Label Libertino

Oddi ar Wicipedia
Label Libertino
Enghraifft o'r canlynollabel recordio Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2017 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd, alternative music Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.libertinorecords.com/ Edit this on Wikidata
Adwaith un o brif artistiaid Label Libertino

Label recordio cerddoriaeth amgen yw Recordiau Libertino (Saesneg: Libertino Records). Mae'n rhyddhau caneuon gan artistiaid sy'n canu yn y Gymraeg ac yn y Saesneg. Rhyddhawyd y traciau cyntaf yn 2017. Prif Weithredwr y label yw Gruff Owen.[1] Ceir oddeutu 20 o artistiaid ar lyfrau'r label.[2]

Natur[golygu | golygu cod]

Mae Libertino yn gartref hollgynhwysol i artistiaid – darperir asiant archebu/cymorth taith, cysylltiadau cyhoeddus mewnol, rheoli artistiaid yn ogystal â chymorth creadigol. Yn ôl y Prif Weithredwr, Gruff Owen, "Credaf yn gryf y dylai celf fod yn gynhwysol ac nid yn gyfyngedig gan greu cymuned ar lawr gwlad. Nod Libertino yw rhoi llwyfan i artistiaid hedfan ohono a’r wybodaeth am sut i hedfan yn llwyddiannus."[3]

Cyd-weithio gyda Phrifysgol De Cymru[golygu | golygu cod]

Ym mis Tachwedd 2021 cyhoeddodd Prifysgol De Cymru bartneriaeth diwydiant gyda’r label. Mae'n cynnig mynediad i fyfyrwyr Cerddoriaeth i ddosbarthiadau meistr, briffiau busnes pwrpasol a gwobr i raddedigion am ragoriaeth. Cynorthwyddodd Prif Weithredwr Recordiau Libertino, Gruff Owen, gan ddod â’i brofiad i gwrs MA Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu y Brifysgol, ar ôl helpu’r label i dyfu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf i frolio dros 20 o artistiaid o fri rhyngwladol sy’n creu a pherfformio trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.[4]

Artistiaid[golygu | golygu cod]

Mae'r Libertino yn rhyddhau caneuon nifer o artistiaid pop a roc. Dyma'r rhai sy'n canu yn y Gymraeg (yn 2022):

Ymhlith y bandiau eraill mae:

  • N'Famady Kouyaté

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Libertino Records". Gwefan Discogs. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2022.
  2. "USW Announces Partnership with Libertino Records". Business News Wales. 23 Tachwedd 2021.
  3. "Gruff Owen (LIBERTINO)". Gwefan Focus Wales. 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-10. Cyrchwyd 2022-11-10.
  4. "USW Announces Partnership with Libertino Records". Business News Wales. 23 Tachwedd 2021.