Neidio i'r cynnwys

L. J. Smith

Oddi ar Wicipedia
L. J. Smith
FfugenwL. J. Smith Edit this on Wikidata
GanwydLisa Jane Smith Edit this on Wikidata
4 Medi 1958 Edit this on Wikidata
Fort Lauderdale Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mawrth 2025 Edit this on Wikidata
Walnut Creek Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Califfornia, Santa Barbara
  • Prifysgol San Francisco Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, awdur plant, sgriptiwr, awdur ffuglen wyddonol, young adult author Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Vampire Diaries, Night World Edit this on Wikidata
ArddullRhamant, ffantasi, llenyddiaeth arswyd, gwyddonias Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.ljanesmith.net/ Edit this on Wikidata

Awdures o'r Unol Daleithiau oedd L. J. Smith (4 Medi 19588 Mawrth 2025). Bu'n nofelydd, awdur ffuglen plant ac yn sgriptiwr. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd yr oedd The Vampire Diaries a addaswyd ar gyfer y teledu, a Night World.[1]

Fe'i ganed yn Fort Lauderdale, Orange County, California. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Califfornia, Santa Barbara a Phrifysgol San Francisco.[2][3][4][5]

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Fel plentyn, cafodd ei magu yn Villa Park, California a mynychodd Ysgol Uwchradd Villa Park. Yma y rhoddodd Zoe Gibbs, athrawes Saesneg ei hysgol uwchradd, yr hyder i Smith ysgrifennu.[6]

Astudiodd Smith seicoleg arbrofol ym Mhrifysgol California, Santa Barbara. Yn ddiweddarach, aeth i Brifysgol Talaith San Francisco i gael cymwysterau addysgu (tystysgrif athro).[1][7]

Dechreuodd Smith ei gyrfa fel athro ysgol elfennol, ond gadawodd ym 1989 ar ôl tair blynedd i ddilyn gwaith ysgrifennu creadigol.[6][8]

Dywedodd Smith iddi sylweddoli ei bod am fod yn awdur rywbryd rhwng y kindergarten a'r flwyddyn gyntaf o'r ysgol uwchradd, "pan ganmolodd athro cerdd ofnadwy roeddwn i wedi'i hysgrifennu", a dechreuodd ysgrifennu o ddifrif yn yr ysgol uwchradd.[9][10]

Yr awdur

[golygu | golygu cod]

The Night of the Solstice, oedd ei llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi, llyfr a sgwennodd wrth drawsnewid o'r ysgol uwchradd i'r brifysgol.[11]. Fe'i cyhoeddwyd gan MacMillan yn 1987, ac wrth ei sodlau cyhoeddwyd Heart of Valor (1990). Wnaethon nhw ddim gwerthu yn arbennig o dda, gan eu bod wedi eu labelu'n addas ar gyfer plant 9-11 oed.[11]

Bu farw ar 8 Mawrth 2025 wedi salwch hir.[12]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 Rickman, Amy (2011). "Chapter Five: The Written Word". Blood Brothers. John Blake Publishing Ltd. tt. 25–27. ISBN 9781843584100.
  2. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: "L.J. Smith (1958-2025)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mawrth 2025. Cyrchwyd 26 Mawrth 2025.
  5. Dyddiad marw: "L.J. Smith (1958-2025)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mawrth 2025. Cyrchwyd 26 Mawrth 2025.
  6. 1 2 McLellan, Dennis (January 3, 1991). "BOOKS & AUTHORS : Children Save World in 'Heart of Valor'". Los Angeles Times. Los Angeles. Cyrchwyd 11 Mawrth 2016.
  7. The Vampire Book: The Encyclopedia of the Undead. Canton, Michigan: Visible Ink Press. 2010. t. 648. ISBN 9781578593484.
  8. "An Interview with novelist L.J. Smith". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-18. Cyrchwyd 15 Mai 2009.
  9. L.J. Smith Biography: amazon.com Retrieved 2010-12-23.
  10. Interview with Novelist L.J. Smith: nightworld.net Archifwyd 2009-06-18 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 2010-12-23.
  11. 1 2 "Booklist". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-10-19. Cyrchwyd 2019-06-28.
  12. locusmag (2025-03-21). "L.J. Smith (1958-2025)". Locus Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-03-27.