L'Origine du monde

Oddi ar Wicipedia
L'Origine du monde
Enghraifft o'r canlynolpaentiad Edit this on Wikidata
CrëwrGustave Courbet Edit this on Wikidata
Deunyddpaent olew, cynfas Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1866 Edit this on Wikidata
Genrenoethlun, alegori, figure painting Edit this on Wikidata
LleoliadMusée d'Orsay Edit this on Wikidata
Perchennoggwladwriaeth Ffrainc Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia


L'Origine du monde.

Llun a baentiwyd gan yr arlunydd Ffrengig Gustave Courbet ym 1866 yw L'Origine du monde (Ffrangeg, yn golygu Tarddiad y Byd). Mae'n baentiad olew ar gynfas o organau rhyw ac abdomen dynes noeth sy'n gorwedd ar wely gyda'i choesau ar led. Mae'n un o weithiau celf erotig mwyaf adnabyddus y byd. Er 1995 mae i'w weld yn y Musée d'Orsay, Paris.

Mae'n debyg mai Joanna Hiffernan, neu "Jo", oedd y model. Roedd hi'n gariad yr artist Americanaidd James Whistler, un o ddisgyblion Courbet ar y pryd. Bwriad Courbet oedd ymestyn ffiniau realaeth mewn celf a hefyd dangos i fyny rhagrith sefydliad y cyfnod a dderbyniai erotiaeth mewn gwisg Glasurol, e.e. mewn paentiadau gan Hen Feistri ar bynciau mytholegol, ond a weithredai sensoriaeth lem yn erbyn portreadau realaidd o'r corff dynol a rhywioldeb.

Comisiynwyd y gwaith gan Khalil Bey, diplomydd Tyrcaidd, cyn lysgenad Ymerodraeth yr Otomaniaid yn Athen a Saint Petersburg a oedd newydd symud i Baris. Roedd yn gasglwr brwd o gelf erotig. Aeth y paentiad trwy sawl dwylo ar ôl hynny cyn mynd i'r Musée d'Orsay yn 1995.

Gwerthir mwy o gardiau post o'r paentiad nag o unrhyw lun arall yng nghasgliad y Musée d'Orsay, heb law Bal du moulin de la Galette gan Renoir.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]