Kim Howells
Kim Howells | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 27 Tachwedd 1946 ![]() Merthyr Tudful ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, undebwr llafur ![]() |
Swydd | Minister of State for Transport, Parliamentary Under-Secretary of State for Culture, Media and Sport, Minister of State for Foreign Affairs, Minister of State for Higher Education, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur ![]() |
Bu Kim Howells (ganwyd 27 Tachwedd 1946) yn aelod seneddol San Steffan dros Bontypridd ac yn weinidog gwladol ar gyfer yr adran drafnidiaeth; addysg a sgiliau; a'r swyddfa dramor a'r Gymanwlad.[1]

Bu'n swyddog ymchwil i'r NUM, ac yna'n aelod seneddol dros Bontypridd o 1989 i 2010.[2] Yn 2009 dywedodd y dylai byddin Prydain dynnu'n ôl o Affganistan fesul cam a ffocysu ar ysbïo domestig.[3] Yn yr un flwyddyn cyhoeddodd y byddai'n camu i lawr fel aelod seneddol yn San Steffan ar ôl bron i 21 mlynedd.[4]
Sylwadau yn ystod y cyfnod datagonoli
[golygu | golygu cod]Tra'r oedd yn weinidog addysg yn San Steffan, roedd yn eistedd ar y pwyllgor cabinet oedd yn gyfrifol am lunio'r cynigion ar gyfer refferendwm 1997 a sefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Pleidleisiodd o’i blaid bryd hynny ond yn 2010 dywedodd, “Dw i’n meddwl, o’r refferendwm ym mis Mawrth, mae’n debyg y byddaf yn pleidleisio yn erbyn rhoi mwy o bwerau deddfwriaeth sylfaenol i’r cynulliad oherwydd rwy’n meddwl ei fod yn unochrog ac yn wirion".[5]
Yn 2013 dywedodd y dylid gwrthod cytundeb cydweithredu Llafur Cymru gyda Phlaid Cymru ac y byddai'n lleihau apêl Llafur yng Nghymru ac yn chwarae i mewn i ddwylo Plaid Cymru a fyddai'n gallu beirniadu Llafur yn haws.[6]
Ym mis Gorffennaf 2024, galwodd Kim am newid arweinyddiaeth Plaid Lafur Cymru ac i'r blaid ddisodli Vaughan Gething fel arweinydd.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Parliamentary career for Dr Kim Howells - MPs and Lords - UK Parliament". members.parliament.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-01-27.
- ↑ "Miners' strike: Voices from the Welsh coalfields". BBC News (yn Saesneg). 2024-02-25. Cyrchwyd 2025-01-27.
- ↑ Wintour, Patrick; Tran, Mark (2009-11-04). "Afghanistan divides Labour as army death toll rises". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-01-27.
- ↑ Association, Press (2009-12-18). "Kim Howells to stand down at next election". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-01-27.
- ↑ "Assembly referendum daft, says ex-minister Kim Howells". BBC News (yn Saesneg). 2010-11-27. Cyrchwyd 2025-01-27.
- ↑ Shipton, Martin (2007-07-03). "Howells in attack on Plaid pact". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-01-27.
- ↑ Mansfield, Mark (2024-07-07). "Former Pontypridd MP Kim Howells says Welsh Labour must remove Vaughan Gething as leader". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-01-27.