Canwr pob ac R&B[3] o Ganada yw Justin Drew Bieber[4] (ganwyd 1 Mawrth 1994).[1] Darganfuwyd Bieber yn 2008 gan Scooter Braun, a ddaeth o hyd iddo wrth wylio fideos Bieber ar YouTube. Daeth Braun yn rheolwr Bieber, ac fe yw ei reolwr cyfredol. Trefnodd Braun gyfarfod rhwng Bieber ac Usher yn Atlanta, Georgia, a chytunodd Bieber i arwyddo gyda Raymond Braun Media Group (RBMG), cyd-fenter rhwng Braun ac Usher,[5] ac wedyn i gytundeb recordio gydag Island Records a gynigwyd gan L.A. Reid.[6]
Rhyddhawyd ei sengl gyntaf, "One Time", yn fyd-eang yn ystod 2009, a chyrhaeddodd 30 uchaf y siartiau mewn mwy na deg gwlad. Dilynwyd ei sengl gyntaf gyda My World ar 17 Tachwedd, 2009, ac aeth yn blatinwm yn yr Unol Daleithiau yn seiliedig ar ei werthiant. Bryd hynny, rhoddodd hyn y début uchaf gan gerddor newydd y flwyddyn i Bieber, a wnaeth Bieber y cerddor cyntaf i gael saith cân o siart albwm début ar siart Billboard Hot 100.[7] Rhyddhawyd ei CD cyntaf, My World 2.0 ar 23 Mawrth, 2010, a aeth i rif un, gan gynnwys y deg uchaf mewn sawl gwlad. Blaenorwyd My World 2.0 gan ei gân, "Baby", a gafodd lwyddiant rhyngwladol.
Fe anwyd Bieber ar 1 Mawrth 1994, yn Stratford, Ontario. Roedd mam Bieber, Pattie Mallette, yn 18 blwydd oed pan ddaeth yn feichiog gyda fe. Magodd Mallette, a weithiodd swyddi swydd is-dâl, Bieber fel mam sengl. Sut bynnag, mae cysylltiadau gan Bieber gyda'i dad o hyd, Jeremy Bieber.[8][9] Wrth iddo dyfu, dysgodd Bieber ei hun i chwarae'r piano, y drymiau, y gitâr, a'r trymped.[10] Yn 2007 cynnar, pan roedd yn ddeuddeg, canodd Bieber gân Ne-Yo, "So Sick", am gystadleuaeth ganu leol yn Stratford a daeth yn ail.[6] Uwchlwythodd Mallette fideo o'r perfformiad i YouTube ar gyfer eu teulu a'u ffrindiau i'w weld. Parhaodd i uwchlwytho fideos o Bieber yn canu caneuon R&B gwahanol, a thyfodd boblogaeth Bieber ar y gwefan.[11]
Wrth chwilio am fideos gan ganwr gwahanol, cliciodd Scooter Braun, cyn-weithredwr marchnata ar gyfer So So Def, ar fideo o Bieber ar ddamwain.[8] Gwnaeth y fideo argraff arno, traciodd Braun y theatr lle oedd Bieber yn perfformio ynddo i lawr, sef ysgol Bieber, a chysylltodd â Mallette. Roedd Mallette yn anfodlon; roedd yn cofio gweddïo, "Duw, fe roddais ef iti. Gallet ddanfon dyn Cristnogol imi, label Cristnogol!"[8] Sut bynnag, wedi gweddïo gyda'i hynafgwyr yn yr eglwys a chael eu cefnogaeth, cytunodd i Braun hedfan Bieber, a oedd yn 13 ar y pryd,[11] i Atlanta, Georgia, er mwyn recordio tapiau demo.[8] Ar ôl wythnos, canodd Bieber am Usher.[12] Arwyddodd Bieber yn fuan i Raymond Braun Media Group (RBMG), cyd-fenter rhwng Braun ac Usher.[5] Roedd eisiau Bieber ar Justin Timberlake hefyd, ond methodd â'i arwyddo.[5][13] Wedyn, trefnodd Usher gynulleidfa gydag Antonio L.A. Reid o Island Def Jam Music Group, ac arwyddodd Bieber i Island Records ym mis Hydref 2008 (gan ddilyn i gyd-fenter 50/50 rhwng RBMG ac Island Records).[5][6][11] Ar bryd hynny, symudodd Bieber a'i fam i Atlanta, cartref hefyd Usher a Braun, er mwyn sefydlu'i yrfa yno.[5] Wedyn, daeth Braun yn rheolwr i Bieber.[11]
↑ 6.06.16.2Usher Introduces Teen Singer Justin Bieber. Billboard (2009-04-28).Dolen sydd wedi marwGwall cyfeirio: Invalid <ref> tag; name "mitchell" defined multiple times with different contentGwall cyfeirio: Invalid <ref> tag; name "mitchell" defined multiple times with different content