Neidio i'r cynnwys

Kathleen Thomas

Oddi ar Wicipedia

Nofiwr Cymreig oedd Kathleen Thomas (Ebrill 19061997). Ym 1927 hi oedd y person cyntaf i nofio Môr Hafren.[1]

Cafodd ei geni yn Ne Affrica a daeth i Gymru gyda’i theulu, a benderfynodd aros.[2]

Croesodd hi o Benarth i Weston-super-Mare. Cwblhaodd y nofio ar 5 Medi 1927. Aeth ei hyfforddwr nofio Gus Taylor gyda hi mewn cwch.[3] Daeth ei hewythr Jack hefyd gyda hwy, mewn cwch rhwyfo.

Priododd y newyddiadurwr Frederick Day ym 1931. Bu iddynt bedwar o blant.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Catherine Jones (2012). Wonder Girls (yn Saesneg). Simon & Schuster. ISBN 9781849838856.
  2. "Making history at a stroke" (yn Saesneg). Western Mail. 5 Medi 2007.
  3. The Guinness Book of Records (yn Saesneg). Guinness Superlatives. 1988. t. 290.