Juan Manuel Fangio
Juan Manuel Fangio | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Mehefin 1911 ![]() Balcarce ![]() |
Bu farw | 17 Gorffennaf 1995 ![]() Buenos Aires ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin ![]() |
Galwedigaeth | entrepreneur, gyrrwr Fformiwla Un, gyrrwr ceir cyflym ![]() |
Perthnasau | Juan Manuel Fangio II ![]() |
Gwobr/au | diamond Konex award ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Alfa Romeo Racing, Mercedes F1 Team, Maserati, Scuderia Ferrari ![]() |
Gyrrwr rasio Fformiwla Un o'r Ariannin oedd Juan Manuel Fangio (24 Mehefin 1911 – 17 Gorffennaf 1995). Cystadlodd yn Fformiwla Un o 1950 i 1958 gan enill bencampwriaeth y byd bum gwaith. Ef oedd gyrrwr mwyaf llwyddiannus ei oes. Ar adeg ei ymddeoliad, daliodd y record am y mwyafrif o fuddugoliaethau (24), polion cychwyn (29), lapiau cyflymaf (23), a podia (35), a hynny ar ôl cystadlu mewn dim ond 51 o rasys. Ef yw'r unig yrrwr yn hanes F1 i ennill teitlau gyda phedwar tîm gwahanol: Alfa Romeo (1951), Maserati (1954 a 1957), Mercedes-Benz (1954 a 1955), a Ferrari (1956).
Herwgipio
[golygu | golygu cod]Yn 1957 sefydlodd Fulgencio Batista, arlywydd Ciwba, Grand Prix Ciwba yn La Habana. Enillodd Fangio ras 1957, a dychwelodd ar gyfer ras 1958. Ar 23 Chwefror 1958, herwgipiwyd Fangio o'i westy gan ddau o ddilynwyr Fidel Castro ym Movimiento 26 de julio. Roedd yr herwgipwyr yn gobeithio gorfodi canslo'r ras mewn ymgais i godi cywilydd ar lywodraeth Batista. Fodd bynnag gorchmynnodd Batista i'r ras gael ei chynnal tra bod tîm elitaidd o heddlu yn hela am yr herwgipwyr. Methodd ymchwil yr heddlu. Trosglwyddwyd Fangio gan y herwgipwyr i lysgenhadaeth yr Ariannin yn fuan ar ôl i'r ras ddod i ben. Fel canlyniad o'r digwyddiadau hyn daeth llawer o Giwbaiaid yn argyhoeddedig bod Batista yn colli ei afael ar bŵer. Collodd Batista rym ar ôl Chwyldro Ciwba yn Ionawr 1959, a chafodd Grand Prix Ciwba 1959 ei ganslo. Cafodd herwgipio Fangio ei dramateiddio mewn ffilm o 1999, Operación Fangio.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Gerald Donaldson, Fangio: The Life Behind the Legend (Llundain: Virgin, 2009)
- Karl Ludvigsen, Juan Manuel Fangio: Motor Racing's Grand Master (Sparkford: Haynes, 1999)