Juan Carlos Onetti

Oddi ar Wicipedia
Juan Carlos Onetti
GanwydJuan Carlos Onetti Edit this on Wikidata
1 Gorffennaf 1909 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mai 1994 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái, Sbaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr, llyfrgellydd Edit this on Wikidata
Arddullnofel, stori fer Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Miguel de Cervantes Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://onetti.net Edit this on Wikidata

Nofelydd a llenor straeon byrion o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Juan Carlos Onetti (1 Gorffennaf 190930 Mai 1994). Mae ei ffuglen yn portreadu dirywiad y gymuned drefol, a'i gymeriadau yn byw'n anhapus ac yn ynysig ac yn dianc o'r byd absẃrd drwy ffantasi, angau, a'r meddwl. Roedd yn un o ddatblygwyr realaeth hudol, ac ystyrir ei waith yn pontio'r traddodiad Naturiolaidd a'r dirfodaeth sy'n nodweddiadol o lên America Ladin yn yr 20g. Cafodd ei alw'n "sefydlwr nofel newydd America Ladin" gan Mario Vargas Llosa.[1]

Plentyndod, addysg, a gyrfa lenyddol gynnar (1909–43)[golygu | golygu cod]

Ganwyd ym Montevideo, prifddinas Wrwgwái, ar 1 Gorffennaf 1909. Roedd ei dad yn gweithio i'r asiantaeth tollau, ac felly symudodd y teulu yn aml. Ni threuliodd fawr o amser yn yr ysgol, ond bu'n ddarllenwr brwd. Cafodd sawl swydd wahanol yn ystod ei ddauddegau, gan gynnwys gweinydd bwyty, porthor, ac arolygydd grawn.[2]

Aeth i Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, am gyfnod, ac yno dechreuodd ysgrifennu ar gyfer cylchgronau. Cyhoeddodd ei stori fer gyntaf yn y papur newydd La Prensa yn 1933. Cafodd gwaith fel newyddiadurwr gydag asiantaeth Reuters, yn Buenos Aires ac ym Montevideo.[2]

Llyfr cyntaf Onetti oedd y nofel fer El pozo (1939). Roedd yn un o gyd-sefydlwyr y cylchgrawn wythnosol adain-chwith Marcha, ac daeth yn olygydd newyddion yn 1940.[3]

Ei gyfnod yn yr Ariannin (1943–55)[golygu | golygu cod]

Aeth yn ôl i Buenos Aires yn 1943, ac arhosodd yno nes 1955 tra'n gweithio fel newyddiadurwr. Cyhoeddodd ei nofel enwocaf, La vida breve, yn 1950. Lleolir y stori honno, a nifer o'i nofelau eraill, yn y ddinas ddychmygol Santa María.

Llwyddiant a charchar yn Wrwgwái (1955–75)[golygu | golygu cod]

Dychwelodd i Montevideo yn 1955, a gweithiodd am gyfnod yn rheoli cwmni hysbysebu. Penodwyd yn gyfarwyddwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd Wrwgwái yn 1957. Daeth yn olygydd Marcha yn y 1960au.

Ymhlith ei nofelau eraill mae Para una tumba sin nombre (1959), El astillero (1961), a Juntacadáveres (1964). Ymhlith ei gasgliadau o straeon byrion mae Un sueño realizado y otros cuentos (1951) ac El infierno tan temido (1962). His Obras completas (“Complete Works”) were published in 1970, and his Cuentos completos (“Complete Stories”) appeared in 1974.[4] Derbyniodd Wobr Iberia-America o Sefydliad William Faulkner yn 1963.[2]

Yn 1974, yn ystod oes yr unbennaeth sifil-filwrol yn Wrwgwái (1973–85), arestiwyd Onetti a'r mwyafrif o olygyddion eraill Marcha am roddi gwobr ffuglen y cylchgrawn i Nelson Marra am stori sy'n portreadu pennaeth yr heddlu fel arteithiwr.[5] Carcharwyd Onetti mewn gwallgofdy, a phan gafodd ei ryddhau penderfynodd i adael y wlad.[3]

Ei fywyd yn Sbaen (1975–94)[golygu | golygu cod]

Symudodd Onetti i Fadrid, Sbaen, yn 1975, a datganodd na fyddai byth yn dychwelyd i Wrwgwái. Daeth yn ddinesydd Sbaenaidd yn 1978.[3] Derbyniodd Wobr Cervantes, yr anrhydedd uchaf ei bri yn llenyddiaeth Sbaeneg, yn 1980. Er i'r unbennaeth yn Wrwgwái ddod i ben yn 1983, gwrthododd Onetti ddychwelodd i'w famwlad. Rhoddwyd Gwobr Lenyddol Genedlaethol Wrwgwái iddo yn 1985, a bu'n rhaid i'r arlywydd deithio i Sbaen i roddi'r wobr i Onetti.[2]

Dioddefai o iselder ysbryd yn ystod ei flynyddoedd olaf, a threuliodd ei oriau yn y gwely ac yn feddw. Bu ei bedwaredd wraig, Dorothea "Dolly" Muhr, a'i fab Jorge yn gofalu amdano ar ddiwedd ei oes.[3] Cyhoeddwyd ei waith olaf, Cuando ya no importe yn 1993. Bu farw ym Madrid ar 30 Mai 1994, yn 84 oed, o drawiad ar y galon.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mano Vargas Llosa, "Primitives and Creators", Times Literary Supplement (14 Tachwedd 1968) .
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) "Onetti, Juan Carlos" yn Contextual Encyclopedia of World Literature (Gale, 2009). Adalwyd ar 26 Ebrill 2019.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 (Saesneg) Andrew Graham-Youll, "Obituary: Juan Carlos Onetti Archifwyd 2019-04-26 yn y Peiriant Wayback.", The Independent (1 Mehefin 1994). Adalwyd ar 26 Ebrill 2019.
  4. (Saesneg) Juan Carlos Onetti. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Ebrill 2019.
  5. (Saesneg) "A Leading Writer Is Held in Uruguay", The New York Times (26 Chwefror 1974). Adalwyd ar 26 Ebrill 2019.
  6. (Saesneg) "Juan Carlos Onetti, Novelist and Poet, Dies in Madrid at 84, The New York Times (1 Mehefin 1994). Adalwyd ar 26 Ebrill 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Dejal Kadir, Juan Carlos Onetti (Boston, Massachusetts: Twayne, 1977).
  • Gustavo San Román (gol.), Onetti and Others: Comparative Essays on a Major Figure in Latin American Literature (Albany, Efrog Newydd: State University of New York Press, 1999).