Josh Adams

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Josh Adams
Ganwyd 12 Ebrill 1995 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Tîm/au Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Safle Asgellwr Edit this on Wikidata

Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru sy'n chwarae ar yr asgell i glwb Worcester Warriors yn Lloegr yw Josh Adams (ganwyd 12 Ebrill 1995).

Magwyd Adams yn yr Hendy, ger Llanelli.[1] Cafodd Adams ei addysg uwchradd yn Ysgol Gyfun y Strade a gyda Llanelli y dechreuodd ei yrfa rygbi, gan chwarae ei gêm gyntaf yn erbyn Pontypridd yn 2013. Aeth yn ei flaen i chwarae cyfanswm o 30 o gemau o'r clwb a sgorio 9 o geisiau.[2] Chwaraeodd ei unig gêm i'r Sgarlets pan trechwyd hwy gan ranbarth Gleision Caerdydd yn y Cwpan Eingl-Gymreig yn 2014.[3] Chwaraeodd hefyd i dîm Dan-20 Cymru.[4]

Ym Mai 2014, cafodd ei gyhoeddi y byddai Adams yn symud i Gaerwrangon at glwb y Warriors.[5] Cafodd ei roi ar fenthyg i glwb Cinderford hyd at ddiwedd tymor 2015–16.[6]

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 22 Rhagfyr 2017, sgoriodd Adams ddau gais mewn buddugoliaeth o 23–8 yn erbyn Gwyddelod Llundain, ac ef oedd wedi sgorio'r mwyaf o geisiau yn yr Uwch-gynghrair ar ddiwedd Rhagfyr 2017.[7]

Yn Ionawr 2018, cafodd ei alw i fod yn aelod o garfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2018,[8] a chafodd ei enwi yn y tîm a fyddai'n dechrau'r gêm agoriadol yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd.[9]

Ar 23 Chwefror 2019, Adams wnaeth selio'r fuddugoliaeth i Gymru yn erbyn Lloegr yn Stadlwm Principality ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019. Daliodd Adams gic ar draws y cae gan ei gyd-chwaraewr Dan Biggar a'i thirio i roi Cymru ar y blaen o 21 i 13. [10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]