Khalq

Oddi ar Wicipedia

Ymblaid o Blaid Ddemocrataidd Pobl Affganistan oedd y Khalq (Pashto: خلق‎). Ffurfiwyd ym 1967 o ganlyniad i rhwyg ideolegol yn y blaid. Arddelai'r Khalq strategaeth chwyldro'r proletariat er mwyn troi Affganistan yn wlad gomiwnyddol, tra'r oedd eu gwrthwynebwyr yn ymblaid y Parcham yn dadlau dros drawsnewid yn raddol at sosialaeth. Ystyr yr enw Khalq, sydd yn tarddu o deitl ei papur newydd, yw "torfeydd" neu "bobl" yn yr iaith Pashto.

Arweiniwyd y Khalq gan Nur Muhammad Taraki o 1967 i Fedi 1979, Hafizullah Amin o Fedi i Ragfyr 1979, a Sayed Mohammad Gulabzov wedi llofruddiaeth Amin. Cyd-weithiodd y Khalq â'r Parcham i ddymchwel yr Arlywydd Mohammed Daoud Khan trwy Chwyldro Saur yn Ebrill 1978. Cynrychiolwyd y ddwy ymblaid yn y llywodraeth gomiwnyddol newydd, ond dan arweiniad Taraki cafwyd gwared â'r Parcham o arweinyddiaeth Plaid Ddemocrataidd y Bobl. Yn sgil cychwyn Rhyfel yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan yn Rhagfyr 1979, adferwyd Babrak Karmal yn arweinydd y blaid a bu'r Parcham yn drech na'r Khalq. Parhaodd yr ymgecru rhwng y ddwy ymblaid, ac o'r diwedd diarddelwyd nifer o aelodau'r Khalq o Blaid Ddemocrataidd y Bobl, a sefydlwyd Hizb-i Wahdat (Plaid Undod Islamaidd) ganddynt.

Pashtuniaid o'r is-ddosbarthiadau oedd y mwyafrif o aelodau'r Khalq.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Frank A. Clements, Conflict in Afghanistan: A Historical Encyclopedia (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2003), t. 147.