Khushal Khan Khattak
Khushal Khan Khattak | |
---|---|
Ganwyd | 1613 Akora Khattak |
Bu farw | 19 Chwefror 1689 Tirah |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr |
Swydd | khan |
Plant | Gohar Khan Khattak, Ashraf Khan Khattak |
Bardd yn yr iaith Pashto, rhyfelwr Pashtun a phennaeth llwyth y Khattack oedd Khushal Khan Khattak (1613 – 25 Chwefror 1689) (Pashto: خوشحال خان خټک). Roedd yn fardd gwladgarol a gyfansoddodd yng nghyfnod teyrnasiad yr ymerodron Mughal yn yr 17g; mae nifer o'i gerddi yn ceisio ysbrydoli y pobloedd Pashtun (Pathan) a'r Affganiaid i roi heibio eu cwerylon oesol ac uno â'i gilydd dros ryddid. Roedd yn rhyfelwr dewr ac enwog ac yn ddiweddarach fe'i llysenwyd "y Bardd-Ryfelwr Affgan". Roedd yn byw wrth droed mynyddoedd yr Hindu Kush yn yr ardal sydd erbyn heddiw yn Khyber Pakhtunkhwa, Pacistan.
Cyfansoddodd Khushal Khan gerddi ar sawl pwnc. Mae'n enwog am ei gerddi gwladgarol ond canai hefyd am fywyd yr heliwr rhydd, natur, bywyd da a chwmni merched hardd. Roedd yn arbennig o hoff o ferched yr Affridiaid, un o lwythau mawr y Ffin a arosodd yn ffyddlon i'w achos trwy gydol ei yrfa dymhestlog.[1]
Bu farw yn 78 oed gan adael ar ei ôl dros hanner cant o blant. Cafodd ei gladdu ym mryniau Khattack "allan o gyrraedd y Mughal"; mae'r beddrod i'w weld heddiw, nepell o Attock.[2]