Julian Holloway
Julian Holloway | |
---|---|
Ganwyd | Julian Robert Stanley Holloway ![]() 24 Mehefin 1944 ![]() Watlington ![]() |
Bu farw | 16 Chwefror 2025 ![]() Bournemouth ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor teledu ![]() |
Tad | Stanley Holloway ![]() |
Priod | Zena Walker ![]() |
Partner | Tessa Dahl ![]() |
Plant | Sophie Dahl ![]() |
Actor ac artist llais o Loegr oedd Julian Robert Stanley Holloway (24 Mehefin 1944 – 16 Chwefror 2025).[1] Roedd yn fab i'r actor a'r canwr comedi Stanley Holloway a'r actores Violet Lane ac yn dad i'r awdur a'r cyn fodel Sophie Dahl.
Gan ddechrau yn 1962 cafodd yrfa hir ym myd teledu a ffilmiau yn y Deyrnas Unedig. Ymddangosodd mewn sawl ffilm Carry On. Roedd hefyd yn artist llais llwyddiannus, yn bennaf yn yr Unol Daleithiau.
Yn 1971 priododd â Zena Walker, ond ysgarasant yn fuan wedyn. Yn 1976, cafodd berthynas fer â Tessa Dahl, merch Patricia Neal a Roald Dahl. Arweiniodd y berthynas at un ferch, yr awdur a'r cyn fodel Sophie Dahl, a aned y flwyddyn ganlynol. Ym 1991 priododd â'r actores Debbie Wheeler. Daeth y briodas i ben drwy ysgariad yn 1996.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hayward, Anthony (30 Mawrth 2025). "Julian Holloway obituary". The Guardian. Cyrchwyd 19 Chwefror 2025.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Julian Holloway ar wefan yr Internet Movie Database