Neidio i'r cynnwys

Kully Thiarai

Oddi ar Wicipedia
Kully Thiarai
Alma materPrifysgol Bradford
Cysylltir gydaNational Theatre Wales

Cyfarwyddydd theatr ac artistig o dras Indiaidd yw Kully Thiarai FRSA[1], a fu'n gyfarwyddydd artistig National Theatre Wales rhwng 2016 a 2019, y person Asiaidd cyntaf, a'r ail fenyw yn unig, i arwain cwmni theatr cenedlaethol yng Ngwledydd Prydain. Bydd ei chyfnod gyda National Theatre Wales yn cael ei gofio am ddigwyddiadau Hydref 2018, pan lofnododd 40 o awduron yng Nghymru a thros 200 o berfformwyr lythyrau agored yn beirniadu’r cwmni am gefnu ar dalent o Gymru, ac am fethu i adlewyrchu’r profiad Cymreig.[2] Cyn, ac ers hynny, mae hi wedi arwain sawl sefydliad gan gynnwys LEEDS 2023 - blwyddyn ddiwylliant annibynnol y ddinas.

Magwyd Thiarai yn Smethwick yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, lle'r oedd ei thad yn gweithio fel llafurwr yn y gwaith dur.[1] Astudiodd waith cymdeithasol ym Mhrifysgol Bradford, cyn cael ei dennu i fyd y Theatr drwy gynyrchiadau gan gwmnïau fel Gay Sweatshop a Phoenix Dance a ddylanwadodd arni.[3]

Bu'n arweinydd artistig ar sawl cwmni fel y Red Ladder Theatre Company, Contact Theatre Manceinion, Haymarket Theatre Caerlŷr a CAST Doncaster.

National Theatre Wales

[golygu | golygu cod]

Yn ystod ei chyfnod dadleuol fel arweinydd artistig National Theatre Wales, cafodd y cwmni ei feirniadu am beidio â gwneud digon i gefnogi artistiaid Cymreig, honiadau a wrthodwyd gan Thiarai gan ddatgan "bod bron i 80% o'i holl waith [y cwmni] wedi'i arwain gan artistiaid Cymreig".[1]

Yn Hydref 2018, llofnododd 40 awdur Cymreig a thros 200 o berfformwyr lythyrau agored yn beirniadu’r cwmni am gefnu ar dalent o Gymru, ac am fethu i adlewyrchu’r profiad Cymreig.

Pan ymadawodd â'r cwmni, nododd Gary Raymond yn Wales Arts Review: "For every criticism aimed at Thiarai from a white middle class theatre practitioner in Wales, she was adored by those she worked with from minority backgrounds, and inspired countless people to work in theatre in Wales who otherwise would never have considered a UK national theatre a space in which to express themselves".[4]

Cynyrchiadau

[golygu | golygu cod]
  • Bhangra Girls
  • Kaahini gan Maya Chowdhry,[5]
  • End of Season gan Noel Greig[6]
  • Sleeping Dogs gan Philip Osment
  • Crush gan Rosy Fordham
  • The Soul Exchange (2010) ntw
  • Contacting the World (1998)
  • Death of a Salesman[7]
  • Master Harold and the Boys gan Athol Fugard[8]
  • Bollywood Jane gan Amanda Whittington[9]
  • Fortune Club gan Dolly Dhingra[10]
  • Bones gan Kay Adshead.[11]
  • Kes gan Philip Osment[12][13]
  • The Glee Club gan Richard Cameron
  • We're Still Here [14] am waith Dur Tata

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 Morris, Steven (2018-12-10). "National Theatre Wales to showcase homegrown talent after backlash". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-07-02.
  2. "Kully Thiarai is leaving NTW as relations with Welsh artists are improving". The Stage (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-02.
  3. Carter, Imogen; Bromwich, Kathryn (2016-08-28). "What inspires Hans Ulrich Obrist and seven other cultural tastemakers". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-07-02.
  4. Raymond, Gary (14 June 2019). Kully Thiarai Departure from NTW I Failure of Wales?. Wales Arts Review.
  5. "The Changing Shapes of Red Ladder." (Red Ladder Theatre, 2015). Source automatically downloads here Archifwyd 19 Mawrth 2024 yn y Peiriant Wayback
  6. "Noel Greig Topics List – Unfinished Histories". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 March 2024. Cyrchwyd 19 March 2024.
  7. Web, UK Theatre. "Tour archive for Death of a Salesman (Play). 5th October 2001-27th October 2001 [T01552918441]". UK Theatre Web. Cyrchwyd 19 March 2024.
  8. Web, UK Theatre. "Master Harold..And the Boys (Play) archive [PLAY]". UK Theatre Web. Cyrchwyd 19 March 2024.
  9. Gardner, Lyn (14 May 2003). "Bollywood Jane". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 19 March 2024.
  10. Marlowe, Sam (19 March 2024). "The Fortune Club". The Times. ISSN 0140-0460. Cyrchwyd 19 March 2024.
  11. Adshead, Kay (3 October 2006). Bones. Bloomsbury Publishing. ISBN 978-1-84943-884-1.
  12. Gardner, Lyn (5 September 2014). "Kes – the right show in the right place?". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 16 January 2024.
  13. Gardner, Lyn (10 September 2014). "Kes review – a bustling production that speaks directly to its audience". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 16 January 2024.
  14. Gardner, Lyn (1 May 2017). "From Tata to the NHS: how Kully Thiarai is making theatre for Wales". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 16 January 2024.