Juan Ginés de Sepúlveda

Oddi ar Wicipedia
Juan Ginés de Sepúlveda
Ganwyd11 Mehefin 1490 Edit this on Wikidata
Córdoba Edit this on Wikidata
Bu farw17 Rhagfyr 1573 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, gwleidydd Edit this on Wikidata

Athronydd a diwinydd Catholig Sbaenaidd ac ysgolhaig o ddyneiddiwr oedd Juan Ginés de Sepúlveda (14941573).

Ym 1515 symudodd o Córdoba i'r Eidal ac ymunodd â'r Coleg Sbaenaidd ym Mhrifysgol Bologna. Yno fe weithiodd dan yr athronydd Aristotelaidd Pietro Pomponazzi, ac erbyn 1526 Sepúlveda oedd cyfieithydd swyddogol gweithiau Aristoteles ar gyfer Llys y Pab. Treuliodd ugain mlynedd yn yr Eidal yn casglu, cyfieithu, a chyhoeddi gweithiau Aristoteles.

Yn ei ymgom Democrates alter de justis belli causis apud Indos (1550) mae'n amddiffyn hawl Coron Castilia i wladychu'r Byd Newydd ac i orchfygu'r bobloedd frodorol yno. Galwodd ar syniadaeth Aristoteles, gan gynnwys athrawiaeth yr aristocratiaeth naturiol, i gyfiawnhau ei safbwyntiau. Dadleuodd hefyd bod ymledu gwareiddiad Catholig a masnach Ewropeaidd yn ymgyrch elusennol a oedd o fudd i'r brodorion.[1] Erfyniai Cyngor yr Indes arno am ei farnau ynglŷn ag imperialaeth y Sbaenwyr yn y Byd Newydd, a chafodd Sepúlveda ddadl gyhoeddus yn erbyn Bartolomé de las Casas yng Nghyngor Valladolid (1550–51).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Sepúlveda, Juan Ginés De (1490?–1574)" yn Europe, 1450 to 1789: Encyclopedia of the Early Modern World. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 18 Mehefin 2020.