Léon Marchand
| Léon Marchand | |
|---|---|
| Ganwyd | 17 Mai 2002 Toulouse |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | nofiwr |
| Taldra | 187 centimetr |
| Pwysau | 77 cilogram |
| Tad | Xavier Marchand |
| Mam | Céline Bonnet |
| Perthnasau | Christophe Marchand |
| Gwobr/au | Champion des champions français de L'Équipe, Chevalier de la Légion d'Honneur, Gwobr Time 100 |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Dauphins du TOEC |
| Gwlad chwaraeon | Ffrainc |
Nofiwr o Ffrainc yw Léon Marchand (ganwyd 17 Mai 2002). Mae'n rhan o dîm nofio Prifysgol Talaith Arizona. Ef sy'n dal y record byd ac Olympaidd ar gyfer medli unigol 400 metr, record Olympaidd ar gyfer dull glöyn byw 200 metr a 100 metr dull broga. Ef hefyd sy'n dal y record Ffrengig ar gyfer medli unigol 200 metr, dull glöyn byw 200 metr a 200 metr dull broga. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024 enillodd y fedal aur yn y medli 200m,[1] 200m dull broga, dull glöyn byw 200m a medli 400 metr. Ef yw'r pedwerydd nofiwr yn hanes y gemau i ennill pedair medal aur unigol mewn un gemau. Ei gemau Olympaidd cyntaf oedd Gemau Olympaidd yr Haf 2020 yn Tokyo.[2]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Marchand yn Toulouse, Ffrainc. Mae'n fab i'r cyn-nofiwyr medli Xavier Marchand a Céline Bonnet.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Olympic swimming: Leon Marchand wins fourth gold". BBC Sport (yn Saesneg). 2024-08-02. Cyrchwyd 2024-08-04.
- ↑ "Olympics - Leom Marchand". Olympics.