Kliph Scurlock

Oddi ar Wicipedia
Kliph Scurlock
Kliph Scurlock mewn cyngerdd
Y Cefndir
Enw
(ar enedigaeth)
Clifton Thomas Scurlock
Ganwyd (1973-06-16) 16 Mehefin 1973 (50 oed)
TarddiadTopeka, Kansas, U.D.A.
Math o GerddoriaethRoc amgen
GwaithCerddor
Offeryn/nauDrymiau
Cyfnod perfformio1991-presennol
Perff'au eraillThe Flaming Lips
Skating Polly
Gruff Rhys

Mae Kliph Scurlock (ganwyd 16 Mehefin 1973) yn gerddor Americanaidd. Roedd e'n ddrymiwr mewn band roc The Flaming Lips o 2002 i 2014.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Cafodd ei eni fel Clifton Thomas Scurlock[1] yn Topeka, Kansas, U.D.A..

Gadawodd Scurlock The Flaming Lips ym Mawrth 2014.[2]

Teithiodd Scurlock gyda Gruff Rhys o'r band Super Furry Animals, fel rhan o fand Rhys ar y daith American Interior rhwng 2014 a 2015. Mae e wedi chwarae mewn band Gulp, gyda Guto Pryce hefyd o'r Super Furry Animals. Roedd e'n rhan o griw llwyfan Super Furry Animals yn ystod ei gigs mis Mai 2015.

Bandiau a phrosiectau[golygu | golygu cod]

Dyma restr o'r bandiau a phrosiectau mae Kliph Scurlock wedi cyfrannu atyn nhw fel drymiwr a chanwr (oni nodir yn wahanol).

  • 2002 i 2014: aelod o fand The Flaming Lips
  • 2014 - 2015: aelod o fand Gruff Rhys ar daith American Interior[3]
  • mis Mai 2015: criw llwyfan Super Furry Animals
  • 25 Medi 2015: aelod o fand byw Gwenno
  • 16 Rhagfyr 2015 - 2 Ionawr 2016: fel 'Cactopus', aelod o fand/cast Candylion; sioe gerdd Gruff Rhys / National Theatre Wales
  • 5 Mawrth 2016 aelod o fand Alun Tan Lan yn y cystadleuaeth Can i Gymru
  • 29 Ebrill 2016 aelod o fand Kansas Dance Troupe a gyfrannodd fersiwn o'r gân Merched Yn Neud Gwallt Eu Gilydd gan Gorky's Zygotic Mynci at yr albwm Iechyd Da ar Recordiau Prin[4]
  • 19-20 mis Mai 2016: cyfranogwr Sesiwn UnNos Radio Cymru fel aelod o'r band Kaüs[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The Flaming Lips - People - The Supporting Cast". FlamingLips.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-10. Cyrchwyd 2007-10-24.
  2. pitchfork.com; Archifwyd 2014-05-09 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 11 Tachwedd 2015.
  3. http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/28686967
  4. http://www.walesonline.co.uk/whats-on/music-nightlife-news/artists-line-up-record-tribute-10951575
  5. http://www.bbc.co.uk/programmes/b07bkxv5

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]