogaidd: Y cyntaf oedd "It Must Be Love" (Rhif 14, 1971, a pherfformiodd y gân ar Top of the Pops y BBC). Addaswyd y gân yn ddiweddarach gan Madness ac aeth eu fersiwn i Rif 4 yn y siart,[9]. Ymddangosodd Siffre ei hun yn y fideo swyddogol. Cafodd lwyddiant hefyd gyda "Crying Laughing Loving Lying" (Rhif 11, 1972); a "Watch Me" (Rhif 29, 1972).[10]

Ym 1978, cymerodd Siffre ran yn y rowndiau rhagbrofol i gynrychioli'r DU yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision. Perfformiodd "Solid Love", a ysgrifennwyd ar y cyd â Tom Shapiro, a ddaeth yn bumed o'r 12 cân i'w hystyried yng nghystadleuaeth A Song for Europe.[11] Yn ogystal, cyd-ysgrifennodd y gân "We Got It Bad", a berfformiwyd gan Bob James, a ddaeth yn 10fed.

Dewisodd Siffre adael y byd cerddoriaeth erbyn diwedd y 1970au ond yn 1985 daeth allan o ymddeoliad, pan welodd ffilm deledu o Dde Affrica yn ystod cyfnod Apartheid yn dangos milwr gwyn yn saethu at blant du. Mewn ymateb i hyn ysgrifennodd y gân (Something Inside) So Strong (Rhif 4, 1987)[10]. Perfformiodd y gân ar Top of the Pops, ac aeth ymlaen i ryddhau pedwar albwm arall rhwng 1988 a 1998.

Yn 2023, defnyddiwyd baled Siffre o 1972, Crying Laughing Loving Lying, yn nhrac sain The Holdovers, ffilm a enwebwyd am Oscar. Dywedwyd fod y gân wedi "cyflwyno Siffre i genhedlaeth newydd."[12] Defnyddiwyd ei gerddoriaeth hefyd yn y 2020au ar nifer o draciau sain rhaglenni teledu a ffilmiau poblogaidd.[12] Roedd hyn yn cynnwys y cyfresi Better Call Saul, Hacks a Sentimental Value.

Rhwng 2025 a 2026, aeth fersiwn wedi'i hail-gynhyrchu o sengl Siffre o 1971 "Bless The Telephone" yn feiral ar-lein, gan sbarduno adfywiad Siffre ymhellach.[13] Mae gan Siffre nifer fawr o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.[14]

Etifeddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cafodd sawl darn o gân Siffre o 1975 "I Got The..." eu samplo mewn caneuon hip hop poblogaidd yn y 1990au, yn fwyaf nodedig yn sengl Eminem o 1999 "My Name Is".[15] O ganlyniad i enwogrwydd newydd y gân, cafodd ei rhyddhau fel sengl yn 2003.[16] Cafodd y trac ei gynnwys hefyd yn y bennod "Bagman" yng ghyfres Better Call Saul.[17]

Cafodd trac Siffre o 1972 "My Song", y 10fed trac ar ei albwm Crying Laughing Loving Lying, ei samplo gan y rapiwr Kanye West ar y gân "I Wonder" ar ei drydydd albwm Graduation.[18]

Ym mis Chwefror 2022, darlledwyd rhaglen ddogfen Labi Siffre: This Is My Song, fel rhan o'r gyfres Imagine ar y BBC, lle cyflwynodd Alan Yentob ffilm yn dogfennu bywyd a gwaith Siffre.[19]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Cyfarfu Siffre â'i bartner Peter Lloyd ym mis Gorffennaf 1964 ac roedd y ddau gyda'i gilydd am 48 mlynedd. Aethant i bartneriaeth sifil yn 2005, cyn gynted ag yr oedd hynny'n bosibl yn gyfreithiol yn y DU.[8] O ganol y 1990au hyd at farwolaeth Lloyd yn 2013, roedd ef a Siffre yn byw mewn ménage à trois gyda Rudolf van Baardwijk ym mhentref Cwmdu, ger Crughywel. Wedi hynny priododd Siffre a van Baardwijk ym mis Rhagfyr 2014. Bu farw Van Baardwijk yn 2016.[20] Ers 2022, mae Siffre yn byw yn Sbaen.[20]

Yn 2014, ymddangosodd Siffre ar gyfres Great Lives ar BBC Radio 4. oedd yn siarad am fywyd yr awdur Prydeinig Arthur Ransome a'i ddylanwad arno. Dywedodd Siffre fod llyfrau Ransome, Swallows and Amazons, wedi dysgu iddo gymeryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd ei hun a hefyd foesoldeb sydd wedi dylanwadu arno a'i lunio drwy gydol ei oes.[21] Mae Siffre yn anffyddiwr.[8]

Disgyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Albymau stiwdio

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Albwm UK

[22]
1970 Labi Siffre
1971 The Singer and the Song 47
1972 Crying Laughing Loving Lying 46
1973 For the Children
1975 Remember My Song
Happy
1988 So Strong
1991 Man of Reason
1998 The Last Songs
Monument (Spoken Word)
"—" yn dynodi record na gyrhaeddodd y siartiau

Albymau byw

[golygu | golygu cod]
  • The Last Songs (Re-mastered) (2006)

Albymau casgliad

[golygu | golygu cod]
  • The Best of Labi Siffre (1995)
  • It Must Be Love (The Best of Labi Siffre) (2016)
  • Gold (2019)
  • Watch Me (2023)

Senglau

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Senglau Rhif ar y siart Tystysgrifau
UK

[22]
AUS

[23][24]
AUT

[25]
BE (FLA)

[26]
IRE

[27]
NL 40

[28]
NL 100

[29]
US R&B

c
1970 "Too Late"
"A Little More Line" (Germany-only release)
1971 "Thank Your Lucky Star"
"Get to the Country" 53[a]
"It Must Be Love" 14 46 21 25
1972 "Crying, Laughing, Loving, Lying" 11 [b]
"Watch Me" 29 7 16 14
1973 "Give Love"
"If You Have Faith"
"(Just) A Little More Line" (ryddhad yn yr Iseldiroedd yn unig)
1974 "Dreamer"
1975 "Another Year
"Love-a-Love-a-Love-a-Love-a-Love"
"Second Time Around"
1976 "Staride to Nowhere"
"You've Got a Hold on Me"
"Doctor Doctor" (rhyddad yn Ffrainc a'r Eidal yn unig)
1977 "Do the Best You Can"
1978 "Solid Love"
1980 "One World Song" (gyda Jackie)
1981 "Run to Him"
1982 "Nightmare"
1987 "(Something Inside) So Strong" 4 76 14 2 3 4 49
"Nothin's Gonna Change" 52 8 21 24
1988 "Listen to the Voices" 81 5 25 23 22
1989 "I Will Always Love You"
"And the Wind Blows"
1991 "Most People Sleep Alone"
"A Matter of Love
"City of Dreams" (promo yn unig)
2003 "I Got The..."
"—" yn dynodi record na gyrhaeddodd y siartiau neu na ryddhawyd yn y diriogaeth hynny

Nodiadau

  1. Safle siart o "Breakers List" swyddogol y DU.
  2. Ni siartiodd "Crying, Laughing, Loving, Lying" ar y 100 Sengl Uchaf ond cyrhaeddodd Rhif. 14 ar y siart 'Single Tip'.[30]

Fersiynau nodedig a samplau o ganeuon Siffre

[golygu | golygu cod]
  • Cafodd fersiwn o "It Must Be Love" ei ryddhau gan Madness ym 1981. Cyrhaeddodd y gân Rif 4 yn siart y DU,[9] a Rhif 33 yn yr Unol Daleithiau ym 1983.[32] Gwnaeth Labi Siffre ymddangosiad cameo yn y fideo swyddogol hefyd.
  • Cafodd fersiwn o "(Something Inside) So Strong " ei ryddhau gan y canwr Michael Ball ym 1996, gan gyrraedd Rhif 40 yn y siartiau yn y DU.[33] Gwnaeth Rik Waller fersiwn o'r gân hefyd tra'n gystadleuydd ar Pop Idol, gan gyrraedd Rhif 25 yn Siart Senglau'r DU yn 2002.[33]
  • Cafodd "My Song" ei samplo gan y rapiwr Kanye West, a adnabyddir hefyd fel Ye, ar ei gân "I Wonder" yn 2007 ar yr albwm Graduation. O ganlyniad, derbyniodd Siffre gydnabyddiaeth gyfansoddi ar y trac.[34]
  • Cafodd "I Got The..." ei samplo gan y cynhyrchydd Dr. Dre ar gyfer sengl boblogaidd y rapiwr Eminem ym 1999, "My Name Is" o'r albwm The Slim Shady LP. I ddechrau, gwrthododd Siffre ganiatâd i'r ddeuawd ddefnyddio'r sampl, yn seiliedig ar ei wrthwynebiad i gynnwys geiriau homoffobig a gwraig-gasineb yn y gân, ond yn y pen draw cytunodd i adael iddynt ryddhau'r record ar ôl clywed fersiwn lân y gân yn unig.[35]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Barddoniaeth

[golygu | golygu cod]
  • Nigger (Xavier Books 1993)
  • Blood on the Page (Xavier Books 1995)
  • Monument (Xavier Books 1997)

Dramâu

[golygu | golygu cod]
  • DeathWrite (Xavier Books 1997)

Traethodau

[golygu | golygu cod]
  • Choosing the Stick They Beat You With (Penguin 2000)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Pollard, Alexandra (1 Ebrill 2020). "Labi Siffre, the black, gay musician whose music helped make Eminem famous". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Ebrill 2020.
  2. "Disturbing Definitions: Labi Siffre". 5 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 1 Chwefror 2023.
  3. 3.0 3.1 3.2 Larkin, Colin (2006). The Encyclopedia of Popular Music (arg. 4th). Oxford University Press. t. 1218. ISBN 9780195313734.
  4. "Labi Siffre Page". Soulwalking.co.uk. Cyrchwyd 22 Ionawr 2022.
  5. Atkins, Jamie (21 Ebrill 2024). "Labi Siffre: 'I've had far more difficulties in my life due to being a homosexual than being Black'". The Big Issue.
  6. Larkin, Colin (2002). The Virgin Encyclopedia of 70s Music. Virgin. t. 398. ISBN 978-1852279479.
  7. Atkins, Jamie (21 Ebrill 2024). "Labi Siffre: 'I've had far more difficulties in my life due to being a homosexual than being Black'". The Big Issue.
  8. 8.0 8.1 8.2 "Q&A: Labi Siffre". New Humanist. 14 Rhagfyr 2012. Cyrchwyd 12 March 2016. I've always been an atheist. I've never had religious belief. Pre-teens, I assumed God was in the same make-believe category as Father Christmas; a game of pretend between children and grown-ups.
  9. 9.0 9.1 "It Must Be Love - full Official Chart History". Official Charts Company. Cyrchwyd 22 Ionawr 2022.
  10. 10.0 10.1 Roberts, David (2006). British Hit Singles & Albums (arg. 19th). London: Guinness World Records Limited. t. 498. ISBN 1-904994-10-5.
  11. "14 singers you totally forgot did Eurovision (or failed to get there)". Smooth Radio. 18 Mai 2021. Cyrchwyd 22 Ionawr 2022.
  12. 12.0 12.1 Browne, David (5 Awst 2025). "A New Labi Siffre Compilation Will Finally Be Released in the U.S." Rolling Stone (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Tachwedd 2025.
  13. Gordon, Lauren (10 Hydref 2025). "People Are Rediscovering a '70s Folk Legend, 80: 'Truly Underrated Artist'". Parade (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Hydref 2025. Cyrchwyd 28 Ebrill 2025.
  14. "TikTok - Make Your Day". tiktok (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Gorffennaf 2025. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2025.
  15. Azpiri, Jon. "Artist Biography". AllMusic. Cyrchwyd 22 Ionawr 2022.
  16. Jones, Lucy (27 Medi 2012). "When Sampling Goes Wrong". NME. Cyrchwyd 13 Mehefin 2018.
  17. Fogarty, Paul (8 Ebrill 2020). "Better Call Saul: Bagman's use of Labi Siffre's 'I Got The...' wins praise from surprised fans". HITC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Tachwedd 2023. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2023.
  18. Greenberg, August (29 Hydref 2018). "Sample School: Labi Siffre". WVAU. Cyrchwyd 24 Mawrth 2023.
  19. "Disturbing Definitions: Labi Siffre". 5 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 1 Chwefror 2023.
  20. 20.0 20.1 Jonze, Tim (31 Ionawr 2022). "'I had the perfect life – then both my husbands died': Singer Labi Siffre on love, loss – and happiness". The Guardian.
  21. Greenberg, August (29 Hydref 2018). "Sample School: Labi Siffre". WVAU. Cyrchwyd 24 Mawrth 2023.
  22. 22.0 22.1 "Labi Siffre | full Official Chart History | Official Charts Company". Official Charts Company. Cyrchwyd 13 Awst 2020.
  23. "Every AMR Top 100 Single in 1972". Top100singles.net. Cyrchwyd 13 Awst 2020.
  24. "Every AMR Top 100 Single in 1987". Top100singles.net. Cyrchwyd 13 August 2020.
  25. Larkin, Colin (2002). The Virgin Encyclopedia of 70s Music. Virgin. t. 398. ISBN 978-1852279479.
  26. "ultratop.be - ULTRATOP BELGIAN CHARTS". Ultratop.be. Cyrchwyd 13 Awst 2020.
  27. "The Irish Charts - All there is to know". Irishcharts.ie. Cyrchwyd 13 Awst 2020.
  28. Top 40, Stichting Nederlandse. "Labi Siffre". Top40.nl (yn Iseldireg). Cyrchwyd 13 Awst 2020.
  29. "Dutch Charts". Dutchcharts.nl. Cyrchwyd 13 Awst 2020.
  30. Hung, Steffen. "Labi Siffre - Crying, Laughing, Loving, Lying". Hitparade.ch. Cyrchwyd 13 Awst 2020.
  31. "Labi Siffre - (Something Inside) So Strong". British Phonographic Industry. Cyrchwyd 21 Ionawr 2022.
  32. "Madness Top Songs / Chart Singles Discography". Music VF. Cyrchwyd 22 Ionawr 2022.
  33. 33.0 33.1 "So Strong". Official Charts Company. Cyrchwyd 22 Ionawr 2022.
  34. Pytlik, Mark. "Kanye West: Graduation". Pitchfork (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Mehefin 2025.
  35. Larkin, Colin (2002). The Virgin Encyclopedia of 70s Music. Virgin. t. 398. ISBN 978-1852279479.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]