Kanak Sprak

Oddi ar Wicipedia

Kanak Sprak amrywiaeth ar yr iaith Almaeneg a ddatblygodd ymysg Twrciaid ifainc yn yr Almaen yn yr 1980au.

Ceir geiriau eraill am y dafodiaeth yma; "Ghettosprache" (Ghetto iaith), "Türkenslang", "Kiez-Deutsch", "Kiezdeutsch", "Türkendeutsch" and "Kanakisch". [1][2][3][4]

Mae'r dafodiaeth gymdeithasol yn dwyn ei henw o deitl llyfr, 'Kanak Sprak – 24 Mißtöne vom Rande der Gesellschaft' [24 Cenhadaeth o Ymylon Cymdeithas] (1995) gan yr awdur Almaenig-Twrcaidd, Feridun Zaimoğlu. Ystyr y gair, yn fras yw 'Siarad Kanake' mae'r gair Kanake yn wreiddiol yn derm Almaeneg lled-hiliol a ddefnyddid tuag at dramorwyr. Mae'r llyfr yn delio gyda'r cysyniad o ail-afael ac ail-ddiffinio'r term Kanak fel un bositif.

Yn ôl Werner Kallmeyr, cyn siaradwr ar ran y grŵp ymchwil, Instituts für Deutsche Sprache [Sefydliad yr Iaith Almaeneg] mae Kanak-Sprak yn defnyddio "elfennau o Almaeneg wedi symleiddio ac elfennau eraill o gymysgu ieithyddol Almaenig-Twrceg". Mae ymwahanu oddi ar Almaeneg safonnol yn ogystal â cymysgu iaith yn "creu symbol hunaniaeth sy'n mynegu hunaniaeth cymdiethasol rhyng-ddiwylliannol."

Disgrifia eraill y dafodiaeth fel 'ethno-wleidyddol ac eraill fel "multiethnolektale Jugendsprache" [Iaith yr ifanc amlethnig].

Mae'n well gan yr ieithydd Heike Weise y term "Kiezdeutsch" sydd yn osgoi'r awgrym nagatif a geir gyda'r term Kanak Sprak. Ystyr 'Kiez' yw 'ardal' mewn dinas neu faestref. Cysyllti y gair â maestrefi canol Berlin megis Kreuzberg. Mae Kreuzberg yn ardal aml-ethnig gyda chanran uchel o Dwrciaid.

Mae thesis Wieses mai "tafodiaith newydd" yw Kiezdeutsch yn cael ei gwrthddweud gan Helmut Glück, gan fod 'tafodiaith wastad yn ffurf ar fynegiant o ardal arbennig ac sy'n meddu ar ddyfnder hanesyddol". Dadleua Glück fod "yr dylanwad Twrceg ac Arabeg yn dangos" nodweddion "iaith pobl ifanc" yn ogystal â'r drysu gramadegol megis rhwng cenedl enwau ac arddodiaid sy'n wahanol i'r Twrceg. Fel cymhariaeth hanesyddol at yr hyn a alwodd yn "turbodialkt" enwodd y Ruhrdeutsch a ddaeth dan ddylanwad mewnfudo trwm o Wlad Pŵyl yn y degawdau naill ochr i 1900 ac a oedd hefyd yn sociolect.

[1][2][3][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Seyda Ozil, Michael Hofmann, Yasemin Dayioglu-Yücel: 50 Jahre türkische Arbeitsmigration in Deutschland (Türkisch-Deutsche Studien). V&R unipress 2011, S. 209 (Google books).
  2. Jannis Androutsopoulos: Ultra korregd Alder! Zur medialen Stilisierung und Popularisierung von "Türkendeutsch". Linguistik-Server Essen (LINSE), 2001. (PDF Archifwyd 2014-12-09 yn y Peiriant Wayback.)
  3. Vom Türkendeutsch zu Kanakisch
  4. ""Is voll krass eh" - Neue Trends in der Jugendsprache****". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-12. Cyrchwyd 2017-02-07.