Kevin Barry

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Kevin Barry
Kevin Barry.jpg
Ganwyd 20 Ionawr 1902 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw 1 Tachwedd 1920 Edit this on Wikidata (18 oed)
Achos: crogi Edit this on Wikidata
Mountjoy Prison Edit this on Wikidata
Man preswyl Swydd Dulyn Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Alma mater
  • Prifysgol Dulyn Edit this on Wikidata
Galwedigaeth myfyriwr meddygol, chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata

Myfyriwr meddygol a chenedlaetholwr Gwyddelig oedd Kevin Gerard Barry (20 Ionawr 19021 Tachwedd 1920) a'r cyntaf i gael ei ddienyddio gan Brydain ers iddynt ladd 16 o Wyddelod ym Mai 1916, yn dilyn Gwrthryfel y Pasg. 18 oed ydoedd pan gafodd ei grogi.[1] Y cyhuddiad yn ei erbyn oedd ei fod wedi cymryd rhan, fel un o'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig, mewn ymgyrch pan saethwyd tri o filwyr Prydain. Claddwyd Kevin Gerard Barry ym Mynwent Glasnevin, (Gwyddeleg: Reilig Ghlas Naíon) sef prif fynwent Gatholig Dulyn.[2]

Tra yn Mountjoy Prison, diwrnod neu ddau cyn iddo gael ei ddienyddio, arwyddodd affidavit, yn manylu sut yr oedd wedi cael ei arteithio yn y carchar gan filwyr byddin Prydain, fel ymgais i'w gael i ddatgelu enwau ei gyd-genedlaetholwyr.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. McConville, Séan (2005). Irish Political Prisoners, 1848–1922: Theatres of War. London: Routledge. ISBN 0-415-37866-4.
  2. Curtis, Liz (1995). The Cause of Ireland: From the United Irishmen to Partition. Belfast: Beyond the Pale Publications. ISBN 0-9514229-6-0.
  3. Nodyn: cymerwyd yr affidavit gan Seán Ó hUadhaigh, cyfreithiwr; tyst: Myles Keogh, Ynad Heddwch, ac arwyddwyd ef gan Kevin Barry. Mae'r gwreiddiol yn yr Amgueddfa Genedlaethol.