Klez Brandar

Oddi ar Wicipedia

Ffotograffydd, actor a chanwr o Lydaw yw Klez Brandar (ganwyd 1984).

Cafodd Brandar ei eni yn Nantes. Bu'n byw yn Llydaw o'i enedigaeth nes ei fod yn 20 oed. Yna bu'n byw yn Ne America (Yr Ariannin a Brasil), Oceania (Seland Newydd), yr Eidal a Chanolbarth Ewrop (Prague).

Mae'n canu yn Llydaweg, Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg; Eidaleg, Portiwgaleg a Groeg (yn yr albwm Solitania, 2015).

Mae ei ganeuon wedi'u hysbrydoli gan gerddoriaeth werin, byd a phync.

Mae wedi bod yn sglefrfyrddio ers 25 mlynedd ac wedi gwneud sawl fideo sglefrio (Animals, Bonjour Vole, Animals Are Naked, Não Sei Pra Onde Vou a My Obsession).

Creodd Stalabarn Fanzin (yn yr iaith Lydaweg yn y 2010au) a oedd yn ymdrin â diwylliant ac a oedd yn hunan-gyhoeddedig.

Cyhoeddodd lyfr sain tairieithog (Ffrangeg, Saesneg a Tsieceg) yn 2021 (Lusk Dizehan // 06) sydd hefyd yn llyfr papur wedi’i argraffu mewn 200 copi a’i rifo â llaw. Ei lyfr cyntaf oedd Triste Mesure yn 2019; a wnaed gyda'r bardd Marko Luth.

Yn 2020 cynhyrchodd Rivage, albwm slam-rap gyda geiriau tywyll. Yn 2022 mae’n dychwelyd at gerddoriaeth y byd trwy ryddhau Mangrove, albwm sy’n cymysgu roc gwerin a cherddoriaeth byd, wedi’i ganu mewn 5 iaith.

Mae Klez hefyd wedi actio mewn sawl cyfres a ffilm fer gan gynnwys Totems, Pastoral Spring, The Puzzle, Last Light a The Heaviest Weight.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]