Kaddish (cerdd)

Oddi ar Wicipedia
Kaddish
Enghraifft o'r canlynolcerdd Edit this on Wikidata
AwdurAllen Ginsberg Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1961 Edit this on Wikidata
Genrebarddoniaeth Edit this on Wikidata

Cerdd a ysgrifennwyd gan yr awdur bitnicaidd Allen Ginsberg yw "Kaddish", a adwaenir hefyd fel "Kaddish for Naomi Ginsberg 1894-1956", am ei fam Naomi a'i marwolaeth ar 9 Mehefin 1956.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Ginsberg gyfansoddi'r gerdd ym Mharis yn 1957 ac fe'i cwblhawyd yn Efrog Newydd yn 1959. Cyhoeddwyd y gerdd yn y casgliad Kaddish and Other Poems (1961)[1]

Nodiadau[golygu | golygu cod]

Cyfeiria'r teitl, Kaddish, at alarnad Iddewig a genir wedi marwolaeth Iddew, ac sydd yn santeiddio enw Duw. Mae'r gerdd hir hon yn ymgais gan Ginsberg i alaru tranc ei fam ond hefyd i adlewyrchu ei deimlad o golled yn ei ymddieithrio oddi wrth ei grefydd enedigol. Ni cheir yr un cyfeiriad at farwolaeth yn y Kaddish traddodiadol, tra bo cerdd Ginsberg yn frith o synfyfyrion a chwestiynau am farwolaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Allen Ginsberg, Kaddish and Other Poems 1958–1960 (San Francisco: City Lights Books, 1961)