Joseph E. Davies

Oddi ar Wicipedia
Joseph E. Davies
Ganwyd29 Tachwedd 1876 Edit this on Wikidata
Watertown Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mai 1958 Edit this on Wikidata
Washington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA Baner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol y Gyfraith Prifysgol Wisconsin Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiplomydd, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Swyddllysgennad, United States Ambassador to the Soviet Union Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMission to Moscow Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
MamRachel Davies Edit this on Wikidata
PriodMarjorie Merriweather Post, Mary Emlen Knight Edit this on Wikidata
PlantRahel Virginia Davies, Eleanor Tydings Ditzen Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Lenin Edit this on Wikidata

Roedd Joseph Edward Davies (29 Tachwedd 18769 Mai 1958) yn gyfreithiwr a diplomat Americanaidd. Cafodd ei apwyntio gan yr Arlywydd Wilson i fod yn Gomisynnydd Cyfathrebu ym 1912, ac yn Gadeirydd Cyntaf y Comisiwn y Bwrdd Masnach Ffederal ym 1915. Fe oedd yr ail Llysgennad i gynrhychioli'r UDA yn Yr Undeb Sofietaidd ag yn Llysgennad i Wlad Belg a Luxembourg. Roedd Davies yn gynorthwy-ydd arbennig i Ysgrifennydd Talaith Hull o 1939 hyd at 1941, roedd yng ngofal Problemau Argyfwng a Polisiau y Rhyfel. Roedd yn Gadeirydd ar fwrdd yr Arlywydd Roosevelt, War Relief Control Board, o 1942 hyd at 1946. Roedd y Llysgennad Davies yn Gynghorwr Arbennig i'r Arlywydd Harry S. Truman a Ysgrifennydd y Dalaith James F. Byrnes gyda'r rheng Llysgennad yng Nghynhadledd Potsdam ym 1945.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Davies yn Watertown, Wisconsin i rieni Cymreig Edward a Rachel (Paynter) Davies. Mynychodd ysgol y gyfraith ym Mhrifysgol Wisconsin o 1898 hyd at 1901, ac fe raddiodd gyda anrhydedd.[1]:9 Wedi iddo raddio, dychwelodd i Watertown lle cychwynnodd cwmni cyfreithiol arfer preifat. Gwasanaethodd fel dirprwy i'r Wisconsin Democratic Convention ym 1902.:10 Symudodd i Madison, Wisconsin ym 1907 lle ddaeth yn gadeirydd ar the Democratic Party of Wisconsin.:10

Roedd gan Davies rhan bwysig yn sicrhau fod y taleithiau gorllewiniol a Wisconsin yn rhoi eu pleidlais i Woodrow Wilson yn y Confensiwn Cenedlaethol Democrataidd ym 1912. Penodwyd Davies yn bennaeth ar ei ymgyrch gorllewinol.:10–11 Fel gwobr am fod yn rhan allweddol o Wilson yn ennill yr etholiad, gwnaethpwyd Davies yn bennaeth ar Swyddfa'r Corfforaeth. Roedd Davies yn allweddol wrth ffurfio sefydliad olynol y Swyddfa, y Comisiwn Masnach Ffederal, gwasanaethodd fel ei gadeirydd o 1915 hyd at 1916.:11 Ar ddiben yr Arlywydd, pan fu farw'r Senesswr Paul O. Husting yn sydyn ym 1917, ymddeolodd Davies o'r Comisiwn Masnach Ffederal er mwyn sefyll ar gyfer y sedd agored mewn etholiad arbennig.Fe gollodd i'r Gweriniaethwr Irvine Lenroot mewn etholiad canolog a wrthodai rheolaeth i'r Democratiaid o'r Senedd.:14

Apwyntiwyd Davies gan yr Arlywydd Wilson i wasanaethu Unol Daleithiau America fel ymgynghorwr economaidd yn ystod Cynhadledd Heddwch Paris 1919 yn dilyn Y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ei brif ddyletswydd oedd clustfeinio ar y ddau brif weinidog Cymraeg eu hiaith yn y gynhadledd David Lloyd George a Billy Hughes, Prif Weinidog Awstralia, i sicrhau nad oeddent yn defnyddio'r Gymraeg i gynllwynio yn erbyn UDA. Yn ôl adroddiad Davies i'r Arlywydd roedd Lloyd George a Hughes yn defnyddio'r Gymraeg i regi ei gilydd ac i wneud sylwadau mwyaf anweddus am fynychwyr eraill y gynhadledd, ond nid i gyd gynllwyno! Mae'n debyg mae yn adroddiad Davies i'r Arlywydd, ceir y defnydd cynharaf o'r term "côc oen", sef disgrifiad Hughes o Clemenceau i Lloyd George.

Ar ol y golled etholiadol, aeth Davies i Washington, D.C. i ymarfer y gyfraith yn breifat. Ym 1933, ymunodd Rafael Trujillo o Weriniaeth Dominica a Davies i weithio iddo pan geisiodd clirio dyled ei wlad.

Achos llys enwocaf Davies oedd pan amddiffynodd ef cyn-ddeiliaid stoc Ford Motor Company yn erbyn taliad o $30,000,000 i Drysorlys yr UD. Profodd Davies nad oedd ei gleientiaid mewn dyled i'r llywodraeth mewn unrhyw ffordd ond fod ei gleientiaid am dderbyn ad-daliad o $3,600,000. Roedd yr achos - a gymrodd tair mlynedd i fynd i'r gyfraith (o 1924 i 1927) - wedi sicrhau'r tal mwyaf yn hanes bar D.C. sef $2,000,000.

Cynrychiolodd Davies gwleidyddion, arweinyddion llafur a grwpiau lleiafrifol ond ei arbenigedd oedd fel atwrnai gwrth-brawf. Roedd ei cleientiaid corfforaethol yn cynnwys Seagrams, National Dairy, Copley Publishing, Anglo-Swiss, Nestle, Fox Films a nifer eraill. Ym 1937, ei gwmni cyfreithiol oedd Davies, Richberg, Beebe, Busick a Richardson yn D.C.

Ym 1901, priododd Davies a Mary Emlen Knight, merch i John Henry Knight a oedd yn Gyrnol yn y Rhyfel Cartreg, roedd hi'n Democrat cadwrol arweinyddol ag yn gysylltiad busnes i William Freeman Vilas a Jay Cooke. Gwnaethant ysgaru ym 1935. Ei ail wraig oedd yr etifeddes i General Foods, Marjorie Merriweather Post, wnaethant priodi ym 1935 a ysgaru ym 1955.

Llysgennad i'r Undeb Sofietaidd[golygu | golygu cod]

Apwyntiwyd Davies yn Llysgennad i'r Undeb Sofietaidd gan Franklin D. Roosevelt, gwasanaethodd yn y rol yma o 1936 hyd at 1938. Cafodd ei apwyntio yn rhannol am ei sgiliau fel cyfreithwr corfforedig (Cadeirydd y Comisiwn Masnach Ffederal), a cyfreithwr rhyngwladol, ei gyfeillgarwch hir-dymor gyda FDR ers dyddiau Woodrow Wilson a'i ffyddlondeb gwleidyddol i Roosevelt.

Gofynnwyd i Davies gan FDR i gyfrif cryfder y fyddin Sofietaidd, ei lywodraeth a'i diwydiant yn ogystal ag gyda phwy byddai'r Rwsiaid yn ochri gydag yn y rhyfel oedd yn agosau.[2]

Tra bod rhagflaenydd Davies, William Christian Bullitt, Jr wedi bod yn edmygwr o'r Undeb Sofietaidd a ddaeth, i raddau helaeth, i fwynhau brwdfrydedd a gwrthder Stalin, arhosodd Davies yn ddidwyll[3] [angen ffynhonnell] drwy adroddiadau o ddiflaniad miloedd o Rwsiaid y thromorwyr yn yr Undeb Sofietaidd drwy gydol ei arhosiad fel Llysgennad  yr Unol Daleithiau. Roedd ei adroddion o'r Undeb Sofietaidd yn pragmatig, optimistaidd, a fel arfer yn amddifad o feirniadaeth o Stalin a'i bolisiau. Tra ei fod wedi nodi'n fyr am ffurf awdurdodaidd llywodraeth yr USSR, roedd Davies yn canmol adnoddau naturiol diderfyn y wlad a bodlonrwydd y gweithwyr Sofietaidd with iddynt 'adeiladu sosialaeth'.[4] Aeth ar nifer o deithiau o'r wlad, a oedd wedi eu trefnu'n ofalus gan swyddogion Sofietaidd. Yn un o'i nodiadau olaf o Moscow i Washington D.C., nodwyd Davies:

"Communism holds no serious threat to the United States. Friendly relations in the future may be of great general value."[5]

Mynychodd Davies prawf Yr Un ar Hugain, a oedd yn un o brofion carthiad Stalin o'r 1930'au hwyr.[6] Roedd Davies yn argyhoeddiedig o euogrwydd y cyhuddedig. Yn ol Davies, "the Kremlin's fears [regarding treason in the Army and Party] were well justified".[7] Roedd ei farn yn groes i lawer o wasg y Gorllewin ar y pryd, yn o gystal a nifer o'i staff, ac roedd llawer ohonynt wedi treulio mwy o amser yn y wlad nag oedd Davies wedi.[8] Ysgrifennodd y diplomydd gyrfa Charles Bohlen, a wasanaethodd o dan Davies ym Moscow, yn ddiweddarach:[8]

"Ambassador Davies was not noted for an acute understanding of the Soviet system, and he had an unfortunate tendency to take what was presented at the trial as the honest and gospel truth. I still blush when I think of some of the telegrams he sent to the State Department about the trial." (p.51)
"I can only guess at the motivation for his reporting. He ardently desired to make a success of a pro-Soviet line and was probably reflecting the views of some of Roosevelt's advisors to enhance his political standing at home."(p.52)

Honnodd Davies fod comiwnyddiaeth yn "protecting the Christian world of free men" hyd yn oed, ac fe annogodd i bob Gristion "by the faith you have found at your mother's knee, in the name of the faith you have found in temples of worship" i groesawu'r Undeb Sofietaidd.[9]

Ar ôl Moscow, neilltuwyd Davies i'r swydd o Llysgennad yng Ngwlad Belg (1938-1939) a'n Weinidog i Lwcsembwrg  ar y cyd cyn cael ei alw'n ol i'r Unol Daleithiau yn dilyn datganiad y rhyfel ym 1939. Gwasanaethodd Davies fel gyfarwyddydd arbennig i Ysgrifennydd y Wladwriaeth Cordell Hull.

Mission to Moscow[golygu | golygu cod]

Arweinyddodd gwaith Davies yn yr Undeb Sofietaidd ar ei lyfr poblogaidd, Mission to Moscow. Roedd y llyfr - argraffwyd gan Simon & Schuster ym 1941 wedi gwerthu 700,000 o gopiau dros y byd mewn sawl gwahanol iaith - yn cynnwys llythyron, cofnodion o ddyddiaduron, ac adroddiadau Adran y Wladwriaeth rhwng 1936 a 1938, fe ganiataodd Roosevelt i Davies eu defnyddio.

Ym 1943, cafodd y llyfr ei addasu i ffilm Warner Bros. oedd gyda Walter Huston fel Davies a Ann Harding fel ei wraig Marjorie Post Davies. Fel rhan o gytundeb ei llyfr, roedd gan Davies rheolaeth dros y sgript, gwrthododd y sgript wreiddiol, achosodd hyn i Warner Bros. cyflogi sgriptiwr newydd, Howard Koch, i ailysgrifenu'r sgript gyda cymeradwyaeth Davies.[10] Roedd y ffilm, cafodd ei wneud yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn dangos yr Undeb Sofietaidd o dan Joseff Stalin mewn ffordd cadarnhaol. Cafodd ei gwblhau yn hwyr ym mis Ebrill 1943, roedd y ffilm, yng ngeiriau Robert Buckner, cynhyrchydd y ffilm, "an expedient lie for political purposes, glossily covering up important facts with full or partial knowledge of their false presentation...

I did not fully respect Mr. Davies' integrity, both before, during and after the film. I knew that FDR had brainwashed him..."[11]

Rhoddodd y ffilm darlun un ochrog o brofion Moscow, yn rhesymoli cyfraniad Moscow i'r cytundeb Nazi-Sofietaidd a'i ymosodiad heb alw ar y Ffindir, a phortreadodd yr Undeb Sofietaidd fel gwladwriaeth a oedd yn symud tuag at fodel democrataidd, Undeb Sofietaidd sy'n ymroddedig i ryngwladoliaeth. Yn yr un ffordd a wnaeth y llyfr,[12] roedd y ffilm terfynol yn portreadu'r diffynyddion ym mhrofion Moscow i fod yn euog o safbwynt Davies. Roedd hefyd yn portreadu rhai carthiadau eraill fel ymdrech gan Stalin i ddifa ei wlad o bobl y pumed golofn oedd o blaid yr Almaen.[13]

Ail 'Mission to Moscow'[golygu | golygu cod]

Ym Mai 1943, anfonodd Roosevelt Davies ar ail tasg ym Moscow. Roedd wedi mynd am 27 diwrnod ac wedi teithio 25,779 milltir, yn cario neges cyfrinachol wrth yr Arlwydd i Stalin. Oherwydd y rhyfel yn Ewrop, doedd Davies ddim yn gallu hedfan dros Ewrop, felly fe aeth o Efrog Newydd i Brazil, i Dakar; Luxor, yr Aifft, Baghdad, Iraq; Teheran, Iran; Kuibyshev, Rwsia; Stalingrad, Rwsia ag ymlaen i Foscow. Dychwelodd i'r Unol Daleithiau drwy Novosibirsk ag Alaska.[14]

Roedd FDR am drafod materion gyda Stalin - un ar un - a theimlai byddai trefnu'r cyfarfod drwy gyfaill ymddiriedol - Davies - yn haws. Yn y llythyr, gofynnodd FDR am ymweliad rhwng ei hunan a Stalin lle byddent yn gallu trafod materion heb ataliaeth. Byddai dim ond yn cynnwys cyfieithydd ac ysgrifennwr. Roedd y Prif Weinidog Churchill a'r Weinidog Tramor yn cwrdd â Stalin a Molotov yn aml. Ond doedd FDR a'r Ysgrifennydd Hull heb. Cytunodd Stalin i gwrdd yn Fairbanks, Alaska ar 15 Gorffennaf neu 15 Awst. Gofynnodd i Davies pwysleisio i FDR fod Hitler yn lluosi ei gynghyrair er mwyn eu gyrru allan ac fod angen mwy o bopeth drwy Lend-Lease.[15]

Roedd Davies yn synnu dod o hyd i lawer o'r un gelyniaeth a beth oedd yn rhagfarn yn y corff diplomyddol U.D. ym Moscow tuag at y Rwsiaid fel pan oedd yno ym 1937-1938. Cwynodd wrthynt y gallai beirniadaeth gyhoeddus o gynghrair Sofietaidd America fod yn niweidiol i'r ymdrech ryfel.

Gyrfa ar ol y Rhyfel[golygu | golygu cod]

Yn dilyn Yr Ail Ryfel Byd, ymsefydlodd Davies a'i wraig yn Nhregaron, lle roeddynt yn diddanu'n aml.

Ym 1945, wnaethpwyd Davies yn Gennad Arbennig i'r Arlywydd Truman, gyda'r rheng o Lysgennad er mwyn iddo allu ymgynghori gyda'r Prif Weinidog Churchill a Ymgynghorwr Arbennig yr Arlywydd Harry S. Truman a Ysgrifennydd y Wladwriaeth James F. Byrnes, gyda rheng Llysgennad yng Nghynhadledd Potsdam. Adneuwyd ei bapurau o'r cyfnod yma i Lyfrgell y Gyngres, roeddynt yn gyfrinachol am gyfnod hir.

Ysgarwyd Davies a'i wraig Marjorie ym 1955. Gwerthodd hi ei chwch hwylio, y Sea Cloud, i Trujillo. Parhaodd Davies i fyw yn ei gartref 'Tregaron' (enwyd ar ol y pentref yng Nghymru lle anwyd ei dad) yn Washington D.C. tan ei farwolaeth o hemorrhage ymenyddol ar 9 Mai 1958.

Cafodd llwch y Llysgennad Davies eu claddu mewn claddgell yn yr Eglwys Gadeiriol Cenedlaethol, yn Washington D.C. Rhoddod y ddwy ffenestr lliw gwydr (oedd yn 50 troedfedd) i'r Eglwys Gadeiriol er anrhydedd i'w fam, Rachel Davies (Rachel o Fon), yn ogystal a'i gasgliad o eiconau a chalicesau Rwsia ar gyfer eu hamgueddfa newydd ei greu - gan Dean y Y Gadeirlan, Frank Sayre (ŵyr Woodrow Wilson). Gwerthwyd yr erthyglau prin hyn mewn arwerthiant gan Sotheby yn 1976 ar ôl marwolaeth Davies i dalu dyled y Gadeirlan.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Unol Daleithiau – Medel Teilyngdod, 1946
  • USSR – Order of Lenin
  • Ffrainc - Légion d'honneur, Mai 1950
  • Gwlad Belg Grand Cordon de l'Ordre de Leopold, Chwefror 1940
  • Gwobrwyon wrth llywodraethau Luxembourg; Groeg; Yugoslavia; the Dominican Republic; Peru; Panama; a Mexico.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. MacLean, Elizabeth Kimball (1992). JOSEPH E. DAVIES – Envoy to the Soviets. Westport, CT: Praeger Publishers. ISBN 0-275-93580-9.
  2. Evers, Emlen Davies and Grosjean, Mia – Spaso House – 75th Anniversary, Public Affairs Section, Embassy of the USA, Moscow, June 2008
  3. Manuscript Division, Library of Congress; Joseph Edward Davies Papers: A Finding Aid to the Collection in the Library of Congress
  4. Barmine, Alexander, One Who Survived, New York: G.P. Putnam (1945), p. 208
  5. Joseph Davies (April 20, 1938) Memorandum, Declassified, 1980.
  6. Joseph E. Davies. Mission to Moscow (New York: Pocket Books, 1941) pp. 233–238.
  7. Archie Brown (2011) The Rise and Fall of Communism, New York: Ecco and HarperCollins. p.75
  8. 8.0 8.1 Charles E. Bohlen (1973) Witness to History, New York: Norton.
  9. Louis F. Budenz (1952). The Cry Is Peace. H. Regnery Company. tt. 3–4.
  10. Culbert, David H., Mission to Moscow, University of Wisconsin Press (1980), ISBN 0-299-08384-5, ISBN 978-0-299-08384-7, p.16-17
  11. Culbert, David H., Mission to Moscow, University of Wisconsin Press (1980), ISBN 0-299-08384-5, ISBN 978-0-299-08384-7, pp. 253–254
  12. Joseph E. Davies, Mission to Moscow, New York, Pocket Books, 1941, pp. 235–238.
  13. Bennett, Todd, Culture, Power, and Mission to Moscow: Film and Soviet-American Relations during World War II, The Journal of American History, Bloomington, IN (Sep 2001), Vol. 88, Iss. 2
  14. Life Magazine, 4 October 1943.
  15. Davies, Joseph E., MISSIONS FOR PEACE – 1940–1950; Unpublished manuscript in Library of Congress

Darllen ychwanegol[golygu | golygu cod]

  • Davis, G. Cullom. "The Transformation of the Federal Trade Commission, 1914–1929," The Mississippi Valley Historical Review, (1962), 49#3 pp. 437–455 in JSTOR
  • Maclean, Elizabeth Kimball, Joseph E. Davies: Envoy To The Soviets, Praeger Publishers, 1993, ISBN 0-275-93580-90-275-93580-9
  • MacLean, Elizabeth Kimball. "Joseph E. Davies: The Wisconsin Idea and the Origins of the Federal Trade Commission," Journal of the Gilded Age and Progressive Era (2007) 6#3 pp. 248–284.

Ffynonellau cynradd[golygu | golygu cod]

  • Davies, Joseph Edward, Mission to Moscow, Simon & Schuster, 1941.
  • Department of Commerce – Bureau of Corporations, "TRUST LAWS AND UNFAIR COMPETITION" – Joseph E. Davies, Commissioner of Corporations – March 15, 1915 (832 page tome )
  • Library of Congress: Joseph Edward Davies Papers [1]
  • Yergin, Daniel, "Shattered Peace: The Origins of the Cold War and the National Security State", Houghton Mifflin Company, 1977.
  • Catalogue of the Joseph E. Davies Collection of Russian Paintings and Icons Presented to The University of Wisconsin; Catalogue issued by the Alumni Association of the University of Wisconsin of the City of New York, 1938

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]