Katharine, Duges Caint
| Katharine, Duges Caint | |
|---|---|
| Ffugenw | Katharine Kent |
| Ganwyd | 22 Chwefror 1933 Hovingham Hall |
| Bu farw | 4 Medi 2025 Palas Kensington |
| Man preswyl | Coppins, Hovingham Hall, York House, St. James's Palace, Anmer Hall, Wren House |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | athro cerdd, dyngarwr, pendefig |
| Tad | Sir William Worsley, 4th Baronet |
| Mam | Joyce Brunner |
| Priod | Prince Edward |
| Plant | George Windsor, Earl of St Andrews, Helen Taylor, Lord Nicholas Windsor, Lord Patrick Windsor |
| Llinach | Tŷ Windsor |
| Gwobr/au | Bonesig Uwch Groes Urdd y Fictoria Frenhinol, Queen Elizabeth II Silver Jubilee Medal, Medal Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Elisabeth II, Medal Jiwbilî Aur y Frenhines Elisabeth II, Medal Coroni’r Brenin Charles III, Medal Jiwbilî Platinwm y Frenhines Elizabeth II o Loegr, Urdd Teulu Brenhinol Elisabeth II |
| llofnod | |
Roedd Katharine, Duges Caint (ganwyd Katharine Lucy Mary Worsley; 22 Chwefror 1933 – 4 Medi 2025) yn aelod o deulu brenhinol Prydain. Roedd hi'n briod â'r Tywysog Edward, Dug Caint, ŵyr i Siôr V. Roedd hi'n gweithio i elusen ac roedd hi'n un o aelodau mwyaf poblogaidd y teulu brenhinol.[1] Roedd hi'n adnabyddus am ei steil perffaith.[2]
Cafodd Katharine Lucy Mary Worsley ei geni yn Neuadd Hovingham, Swydd Efrog, y pedwerydd plentyn a'r unig ferch i Syr William Worsley, 4ydd Barwnig, a'i wraig Joyce Morgan Brunner (1895–1979), unig ferch Syr John Brunner, 2il Farwnig. [3] [4] Bedyddiwyd hi yn Eglwys yr Holl Saint, Hovingham. [5]
Cafodd Worsley ei haddysg yn Ysgol y Frenhines Margaret, Efrog, ac yn Ysgol Runton Hill yng Ngogledd Norfolk.[6] Yn yr ysgol yna, cyflwynwyd cerddoriaeth iddi, a dysgwyd iddi chwarae'r piano, yr organ a'r ffidil . Drwy gydol ei bywyd fel oedolyn, cerddoriaeth oedd un o'i diddordebau arbennig. [7] [8]
Roedd ei haddysg ffurfiol yn gyfyngedig iawn. Yn ddiweddarach, gweithiodd am gyfnod mewn cartref plant yn Efrog a gweithiodd mewn ysgol feithrin yn Llundain. [9] Aeth i Rydychen i astudio yn Ysgol Miss Hubler, 22 Stryd Merton, lle roedd hi'n un o wyth disgybl. [10]
Cyfarfu Worsley â'r Tywysog Edward, mab hynaf y Tywysog George, Dug Caint, a'r Dywysoges Marina o Wlad Groeg a Denmarc, tra roedd yn byw yng Ngwersyll Catterick . [11] Ar 8 Mehefin 1961, priododd y cwpl yn Eglwys Gadeiriol Efrog.[12] (Roedd y Dywysoges Anne yn un o'r morwynion priodas.)[12] Cynhaliodd Archesgob Efrog Michael Ramsey (yn ddiweddarach Archesgob Caergaint) y gwasanaeth priodas. [12] Dyluniwyd ei ffrog rhwyllen sidan wen gan John Cavanagh. Defnyddiodd 273 llath o ffabrig ac roedd ganddi "wddf uchel a llewys hir a threnau awdurdodol". Daeth y ffrog yn enwog a chafodd ei chopïo gan ddylunwyr sawl gwaith.
Roedd gan y cwpl dri o blant:
- George, Iarll St Andrews (ganwyd 26 Mehefin 1962)
- Y Fonesig Helen Taylor (ganwyd 28 Ebrill 1964)[13]
- Yr Arglwydd Nicholas Windsor (ganwyd 25 Gorffennaf 1970)
Roedd ganddi ddeg o wyrion ac wyresau.
Cafodd y Dduges gamesgoriad ym 1975 [14] oherwydd rwbela , a rhoddodd enedigaeth i fab marw-anedig, Patrick, ym 1977.[14] [15] Wedi hynny, dioddefodd o iselder difrifol. Dywedodd ei fod wedi ei helpu i ddeall menywod eraill oedd wedi dioddef yr un colledion [15]
Trodd y Dduges yn ffurfiol i'r Eglwys Gatholig Rufeinig ym 1994, [16] gan ddod y cyntaf o aelodau teulu brenhinol Prydain i wneud hynny mewn dros 300 mlynedd. [17] Cafodd ganiatâd y Frenhines, Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig.
Penderfynodd y Dduges yn 2002 beidio â defnyddio'r arddull "Ei Huchelder Brenhinol". Gostyngodd ei dyletswyddau brenhinol hefyd. O hynny ymlaen, roedd hi'n cael ei hadnabod yn anffurfiol fel Katharine Kent, neu Katharine, Duges Caint, er bod ei steil ffurfiol yn parhau i fod yn Ei Huchelder Brenhinol Duges Caint. [18] Parhaodd hi i ymddangos mewn digwyddiadau mawr gan gynnwys priodas y Tywysog William a Catherine Middleton yn 2011 a phriodas y Tywysog Harry a Meghan Markle yn 2018. [19] [20] Ni fynychodd angladd y Frenhines Elisabeth II yn 2022 na choroni'r Brenin Siarl III yn 2023. [21]
Bu farw'r Dduges ym Mhalas Kensington ar 4 Medi 2025, yn 92 oed. [22]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The duchess who retreated from royal spotlight for low-key life as a teacher". The Independent (yn Saesneg). 2025-09-05. Cyrchwyd 2025-09-05.
- ↑ Tregaskes, Chandler (2022-02-22). "Fresh fashion forever: 90 years of the Duchess of Kent's elegant style, as it is announced she has died". Tatler (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-05.
- ↑ Mosley, Charles, gol. (2003). Burke's Peerage, Baronetage & Knighthood (arg. 107). Burke's Peerage & Gentry. tt. 4243–4244. ISBN 0-9711966-2-1.
- ↑ Cathcart, Helen (1971). The Duchess of Kent (arg. First). London: W.H. Allen. t. 31.
- ↑ "Christenings". The Times. 3 Ebrill 1933. t. 17.
- ↑ Cathcart, Helen (1971). The Duchess of Kent (arg. First). London: W.H. Allen. t. 61.
- ↑ Cathcart, Helen (1971). The Duchess of Kent (arg. First). London: W.H. Allen. t. 67.
- ↑ Cathcart, Helen (1971). The Duchess of Kent (arg. First). London: W.H. Allen. t. 68.
- ↑ "The Army wife who would occasionally don a tiara". The Telegraph. 19 Mehefin 1999. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Chwefror 2016. Cyrchwyd 24 Mawrth 2018.
- ↑ Cathcart, Helen (1971). The Duchess of Kent. London: W.H. Allen. t. 71.
- ↑ "Engagement Of The Duke Of Kent To Miss Katharine Worsley (1961)". British Pathé. YouTube. 13 Ebrill 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2025-09-13. Cyrchwyd 15 Mai 2018.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ 12.0 12.1 12.2 "Wedding At York Wedding Of Prince Edward". Britishpathe.com. British Pathé. 3 Ionawr 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 13 Mawrth 2017.
- ↑ "'The most iconic royal wedding gowns of all time". Harper's Bazaar. 13 Ebrill 2018. Cyrchwyd 16 Mai 2018.
- ↑ 14.0 14.1 Carpenter, Julie (22 Chwefror 2013). "Duchess of Kent: The reluctant royal at 80". Express.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
- ↑ 15.0 15.1 "I lost my baby at nine months .. it devastated me; The Duchess of Kent reveals the stillbirth that led to a breakdown". The Mirror. 23 Rhagfyr 1997. Cyrchwyd 26 Mawrth 2016.
- ↑ "BBC ON THIS DAY | 14 | 1994: Duchess of Kent joins Catholic church". BBC News. 14 Ionawr 2002. Cyrchwyd 13 Mawrth 2017.
- ↑ Evans, Holly (5 Medi 2025). "Duchess of Kent death: Royal who converted to Catholicism, dies aged 92". The Independent. Cyrchwyd 5 Medi 2025.
- ↑ "About The Duchess of Kent". Royal UK. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2017.
- ↑ Walker, Tim (6 Mehefin 2012). "The Queen – and Sir Cliff Richard – tempt the Duchess of Kent back into the limelight". The Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Ionawr 2022. Cyrchwyd 24 Mawrth 2018.
- ↑ "The Royal wedding guest list in full". 22 Mai 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Mai 2018. Cyrchwyd 22 Mai 2018.
- ↑ Morris, Nicky (19 Medi 2022). "The one royal family member who did not attend the Queen's funeral". Hello!. Cyrchwyd 21 Medi 2022.
- ↑ Coughlan, Sean (5 Medi 2025). "Katharine, Duchess of Kent dies aged 92". BBC News. Cyrchwyd 5 Medi 2025.