Kathleen Mary Ferrier

Oddi ar Wicipedia
Kathleen Mary Ferrier
Ganwyd22 Ebrill 1912 Edit this on Wikidata
Higher Walton Edit this on Wikidata
Bu farw8 Hydref 1953 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Label recordioDecca Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Math o laiscontralto, deep contralto Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Medal Aur Cymdeithas y Royal Philharmonic Edit this on Wikidata

Roedd Kathleen Mary Ferrier, CBE (22 Ebrill 19128 Hydref 1953) yn gantores contralto a sicrhaodd enw da yn ryngwladol fel artist llwyfan, cyngerdd a recordio, gan ganu caneuon gwerin a baledau pop, ynghyd â gweithiau clasurol Johann Sebastian Bach, Johannes Brahms, Gustav Mahler ac Edward Elgar. Bu ei marwolaeth o ganlyniad i gancr, tra ar frig ei henwogrwydd, yn sioc i'r byd cerddorol yn enwedig i'r cyhoedd yn gyffredinol, am nad oeddent yn ymwybodol o'i salwch tan ar ôl ei marwolaeth.

Yn ferch i brifathro ysgol gynradd yn Swydd Gaerhirfryn, dangosodd Ferrier ei thalent fel pianydd yn gnnar, gan ennill nifer o gystadleuthau piano amatur tra'n gweithio fel teleffonydd gyda'r Swyddfa Bost Gyffredinol.  Ni wnaeth ddechrau canu o ddifri tan 1937, pan enillodd cystadleuaeth o fri yng Ngwyl Caerliwelydd a dechrau derbyn cynigion i ganu'n broffesiynol.  Bu'n cael gwersi canu ar ôl hyn, yn gyntaf gyda J. E. Hutchinson ac wedyn gyda Roy Henderson.  Ar ôl toriad Yr Ail Ryfel Byd cyflogwyd Ferrier gan y Council for the Encouragement of Music and the Arts (CEMA), and yn dilyn hyn bu'n canu mewn cyngherddau a pherfformiadau ar draws Prydain.  Yn 1942 cafodd ei gyrfa hwb pan gyfarfu a'r arweinydd Malcolm Sargent, yr hwn a'i chymeradwyodd hi i asiantaeth rheolaeth cyngherddau dylanwadol Ibbs and Tillet.  Daeth yn berfformwraig rheolaidd mewn lleoliadau pwysig yn Llundain, a gwnaeth nifer o ddarllediadau ar radio'r BBC.

Yn 1946, perfformiodd Ferrier am y tro cyntaf yn y Glyndebourne Festival yn opera Benjamin Britten The Rape of Lucretia.  Blwyddyn yn ddiweddarach gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf fel Orfeo yn Orfeo ed Euridice gan Gluck, gwaith a gysylltir a hi'n arbennig.  O'i dewis ei hun, dyma'r unig ddwy rol iddi wneud mewn opera.  Fel yr amlygodd ei henw da, ffurfiodd Ferrier berthnasau gweithiol clos gyda ffigyrau amlwg ym myd cerddoriaeth, megis Britten, Sir John Barbirolli, Bruno Walter a'r cyfeilydd Gerald Moore.  Daeth yn enwog yn ryngwladol yn dilyn ei teithiau i'r Unol Daleithiau rhwng 1948 a 1950 a'r teithiau niferus i gyfandir Ewrop.

Canfyddwyd fod gan Ferrier gancr y fron ym mis Mawrth 1951.  Parhaodd i berfformio ac i recordio rhwng y cyfnodau a dreuliodd mewn ysbytai a'r cyfnodau yn gwella yn dilyn triniaethau;  Ei pherfformiad cyhoeddus olaf oedd fel Orfeo, yn y Tŷ Opera Brenhinol ym mis Chwefror 1953, wyth mis cyn ei marwolaeth.  Ymhlith y nifer o gofebau iddi, sefydlwyd Cronfa Ymchwil Cancr Kathleen Ferrier ym mis Mai 1954. Mae Cronfa Ysgoloriaeth Kathleen Ferrier a weinyddir gan y Royal Philharmonic Society, wedi dyfarnu gwobrau blynyddol i gantorion ifanc proffesiynol addawol.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Plentyndod[golygu | golygu cod]

Man geni Kathleen Ferrier Higher Walton, Swydd Gaerhirfryn

Daeth y teulu Ferrier yn wreiddiol o Sir Benfro.  Mae'r cysylltiad a Swydd Gaerhirfryn yn mynd yn ôl i'r 19eg ganrif, pan symudodd Thomas Ferrier (mab ifancaf Private Thomas Ferrier o Regiment Sir Benfro) i'r ardal ar ôl cael ei leoli gerllaw Blackburn yn ystod cyfnod o aflonyddwch diwydiannol.[1]   Ganwyd Kathleen Ferrier ar 22 Ebrill 1912, mewn pentre o'r enw Higher Walton, Swydd Gaerhirfryn.  Roedd William Ferrier, ei thad, (pedwerydd plentyn Thomas ac Elizabeth, ap Gorton) yn bennaeth yr ysgol gynradd.  Er na chafodd unrhyw hyfforddiant cerddorol, roedd William yn aelod brwdfrydig o'r gymdeithasol opera lleol ac o nifer o gorau, ac roedd ei wraig Alice (ap Murray), a briododd yn 1900, yn gantores brofiadol gyda llais contralto cryf.[2]  Kathleen oedd y trydydd a'r ifancaf o blant y cwpl, yn dilyn chwaer a brawd; pan oedd yn ddwy oed symudodd y teulu i Blackburn, ar ôl i William gael ei benodi yn brifathro ar ysgol St Paul's yn y dref.  Dangosodd Kathleen addewid fel pianydd ers yn ifanc, a chafodd wersi gan Frances Walker, athro piano nodedig yng Ngogledd Lloegr a fu'n ddisgybl i Tobias Matthay.  Datblygodd dalent Kathleen yn fuan iawn;  yn 1924 daeth yn bedwerydd allan o 43 o ddisgyblion yn y gystadleuaeth chwarae'r piano yn yr Wyl yn Lytham St Annes, ac yn y flwyddyn ganlynol daeth yn ail yn y gystadleuaeth.

King George's Hall, Balckburn, y lleoliad y bu i Fferrier wneud nifer o ymddangosiadau pan yn ifanc fel cyfeilydd mewn cyngherddau "enwogion"

Daeth gobeithion Ferrier i fynychu coleg cerdd i ben yn dilyn ymddeoliad William a'r lleihad yn incwm y teulu yn dilyn hynny.  Ym mis Awst 1926 gadawodd yr ysgol i ddechrau gweithio fel hyfforddwraig yn y gyfnewidfa ffon y Swyddfa Bost Gyffredinol yn Blackburn.[3]  Parhaodd gyda'i hastudiaethau piano gyda Frances Walker, ac ym mis Tachwedd 1928 roedd yn enillydd rhanbarthol yn y gystadleuaeth genedlaethol i bianyddion ifanc, a drefnwyd gan y Daily Express.  Er na fu'n llwyddiannus yn y gystadleuaeth derfynol yn Llundain, enillodd Ferrier biano Cramer fel gwobr.[4]  Gwnaeth ymddangosiad derbyniol iawn ar y 10fed o Fawrth 1929 fel cyfeilydd mewn cyngerdd yn y King George's Hall yn Blackburn.[5]  Ar ôl llwyddiannau pellach mewn cystadleuthau piano fe'i gwahoddwyd i berfformio mewn ymddangosiad byr ar y radio yn stiwdios y BBC ym Manceinion, ac ar y 3ydd o Orffennaf 1930 gwnaeth ei darllediad cyntaf yn chwarae gweithiau gan Johannes Brahms a Percy Grainger. Tua'r amser hwn cwblhaodd ei hyfforddiant a daeth yn deleffonydd llawn.

Yn 1931, yn 19 oed, llwyddodd Ferrier yn arholiadau Licentiate yn yr Academi Gerdd Frenhinol.  Yn y flwyddyn honno dechreuodd gael gwersi canu achlysurol, ac ym mis Rhagfyr cymerodd rôl bychan i mezzo-soprano yn ystod perffomriad mewn eglwys o oratorio Elijah gan Felix Mendelssohn. Fodd bynnag, ni chredwyd fod ei llais yn eithriadol;  roedd ei bywyd cerddorol wedi ei ganoli o gwmpas y piano a chyngherddau lleol, yn Neuadd King George a mannau eraill.[6]  Yn gynnar yn 1934 trosglwyddodd i gyfnewidfa Blackpool a symud i fyw gerllaw, i fod yn agos at ei chariad newydd, clerc mewn banc o'r enw Albert Wilson.[7]  Tra'n Blackpool gwnaeth glyweliad ar gyfer y gwasanaeth "speaking clock" newydd a oedd yn cael ei baratoi i'w gyflwyno gan y GPC. Yn ei chyffro, ychwanegodd Ferrier sugn ychwanegol i'w chyfweliad, ac ni chafodd ei dewis i'r detholiad olaf yn Llundain.[8][9]  Roedd ei phenderfyniad yn 1935 i briodi Wilson yn golygu gorffen gweithio yn y gyfnewidfa teliffon, oherwydd y pryd hwnnw, nid oedd y GPC yn cyflogi menywod priod. Ysgrifennodd y biwgraffydd Humphrey Burton am yrfa Ferrier hyd at y pwynt hwn "Am dros ddegawd, pan y dylai fod wedi astudio cerddoriaeth gyda'r athrawon gorau, yn dysgu llenyddiaeth Saesneg ac ieithoedd modern, yn astudio crefft llwyfannu a sgiliau symud, a theithio i Llundain yn rheolaidd i weld opera, roedd Miss Ferrier yn ateb y ffon, wedi priodi rheolwr banc, ac yn ennill cystadleuthau dibwys am chwarae'r piano."

Cyfarfu Ferrier ac Albert Wilson yn 1933, trwy ddawnsio mwy na thebyg, gan fod y ddau yn hoff iawn o wneud hynny.  Pan benderfynodd y ddau y byddent yn priodi, nid oedd ei theulu a'i ffrindiau yn hapus iawn, gan iddynt deimlo ei bod yn ifanc ac yn ddibrofiad, ac nad oedd ganddi hi a Wilson lawer yn gyffredin.  Serch hynny, bu i'r ddau briodi ar 19 Tachwedd 1935.  Yn fuan ar ôl hyn, symudodd y cwpl i Silloth, tref borthladd bychan yn Cumberland, lle apwyntiwyd Wilson fel Rheolwr un o ganghennau'r banc.  Nid oedd y briodas yn llwyddiannus;  roedd y mis mel wedi datgelu problemau anghydmarus corfforol, ac ni chyflawnwyd yr undeb.[10]  Mewn erthygl o deyrnged a ysgrifennwyd ar ddathliad hanner canrif ers marwolaeth Ferrier, mae'r newyddiadurwr Rupert Christiansen yn ysgrifennu am rywioldeb Ferrier fod "dim cyfiawnhad o gwbwl ei bod yn lesbiad, ond ei bod oeraidd yn rywiol."[11]  Llwyddwyd i gadw hyn yn breifat am rai blynyddoedd, tan i ymadawiad Wilson o'r gwasanaeth filitaraidd yn 1940 ddod a'r briodas i ben.  Bu i'r cwpwl ysgaru  yn1947, er iddynt barhau i fod yn ffrindiau.  Ail-briododd Wilson a Wyn Hetherington, ffrind i Fferrier; bu farw yn 1969.

Gyrfa canu cynnar[golygu | golygu cod]

Yr eglwys blwyf yn Aspatria, Cumbria, lle canodd Ferrier yn broffesiynol am y tro cyntaf yn 1937

Yn 1937 cymerodd Ferroer ran yng nghystadleuaeth chwarae piano agored Gwyl Carlisle ac, o ganlyniad i bet bach gyda'i gŵr, cymerodd ran yn y gystadleuaeth canu hefyd.  Enillodd dlws am chwarae'r piano yn hawdd;  yn y rownd derfynol canodd To Daisies a gyfansoddwyd gan Roger Quilter, perfformiad a sicrhaodd iddi'r wobr uchaf am ganu yn yr wyl.  I nodi ei llwyddiant gyda'r piano a llais, dyfarnwyd iddi fowlen arbennig fel pencampwr yr wyl.

Ar ôl ei llwyddiant yn Carlisle, dechreuodd Ferrier dderbyn cynigion i ganu.  Roedd ei hymddangosiad cyntaf fel cantores proffesiynol, yn Hydref 1937, mewn gwyl gynhaeaf yn yr eglwys bentref yn Aspatria.[12]  Ei thal am ganu oedd un gini.  Ar ôl ennill y cwpan aur yng ngwyl Workington yn 1938, canodd Ferrier Ma Curly-Headed Babby[13] mewn cyngerdd yn Nhy Opera Workington.  Roedd Cecil McGivern, cynhyrchydd rhaglen amrywiol gyda Radio Gogleddol y BBC, yn y gynulleidfa ac roedd wedi creu gymaint o argraff arno fel iddo ofyn iddi gymryd rhan yn rhifyn nesaf y rhaglen, a ddarlledwyd o Newcastle upon Tyne ar y 23ain o Chwefror, 1939.  Denodd y darllediad - y cyntaf iddi fel cantores - sylw eang, a arweiniodd at fwy o waith radio, er bu marwolaeth ei mam ar ddechrau mis Chwefror dynnu oddi wrth y llwyddiant hwn.[14][15]  Yng Nghwyl Carlisle yn 1939, canodd Ferrier All Souls' Day gan Richard Strauss, perfformiad a wnaeth gryn argraff ar un o'r beirniad, J. E. Hutchinson, athro cerdd gydag enw da sylweddol.  Daeth Ferrier yn ddisgybl iddo ac, o dan ei arweiniad, dechreuodd ychwanegu at ei reportoire gan gynnwys gweithiau gan Johann Sebastian Bach, Georg Friedrich Händel, Brahms ac Edward Elgar.

Pan ymunodd Albert Wilson gyda'r fyddin yn 1940, penderfynodd Ferrier ddefnyddio ei henw morwynol, gan iddi ganu o dan yr enw 'Kathleen Wilson' tan hynny.  Ymddangosodd yn broffesiynol am y tro cyntaf fel 'Kathleen Ferrier' ym mis Rhagfyr 1940 mewn perfformiad o 'r Meseia gan Handel o dan arweiniad Hutchinson.  Ar ddechrau 1941 bu'n llwyddiannus mewn clyweliad fel cantores gyda'r Cyngor Hyrwyddo'r Celfyddydau (CEMA),  a oedd yn darparu cyngherddau ac adloniadau eraill i wersylloedd milwrol, ffatrioedd a gweithdai eraill.  Dechreuodd Ferrier weithio o fewn y cwmni gydag artistiaid rhyngwladol o fri;  yn Rhagfyr 1941 bu'n canu gyda Cherddorfa Halle mewn perfformiad o Meseia ynghyd ag Isobel Baillie, y gantores enwog.[16]  Fodd bynnag, cafodd ei chais am glyweliad gyda phennaeth cerddoriaeth y BBC ym Manceinion ei wrthod.[17][18]  Cafodd Ferrier well lwc pan ei chyflwynwyd i Malcolm Sargent yn dilyn cyngerdd Halle yn Blackpool.  Cytunodd Sargent wrando arni'n canu, ac ar ôl gwneud hynny fe gymeradwyodd ef hi i Ibbs a Tillett, asiantaeth rheoli cyngherddau a leolwyd yn Llundain.  Cafodd ei derbyn gan John Tillett fel cleient heb oedi ar ôl i Ferrier, yn dilyn cyngor gan Sargent, benderfynu adleoli i Lundain.  Symudodd i fyw at ei chwaer Winifred mewn fflat yn Frognal Mansions, Hampstead ar y 24ain o Ragfyr 1942 .

Enwogrwydd[golygu | golygu cod]

Poblogrwydd[golygu | golygu cod]

Gwnaeth Ferrier ei pherfformiad cyntaf yn Llundain ar yr 28ain o Ragfyr 1942 yn y Yr Oriel Genedlaethol (Llundain), mewn cyngerdd amser cinio a drefnwyd gan Y Foneddiges Myra Hess.  Er iddi ysgrifennu fod y cyngerdd wedi "mynd yn dda"yn ei dyddiadur,[19] roedd Ferrier yn siomedig gyda'i pherfformiad, a daeth i'r canlyniad bod angen iddi gael hyfforddiant llais ychwanegol.  Cysylltodd gyda'r bariton enwog Roy Henderson, gan iddi ganu gydag ef yn Elijah gan Mendelssohn yr wythnos cynt.  Cytunodd Henderson i'w dysgu, a bu'n hyfforddwr llais iddi am weddill ei bywyd.  Eglurodd yn ddiweddarach fod ei "sain gynnes" yn rhannol oherwydd maint y ceudon yng nghefn ei gwddf: "gellid fod wedi rhoi afal gweddol o faint yng nghefn ei gwddf heb rwystr" meddai.[20]  Fodd bynnag, nid oedd y mantais naturiol ffisegol hwn yn ddigon yn ei hunan i sicrhau safon ei llais;  roedd hyn, meddai Henderson, yn deillio o'i "gwaith caled, celfyddyd, didwylledd, personoliaeth ac yn fwy na dim ei chymeriad."

Benjamin Britten yng nghanol y 1960au

Canodd Ferrier y Meseia gan Handel yn Abaty Westminster ar y 17eg o Fai 1943, ar y cyd ag Isobel Baillie a Peter Pears, gyda Reginald Jacques yn arwain.[21][22]  Yn ôl y beirniad Neville Cardus, trwy ansawdd y perfformiad hwn y gwnaeth Ferrier wir apelio am y tro cyntaf i gerddorion.  Arweiodd y perfformiad sicr hwn at ymrwymiadau pwysig eraill, ac at waith darlledu;  daeth i enwogrwydd cenedlaethol trwy ei hymddangosiadau cyson cynyddol ar raglenni poblogaidd megis Forces Favourites a Housewives' Choice.  Ym mis Mai 1944, yn Stiwdios Abbey Road EMI gyda Gerald Moore fel ei chyfeilydd, gwnaeth recordiadau arbrofol o gerddoriaeth gan Brahs, Christoph Willibald Gluck ac Elgar.  Cyhoeddwyd ei record cyntaf a wnaed ym mis Medi 1944 o dan label Columbia;  roedd yn cynnwys dwy gan gan Maurice Green, gyda Moore yn cyfeilio unwaith eto.[23]  Roedd ei chyfnod fel artist recordio gyda Columbia yn un byr ac anhapus;  nid oedd ganddi berthynas dda gyda'r cynhyrchydd, Walter Legge, ac ar ôl ychydig fisoedd trosglwyddodd i Decca.

Ym misoedd olaf y rhyfel parhaodd Ferrier i deithio trwy'r wlad, i ateb y galw cynyddol am ei gwasanaeth gan hyrwyddwyr cyngherddau.  Canodd rhan yr Angel yng ngwaith corawl Elgar Breuddwyd Gerontius yn Leeds ym mis Tachwedd 1944, y perfformiad cyntaf a ddaeth yn un o'i phrif rannau.  Cyfarfu a John Barbirolli ym mis Rhagfyr tra'n gweithio ar un o ddarnau eraill Elgar, Sea Pictures; daeth yr arweinydd yn un o'i ffrindiau agosaf a'i heiriolydd cryfaf.[24]  Perfformiodd Ferrier am y tro cyntaf yn y Proms yn Llundain ar y 15fed o Fedi 1945, gan ganu L'Air des Adieux o opera Pyotr Ilyich Tchaikovsky The Maid of Orleans.[25][26] Er ei bod yn canu ariâu unigol yn aml, nid oedd opera yn un o gryfderau naturiol Ferrier;  roedd wedi mwynhau canu'r brif ran yn fersiwn gyngerdd Carmen gan Georges Bizet yn Stourbridge ym mis Mawrth 1944, a byddai fel arfer yn cadw draw o ymrwymiadau tebyg.[27]  Er hynny, perswadiodd Benjamin Britten, a glywodd hi'n canu'r Meseia yn Abaty Westminster, hi i greu rhan Lucretia yn ei opera newydd The Rape of Lucretia, a oedd i agor yn dilyn y rhyfel yng  Ngwyl Glyndebourne yn 1946.  Byddai'n rhannu'r rol gyda Nancy Evans.[28]  Er fod ganddi amheuon i ddechrau, erbyn dechrau mis Gorffennaf roedd Ferrier yn ysgrifennu at ei hasiant yn dweud ei bod yn mwynhau'r rihyrsals yn fawr iawn a'i fod yn un o'r rhannau gorau y gallai wneud.

Cafodd Ferrier ymateb ffafriol i'w pherfformiadau yn Glyndebourne, a gychwynnodd ar y 12fed o Orffennaf 1946, er nad oedd derbyniad cystal i'r opera ei hunan.[29]  Methodd y daith a drefnwyd yn dilyn yr wyl i ddenu'r cyhoedd a dioddefodd golledion ariannol enfawr. Er, pan gyrhaeddodd yr opera Amsterdam, cafodd dderbyniad twymgalon gan y gynulleidfa iseldiraidd a ddangosodd frwdfrydedd arbennig tuag at berfformiad Ferrier.[30]  Dyma oedd taith dramor cyntaf Ferrier, ac ysgrifennodd lythyr cynhyrfus at ei theulu: "y tai a'r ffenestri glanaf a welais erioed, a blodau yn y caeau yr holl ffordd!"[31]  Yn dilyn ei llwyddiant yn Lucretia cytunodd i ddychwelyd i Glyndebourne yn 1947, i ganu Orfeo yn opera Gluck Orfeo ed Euridice.  Roedd wedi canu aria Che faro ("Beth yw bywyd") Orfeo yn aml fel darn mewn cyngerdd, ac roedd wedi ei recordio yn ddiweddar gyda Decca.  Yn Glyndebourne, achosodd ei gallu actio cyfyngedig anhawsterau yn ei pherthynas gyda'r arweinydd, Fritz Stiedry; er hynny cafodd ei pherfformiad ar y noson gyntaf, y 19eg o Fehefin 1947, ganmoliaeth gynnes.

Bu i gysylltiad Ferrier gyda Glyndebourne ddwyn ffrwyth pan cymeradwywyd hi gan Rudolf Bing, rheolwr cyffredinol yr wyl,  i Bruno Walter fel unawdwraig contralto ym mherfformiad o ganu cylch symffoneg Gustav Mahler Das Lied von der Erde.  Cynlluniwyd hyn ar gyfer Gwyl Rhyngwladol Caeredin yn 1947.  Roedd Walter yn amheus i ddechrau o weithio gyda chantores gymharol newydd, ond ar ôl ei chlyweliad lliniarwyd ei ofnau, meddai yn ddiweddarach, "Deallais gyda hyfrydwch fod yma un o'r cantorion gorau erioed".  Nid oedd y Das Lied von der Erde yn adnabyddus iawn ym Mhrydain yr amser hwnnw, ac nid oedd yn apelio at rai o'r beirniaid;  er hynny, roedd yr Edinburgh Evening News yn meddwl ei fod yn ardderchog.[32]  Mewn bywgraffiad diweddarach o Ferrier, mae Lord Harewood yn disgrifio'r bartneriaeth rhwng Walter a Ferrier, a barhaodd tan salwch olaf y gantores, fel cyfatebiaeth prin o gerddoriaeth, llais ac anian."

Gadawodd Ferrier ar y 1af o Ionawr 1948 ar daith o bedair wythnos i Ogledd yr Amerig, y cyntaf o dair taith trawsiwerydd iddi wneud yn ystod y tair blynedd nesaf.  Yn Ninas Efrog Newydd gwnaeth ganu mewn dau berfformiad o Das Lied von der Erde, gyda Bruno Walter a Philharmonig Efrog Newydd.  Roedd Alma Mahler, gweddw'r cyfansoddwr, yn bresennol yn y cyntaf o'r rhain, ar y 15fed o Ionawr. Mewn llythyr a ysgrifennwyd y diwrnod wedyn, mae Ferrier yn dweud wrth ei chwaer: "Roedd rhai o'r beirniaid yn frwdfrydig, ac eraill ddim cymaint."  Ar ôl yr ail berfformiad, a ddarlledwyd o arfordir i arfordir, perfformiodd Ferrier yn Ottawa a Chicago cyn dychwelyd i Efrog Newydd a chychwyn am adref ar y 4ydd o Chwefror.

Yn ystod 1948, ynghanol llawer o gyhoeddiadau, perfformiodd Ferrier Alto Rhapsody gan Brahms yn y Proms ym mis Awst, gan ganu Mass in B minor gan Bach yng Ngwyl Caeredin y flwyddyn honno.  Ar y 13eg o Hydref ymunodd â Barbirolli a Cherddorfa Halle mewn darllediad o berfformiad Kindertotenlieder, cylch can Mahler.  Dychwelodd i'r Iseldiroedd ym mis Ionawr 1949 ar gyfer cyfres o berfformiadau, yna gadawodd Southampton ar y 18fed o Chwefror i gychwyn ar ei hail daith o'r Amerig.[33]  Agorwyd y daith gyda pherformiad mewn cyngerdd yn yr Efrog Newydd o Orfeo ed Euridice a enillodd glod mawr gan feirniaid Efrog Newydd.  Ar y daith ganlynol, Arpád Sándor (1896-1972), a oedd yn dioddef o iselder a effeithiodd yn arw ar ei gyfeilio, oedd y cyfeilydd.  Nid oedd Ferrier yn ymwybodol o'r iselder ac roedd ei llythyron adref yn disgrifio Sandor fel "y cyfeilydd ofnadwy" a oedd yn haeddu "cic".[34] Pan ddeallodd ei fod wedi bod yn sal ers misoedd, roedd yn ffyrnig iawn tuag at hyrwyddwyr y daith: "Pa hawl oedd ganddoch ei roi i mi."[35]  Yn y pen draw, roedd Sándor yn rhy sal i ymddangos, ac roedd Ferrier yn medru cael John Newmark, cyfeilydd o Ganada, a chafodd y ddau berthynas hir a chynnes.

Marian Anderson, a ddywedodd am Fferier. "Am lais - ac am wyneb!"

Yn fuan ar ôl dychwelyd i Brydain yn gynnar ym Mehefin 1949, gadawodd Ferrier am Amsterdam bel, ar y 14 o Orffennaf, canodd mewn perfformiad byd cyntaf o Spring Symphony gan Britten, gydag Eduard van Beinum a Cherddorfa Concertgebouw.[36]  Roedd Britten wedi ysgrifennu'r gwaith yn arbennig iddi hi.[37]  Rhoddodd ddau berfformiad yng Nghwyl Caeredin ym mis Medi gyda Bruno Walter fel ei chyfeilydd.  Roedd Ferrier yn teimlo fod y perfformiadau hyn yn binacl yr oedd wedi anelu ato dros y tair blynedd diwethaf.[38]  Gwnaed darllediad o un o'r perfformiadau hyn ar record llawer blwyddyn yn ddiweddarach; dywed Alan Blyth y beirniad: "mae cefnogaeth personol a phositif Walter yn amlwg yn gwthio Ferrier i roi o'i gorau".

Bu'n brysur iawn yn ystod y deunaw mis nesaf, gan gwmpasu nifer o ymweliadau a chyfandir Ewrop a thrydydd taith i'r Amerig rhwng Rhagfyr 1949 ac Ebrill 1950.  Torrodd y daith i'r Amerig dir newydd i Ferrier - yr Arfordir Orllewinol - a oedd yn cynnwys tri perfformiad  o Orfeo ed Euridice yn San Ffransisco, gyda Pierre Monteux yn arwain.  Cyfarfu Ferrier gyda Marian Anderson, contralto o'r Amerig yn ystod yr ymarferion.  Dywedodd Anderson am Ferrier - "Am lais - ac am wyneb!"  Roedd Ferrier yn parhau'n brysur ar ôl dychwelyd adref, gyda nifer o gyngherddau yn Amsterdam, Llundain a Chaeredin ynghyd â thaith o Awstria, y Swistir a'r Eidal.[39]  Yn Fiena, y soprano Elisabeth Schwarzkopf oedd cyd-unawdydd Ferrier mewn perfformiad a recordiwyd o Mass in B minor gan Bach, gyda Cherddorfa Sinffoni Fiena o dan arweiniad Herbert von Karajan.  Dywedodd Schwarzkopf yn ddiweddarach fod datganiad Ferrier o Agnus Dei o'r Mass yn uchafbwynt y flwyddyn iddi.

Yn gynnar yn 1951, tra ar daith yn Rhufain, daeth Ferrier i wybod am farwolaeth ei thad ac yntau'n 83 oed.  Er ei bod yn drist o glywed y newyddion, penderfynodd i barhau gyda'r daith; Mae'n nodi yn ei dyddiadur ar y 30 Ionawr : "Bu farw fy nhad yn dawel ar ôl dioddef o'r ffliw a stroc fechan".  Dychwelodd i Lundain ar y 19eg o Chwefror, ac roedd yn brysur yn ymarfer ar unwaith gyda Barbirolli a'r Halle mewn gwaith a oedd yn newydd iddi: Poeme de l'amour et de la mer gan Chausson.  Cafodd y perfformiad hwn ym Manceinion ar y 28ain o Chwefror lawer o glod.  Pythefnos yn ddiweddarach darganfu Ferrier lwmpyn ar ei bron.  Parhaodd i gwblhau nifer o ymrwymiadau yn yr Almaen, yr Iseldiroedd a Glyndebourne cyn gweld ei meddyg ar y 24ain o Fawrth.  Ar ôl cael profion yn Ysbyty Coleg Prifysgol, cadarnhawyd fod ganddi gancr y fron, a chafodd 'mastectomy' ar y 10fed o Ebrill.  Canslwyd pob ymrwymiad;  ymhlith y rhain roedd cyfres o berfformiadau o The Rape of Lucretia gan y Grwp Opera Saesneg, a drefnwyd fel rhan o Festival of Britain 1951.

Free Trade Hall, Manceinion, lle y canodd Ferrier Land of Hope and Glory pan ei ail-agorwyd ar ôl difrod y rhyfel, ar y 16eg o Dachwedd 1951

Dirywiad Iechyd[golygu | golygu cod]

Parhaodd gyrfa Ferrier ar y 19eg o Fehefin 1951. yn y Mass yn B lleiaf yn y Neuadd Frenhinol Albert. Yna gwnaeth ei hymweliad arferol a Gwyl yr Iseldiroedd, gan roi pedwar perfformiad o Orfeo, a chanu Ail Simffoni Mahler gyda Otto Klemperer a Cherddorfa Concetgebouw.[40]  Trwy'r Haf bu'n rhaid iddi drefnu ei hymweliadau gyda'r ysbyty o fewn ei rhaglen gyngerdd;  serch hynny, roedd yn teimlo'n ddigon da i ganu yng Ngwyl Caeredin ym mis Medi, lle y perfformiodd ddwywaith gyda Walter gan ganu Poeme gan Chausson gyda Barbirolli a Cherddorfa Halle.  Canodd Land of Hope and Glory ym mis Tachwedd yn ail-agoriad y Free Trade Hall ym Manceinion, uchafbwynt y noson, yn ôl Barbirolli, "a wnaeth i bawb grio, yn cynnwys yr arweinydd."  Ar ôl hyn, gorffwysodd Ferrier am ddau fis tra'n cael therapi radiation, a'r unig beth iddi wneud trwy mis Rhagfyr oedd recordio caneuon gwerin yn stiwdios Decca am dri diwrnod.

Ym mis Ionawr 1952 ymunodd Ferrier â Britten a Pears mewn cyfres fer o gyngherddau i godi arian tuag at Grwp Opera Saesneg Britten.  Yn ddiweddarach, mae Britten yn disgrifio'r daith fel "efallai y gorau o'r cyfan" o'i gysylltiadau artistig gyda Ferrier.  Er y problemau iechyd parhaus, llwyddodd i ganu yn y St Matthew Passion yn Neuadd Albert ar y 30ain o Fawrth, y Meseia yn y Free Trade Hall ar y 13eg o Ebrill, a'r Das Lied von der Erde gyda Barbirolli a'r Halle ar y 23ain a'r 24ain o Ebrill.[41]  Mynychodd Ferrier ddigwyddiad preifat ar y 30ain o Ebrill, gyda'r Frenhines,Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig, a'i chwaer, Y Dywysoges  Margaret, yn bresennol.  Yn ei dyddiadur, mae Ferrier yn nodi: "Canodd y Dywysoges M - yn dda iawn.!"  Roedd ei hiechyd yn parhau i ddirywio;  gwrthododd gysidro cwrs o bigiadau androgen, gan iddi gredu y byddai'r driniaeth hwn yn difetha ansawdd ei llais.[42]  Ym mis Mai teithiodd i Fiena i recordio Das Lied a Ruckert-Lieder gan Mahler gyda Walter a Philharmonic Fiena;  roedd y gantores a'r arweinydd am gadw ar gof eu partneriaeth ar ddisg.  Er iddi ddiodde'n enbyd, cwblhaodd Ferrier y sesiynau recordio rhwng y 15 a'r 20fed o Fai.

Yn ystod gweddill 1952 mynychodd Ferrier yr Wyl yng Nghaeredin am y seithfed tro yn olynol, gan ganu ym mherfformiadau Das Lied, The Dream of Gerontius, y Meseia a rhai caneuon gan Brahms.[43]  Gwnaeth nifer o sesiynau recordio, yn cynnwys cyfres o arias gan Bach a Handel gyda Sir Adrian Boult a Cherddorfa Philharmonic Llundain ym mis Hydref.  Ym mis Tachwedd, ar ôl datganiad yn y Neuadd Wyl Frenhinol, achosodd rifiw a oedd yn feirniadol iawn o'i pherfformiad am gyflwyno "distracting extra vocal appeals" er mwyn plesio'r gynulleidfa ar draul y caneuon, lawer o bryder iddi.[44]  Fodd bynnag, derbyniodd Ferrier y feirniadaeth yn rasol, gan ddweud ei fod yn anodd plesio pawb - gan am flynyddoedd roedd wedi cael ei beirniadau am fod yn gantores ddiliw ac undonog.[45]  Canodd y Meseia Nadolig i'r BBC ym mis Rhagyr, y tro diwethaf iddi berffformio'r gwaith hwn.  Derbyniodd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) ar Ddydd Calan 1953 yn Rhestr Urddo'r Flwyddyn Newydd y Frenhines.

Orpheur yn arwain Euridice o'r is-fyd - eglureb o rifyn gwreiddiol 1764 o gerddoriaeth Orfeo ed Euridice gan Gluck

Ar ddechrau 1953, roedd Ferrier yn brysur yn ymarfer ar gyfer Orpheus, fersiwn Saesneg o Orfeo ed Euridice i'w lwyfannu mewn pedwar perfformiad yn y Ty Opera Brenhinol ym mis Chwefror.  Roedd Barbirolli wedi bod wrth gefn y prosiect hwn, gyda chaniatad brwdfrydig Ferrier, rai misoedd ynghynt.[46]  Ei hunig ymrwymiad arall ym mis Ionawr oedd recordiad datganiad y BBC, lle'r oedd yn canu gweithiau gan dri chyfansoddwr Saeneg: Howard Ferguson, William Wordsworth ac Edmund Rubbra.  Yn ystod ei thriniaethau rheolaidd yn yr ysbyty trafododd gyda'r meddygon y manteision o gael oophorectomy (tynnu'r wygelloedd), ond pan ddeallodd y byddai'r effaith ar y cancr bron yn ddim ac y byddai'n effeithio'n ddrwg ar ei llais, penderfyniodd i beidio a chael y driniaeth.

Cafodd beffformiad gyntaf Orpheus ar y 3ydd o Chwefror groes twymgalon gan y beirniaid i gyd.  Yn ôl Barbirolli, roedd Ferrier yn arbennig o bles gan sylw un beirniad a nododd fod ei symudiadau mor luniaidd ac unrhyw un o'r dawnswyr ar y llwyfan.[47]  Fodd bynnag, roedd y driniaeth radiation parhaus wedi achosi gwendid corfforol iddi, ac yn ystod yr ail berfformiad, tri diwrnod yn ddiweddarach, chwalodd ei femur chwith yn rhannol.  Symudodd aelodau eraill y cast yn gyflym i'w chynorthwyo, ac nid oedd y gynulleidfa'n ymwybodol o hyn.  Er iddi fethu symud bron, canodd Ferrier gweddill yr arias a chymerodd ei galwadau llenni cyn cael ei trosglwyddo i'r ysybyty.[48]  Dyma ei pherfformiad cyhoeddus olaf;  Gohiriwyd y gweddill o'r perfformiadau, a'i hail-drefnu ar gyfer mis Ebrill i ddechrau, ond a ganslwyd yn y diwedd.[49]  Roedd y cyhoedd yn parhau i fod yn ymwybodol o anallu Ferrier; roedd cyhoeddiad yn Y Guardian yn dweud: "Mae Miss Ferrier yn dioddef o straen yn deillio o athritis sydd angen triniaeth pellach ar unwaith.  Achoswyd hyn gan straen corffol yn deillio o ymarferion a pherfformiadau o'i rol yn Orpheus."

Treuliodd Ferrier ddau fis yn Ysbyty Coleg y Brifysgol.  O ganlyniad, methodd mynd i dderbyn ei CBE;  daeth ei ffrind a'r rhuban iddi tra yn yr ysbyty.[50]   Yn y cyfamser, roedd ei chwaer wedi darganfod fflat ar y llawr gwaelod iddi yn St John's Wood, gan na fyddai bellach yn medru dringo'r holl staerau yn Frognal Mansions.[51]  Symudodd i'w chartre newydd ar ddechrau mis Ebrill, ond ar ôl saith wythnos bu'n rhaid iddi ddychwelyd i'r ysbyty, ond er iddi dderbyn dau driniaeth pellach, dirywiodd ei chyflwr ymhellach.[52]  Clywodd ar ddechrau mis Mehefin iddi dderbyn y Fedal Aur gan Gymdeithas y Royal Philharmonic, y gantores gyntaf i dderbyn yr anrhydedd hwn ers Muriel Foster yn 1914.[53]  Mewn llythyr at ysgrifennydd y Gymdeithas dywedodd fod y "newyddion anhygoel a rhyfeddol hwn wedi gwneud iddi deimlo'n well yn anad dim."[54]  Dyma'r llythyr olaf, dyddiedig 9fed o Orffennaf, mwy na thebyg i Ferrier lofnodi ei hunan.  Wrth iddi wanhau dim ond ei chwaer a rhai ffrindiau agos yn unig oedd yn ymweld a hi, ac, er iddi deimlo'n well ar gyfnodau prin, roedd ei dirywiad yn ddi-baid.  Bu farw yn Ysbyty Coleg y Brifysgol ar yr 8fed o Hydref 1953, yn 41 oed;  y dyddiad, tra'n parhau'n obeithiol am adferiad, yr oedd wedi bwriadu canu A Mass of Life gan Frederick Delius yng Ngwyl Leeds.[55]  Cynhaliwyd angladd preifat byr rhai diwrnodau'n ddiweddarach yng Amlosgfa  Golders Green.[56] Gadawodd ystad o £15,134, swm nad oedd yn ffortiwn i gantores byd-eang, yn ôl Maurice Leonard, ei bywgraffiadur, hyd yn oed yn ôl safonau'r dydd.[57]

Eglwys Gadeiriol Southwark, lle cynhaliwyd gwasanaeth coffa Ferrier ar 14 Tachwedd 1953

Roedd clywed am farwolaeth Ferrier yn sioc enfawr i'r cyhoedd.  Er bod rhai yn y byd cerddorol yn gwybod neu'n amau'r gwir, glynwyd at y gobaith fod ei habsenoldeb o'r byd cyngherddol dros dro yn unig.  Dywedodd y beirniad opera Rupert Christianse, wrth ysgrifennu ar drothwy nodi hanner canrif ers marwolaeth Ferrier, nad oedd unrhyw gantores yn y wlad hon wedi cael ei charu'n fwy, nid yn unig am ei llais ond am ei phersonoliaeth.  Roedd ei marwolaeth, meddai, wedi dryllio llawenydd y Coroniad" (a gymerodd lle ar yr 2il o Fehefin 1953).  Roedd Ian Jack, Golygydd Granta, yn credu iddi fod y fenyw enwocaf ym Mhrydain ers y Frenhines."[58] Ymhlith yr holl deyrngedau gan ei chydweithwyr, yr un gan Bruno Walter oedd yn sefyll allan gan ei bywgraffiaduron: "Y peth mwyaf yng ngherddoriaeth yn fy mywyd yw imi gael adnabod Kathleen Ferrier a Gustav Mahler - yn y drefn honno."[59]  Nifer iawn o gantorion, yn ôl yr Arglwydd Harewood, "sydd wedi ennill teyrnged mor bwerus gan gydweithiwr o'r radd flaenaf." Dywedodd Egsob Croydon, yn ei deyrnged yn y gwasanaeth coffa yn Eglwys Gadeiriol Southwark ar y 14eg o Dachwedd 1953, fod llais Ferrier : "yn ymddangos i ddod a disgleirdeb o fyd arall i'r byd hwn."

Mae nifer o arbenigwyr wedi bod yn tybio i ba gyfeiriad y byddai gyrfa Ferrier wedi arwain pe bae wedi byw yn hwy.  Yn 1951, tra'n gwella ar ôl tynnu ei bron, derbyniodd gynnig i ganu rhan Brangane yn opera Wagner, Trystan ac Esyllt, yng Ngwyl Bayreuth yn 1952.  Yn ôl Christiansen byddai wedi bod yn ogoneddus yn y rol yma, ac roedd rheolwyr Bayreuth hefyd am iddi ganu Erda yn y Der Ring des Nibelungen.[60]  Mae Christiansen hefyd yn awgrymu na fyddai Ferrier wedi bod mor llwyddiannus yn yr ail ganrif ar hugain o ystyried y newidiadau dros yr hanner can mlynedd diwethaf: "We dislike low-lying voices, for one thing - contraltos now sound freakish and headmistressy, and even the majority of mezzo-sopranos should more accurately be categorised as almost-sopranos."  Fodd bynnag, roedd yn "singer of, and for, her time - a time of grief and weariness, national self-respect and a belief in human nobility". Yn y cyd-destun hwn "her artistry stands upright, austere, unfussy, fundamental and sincere."

Yn fuan ar ôl marwolaeth Ferrier lansiwyd apel gan Barbirolli, Walter, Myra Hess ac eraill, i sefydlu cronfa ymchwil cancr yn enw Ferrier.  Derbyniwyd rhoddion ar draws y byd.  I hysbysebu'r gronfa cynhaliwyd cyngerdd arbennig yn y Neuadd Wyl Frenhinol ar y 7fed o Fai 1954, gyda Barbirolli a Walter yn arwain ar y cyd yn ddi-dal.  Ymysg yr eitemau roedd cyflwyniad o When I am laid in earth gan Henry Purcell, a oedd yn cael ei chanu gan Ferrier yn aml;  Ar yr achlysur hwn chwaraewyd y rhan gan unawd cor anglais.  Cynorthwyodd Cronfa Ymchwil Cancr Kathleen Ferrier i sefydlu'r Kathleen Ferrier Chair of Clinical Oncology yn Ysbyty Coleg y Brifiysgol, yn 1984.  O 2012, roedd yn parhau i ariannu ymchwil oncoleg.

O ganlyniad i apel arall, a gynyddwyd gan werthiant memoir a olygwyd gan Neville Cardus, sefydlwyd y Kathleen Ferrier Memorial Scholarship Fund i annog cantorion ifanc gwrywaidd a benywaidd Prydeinig a'r Gymanwlad.  Roedd y Gronfa, sydd wedi bodoli ers 1956 o dan nawdd y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol, yn cynnig gwobr blynyddol ac yn talu'n llawn am astudiaeth blwyddyn i unigolyn.[61][62]   Gyda mwy o gyfranogwyr, mae nifer a chwmpas y gwobrau wedi cynyddu tipyn ers yr amser hwnnw;  mae rhestr enillwyr Gwobrau Ferrier yn cynnwys nifer o gantorion rhyngwladol, yn cynnwys Felicity Palmer, Yvonne Kenny, Lesley Garrett a Bryn Terfel.[63]  Sefydlwyd Cymdeithas Kathleen Ferrier yn 1993 i ennyn diddordeb ym mhob rhan o fywyd a gwaith y gantores, ac ers 1996 wedi dyfarnu bwrsari blynyddol i fyfyrwyr ym mhrif golegau cerdd Prydain.[64]  Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau gan y Gymdeithas i goffau canmlwyddiant genedigaeth Ferrier yn 2012.[65]  Yn mis Chwefror 2012, Ferrier oedd un o ddeg Prydeinwr amlwg i gael ei hanrhydeddu gan y Post Brenhinol yn y set o stampiau "Britons of Distinction".  Frederick Delius oedd un arall.

Cyfarwyddwyd ffilm ddogen bywgraffiadol, Kathleen Ferrier, a adwaenwyd hefyd fel La vie et l'art de Kathleen Ferrier - Le chant de la terre, gan Diane Perelsztejn ac a gynhyrchwyd gan ARTE France yn 2012.[66]  Roedd yn cynnwys cyfweliadau gyda'i pherthnasau agos, ffrindiau a chydweithwyr i gyflwyno golwg ffres o'i bywyd a'i chyfraniadau i'r celfyddydau.  Enwyd y Kathleen Ferrier Crescent, yn Basildon, Essex, er anrhydedd iddi.

"Kathleen Ferrier Centenary 2012". The Kathleen Ferrier Society. Cyrchwyd 2 March 2014.

Recordiadau[golygu | golygu cod]

Mae 'discography' Ferrier yn cynnwys recordiadau stiwdio a wnaed yn wreiddiol ar labeli Columbia a Decca, a recordiadau a gymerwyd mewn perfformiadau byw a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel recordiau.  Yn y blynyddoedd ers ei marwolaeth, mae nifer o'i recordiadau wedi cael ei hail-gyhoeddi ar gyfryngau modern;  rhwng 1992 a 1996 cynhyrchodd Decca y 'Kathleen Ferrier Edition' yn ymgorffori llawer o recordiadau Ferrier, ar 10 cryno-ddisg.  Mae Paul Campion wedi dwyn sylw at nifer o weithiau y gwnaeth berfformio ond na chafwyd eu recordio, neu na chafwyd hyd i'r recordiadau hyn.  Er enghraifft, dim ond un aria o Dream of Gerontius gan Elgar, ac ni recordiwyd yr un o'i pherfformiadau o ganeuon yr 20g gan Gustav Holst, Bax, Delius ac eraill.  Dim ond rhan bychan o'r St John Passion sydd ar gael ar ddisg.

Mae'r recordiad o'r gan werin o Northumbria "Blow the Wind Southerly" a ganwyd yn ddi-gyfeiliant, ac a wnaed i ddechrau gan Decca yn 1949, wedi ei hail-gyhoeddi nifer o weithiau ac fe'i clywir yn aml ar y radio ar raglenni megis Desert Island Discs, Housewives' Choice ac Your Hundred Best Tunes.[67][68]  Aria arall, a recordiwyd am y tro cyntaf yn 1944 a nifer o weithiau ar ôl hynny, yw "What is Life?" (Che faro) o Orfeo ed Euridice.  Gwerthwyd nifer fawr o'r recordiau hyn gan gystadlu a rhai o ser yr amser hwnnw, megis Frank Sinatra a Vera Lynn.  Mae cannoedd ar filoedd o recordiadau Ferrier yn parhau i werthu bob blwyddyn yn yr unfed ganrif ar hugain.[69]

Nodiadau a chyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Nodiadau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cardus, pp. 19–20
  2. Ferrier, pp. 14–16
  3. Leonard, p. 10
  4. Leonard, pp. 12–14
  5. Cardus, pp. 15–16
  6. Leonard, pp. 19–20
  7. Leonard, p. 22
  8. Leonard, p. 23
  9. Ferrier, p. 33
  10. Leonard, pp. 26–28
  11. Christiansen, Rupert (8 September 2003). "The glory of 'Klever Kaff'". The Daily Telegraph.
  12. Leonard, p. 33
  13. "Ma Curly-Headed Babby". Hatzfeld & Co. 1900. Cyrchwyd 18 May 2016.
  14. Leonard, pp. 33–35
  15. Ferrier, pp. 39–40
  16. Leonard, pp. 40–41
  17. Fifield (ed.), p. 17
  18. Ferrier, p. 45
  19. Fifield (ed.), p. 222
  20. Hendeson, pp. 40–41
  21. Leonard, p. 57
  22. Ferrier, p. 53
  23. Campion, pp. 5–6
  24. Leonard, pp. 74–75 and 86
  25. Leonard, p. 80
  26. Ferrier, p. 70
  27. Leonard, p. 67, Fifield (ed.), p. 234
  28. Britten, pp. 83–85
  29. Leonard, pp. 89–90
  30. Leonard, p. 91
  31. Fifield (ed.), p. 33
  32. Leonard, p. 100
  33. Leonard, pp. 115–20
  34. Fifield (ed.), pp. 60–61
  35. Fifield (ed.), p. 64
  36. Leonard, p. 142
  37. Blyth, Alan (2007). "Ferrier, Kathleen (Mary)". Oxford Music Online. Cyrchwyd 2 June 2011.
  38. Fifield (ed.), p. 93
  39. Leonard, pp. 160–64
  40. Leonard, pp. 188–89
  41. Fifield (ed.), p. 296
  42. Leonard, p. 207
  43. Leonard, pp. 217–19
  44. Cardus, Neville (6 November 1952). "Schumann's Frauenliebe und Leben: Kathleen Ferrier at the Royal Festival Hall". The Guardian. t. 3.
  45. Fifield (ed.), p. 181
  46. Leonard, pp. 216 and 228
  47. Barbirolli, p. 107
  48. Fifield (ed.), pp. 183–84
  49. Leonard, pp. 231–34
  50. Leonard, p. 234
  51. Leonard, pp. 235–36
  52. Leonard, pp. 241–45
  53. Fifield (ed.), p. 185
  54. Fifield (ed.), p. 192
  55. Fifield (ed.), p. 305
  56. Leonard, pp. 246–51
  57. Leonard, p. 248
  58. Jack, Ian (28 March 2009). "How suffering became a public act". The Guardian. https://www.theguardian.com/commentisfree/2009/mar/28/jade-goody-public-illness-cancer. Adalwyd 7 June 2011.
  59. Leonard, p. 246
  60. Leonard, pp. 197–98
  61. "About the Fund". The Kathleen Ferrier Memorial Scholarship Fund. Cyrchwyd 7 June 2011.
  62. Leonard, p. 250
  63. "The Kathleen Ferrier Awards: Winners". The Kathleen Ferrier Memorial Scholarship Fund. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 July 2011. Cyrchwyd 7 June 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  64. "Kathleen Ferrier Society Bursary for Young Singers". The Kathleen Ferrier Society. 2010. Cyrchwyd 2 March 2014.
  65. "Kathleen Ferrier Centenary 2012". The Kathleen Ferrier Society. Cyrchwyd 2 March 2014.
  66. "Kathleen Ferrier". IMDb. Cyrchwyd 18 May 2016.
  67. Campion, pp. 43–44
  68. Fifield (ed.), p. 3
  69. Roger Parker (1997). Leonora's Last Act. Princeton University Press. t. 168. ISBN 978-0-691-01557-6.