Kate Alicia Morgan
Gwedd
Kate Alicia Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mehefin 1983 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | model, athro |
Cyflogwr | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Athrawes, model ac actores o Gymru ydy Kate Alicia Morgan (ganwyd 9 Mehefin 1983 yng Nghaerdydd. Yn 2016 roedd hi'n dal y teitl "Miss Latin America UK 2010" (neu mewn Sbaeneg: Miss America Latina Del Mundo2010), wedi iddi ennill yng Ngweriniaeth Dominica.[1]
Ymddangosodd yn y ffilm Bollywood - Housefull a gynhyrchwyd gan Sajid Khan; yn cydactio gyda hi roedd Akshay Kumar a chyn-enillydd Miss World - Lara Dutta.[2]
Enillodd y teitl Europe's Perfect Woman yn 2011 ac wedi iddi eni ei mab Oshan cystadleuodd yn The World's Perfect Woman yn 2013.[3]
Mae hi'n athrawes ac weithiau'n gweithio i'r BBC ym Mae Caerdydd.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Resultado Del Certamen Miss America Latina Por Cado Año 2013 – 1983". MissAmericaLatina.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-13. Cyrchwyd 2014-11-12.
- ↑ Miss hopes for a big hit, WalesOnline, 29 Mawrth 2010, http://www.walesonline.co.uk/cardiffonline/cardiff-news/2010/03/29/miss-hopes-for-a-big-hit-91466-26127599/
- ↑ 3.0 3.1 Simon Gaskell (28 Gorffennaf 2010). "World's Perfect Woman?". WalesOnline. Cyrchwyd 2014-11-12.